ATODLEN 12DARPARIAETHAU TROSIANNOL

DARPARIAETHAU'R RHEOLIADAU HYN

I12

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gamau a gymerwyd gan gynhyrchydd neu draddodwr cyn i'r paragraff hwn ddod i rym ond a fyddai, pe baent wedi'u cymryd ar ôl iddo ddod i rym, wedi bod yn hysbysiad a oedd yn cydymffurfio â rheoliad 26 (“rhaghysbysiad”).

2

Mae rhaghysbysiad i'w ystyried yn hysbysiad a roddir pan fydd y paragraff hwn wedi dod i rym.

3

Nid yw rheoliad 28(1) yn gymwys i hysbysiad sy'n codi o raghysbysiad a daw'r hysbysiad hwnnw'n effeithiol, yn lle hynny:

a

os gofynnodd y person a roes y rhaghysbysiad am ddyddiad ar gyfer cychwyn, ar ddechrau'r dyddiad y gofynnwyd amdano felly;

b

os na chafodd unrhyw gais o'r fath ei wneud, ar ddechrau'r pedwerydd diwrnod ar ôl y diwrnod y digwyddodd y rhaghysbysu;

c

pan fydd y taliad o'r ffi berthnasol wedi'i dderbyn gan yr Asiantaeth;

ch

pan fydd y paragraff hwn wedi dod i rym;

p'un bynnag yw'r diweddaraf.

4

Pan fo'r Asiantaeth yn dyroddi cod mangre ar gyfer mangre sy'n destun rhaghysbysiad a roddwyd yn unol â'r paragraff hwn, mae'r cod hwnnw i'w ystyried yn god a ddyroddwyd ar y dyddiad y daeth y paragraff hwn i rym.

5

Pan fo'r ffi berthnasol wedi'i thalu i'r Asiantaeth ar gyfer rhaghysbysiad, mae'r ffi honno i'w hystyried yn ffi sydd wedi'i thalu at ddibenion rheoliad 26(7) pan fydd y paragraff hwn wedi dod i rym.