- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
9.—(1) Caiff y Cynulliad benderfynu, mewn achosion eithriadol, ar sail tystiolaeth ddogfennol a ddarparwyd gan y deiliad, a chan ystyried Atodiadau I, II a III a gwerthoedd terfyn crynodiad yn y Rhestr Wastraffoedd, nad yw swp penodol o wastraff yng Nghymru sydd—
(a)wedi'i restru fel gwastraff peryglus yn y Rhestr Wastraffoedd;
(b)wedi'i restru mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 62A(1) o Ddeddf 1990; neu
(c)sy'n cael ei drin, er ei fod o fath nad yw wedi'i restru fel gwastraff peryglus yn y Rhestr Wastraffoedd, fel gwastraff peryglus yn unol â rheoliad 8(2),
yn amlygu unrhyw un o'r nodweddion a restrir yn Atodiad III i'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus, ac felly ei fod i'w drin i bob pwrpas fel gwastraff nad yw'n beryglus yng Nghymru.
(2) Mae swp penodol o wastraff a gynhyrchwyd yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon ac sydd wedi'i restru fel gwastraff peryglus yn y Rhestr Wastraffoedd ac y penderfynir am y tro gan yr Ysgrifennydd Gwladol, Gweithrediaeth yr Alban, neu Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon, yn ôl y digwydd, ei fod yn wastraff nad yw'n beryglus yn unol ag Erthygl 3 o Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd, i'w drin, yn ddarostyngedig i unrhyw benderfyniad a wneir o dan reoliad 8, i bob pwrpas fel gwastraff nad yw'n beryglus yng Nghymru.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: