ATODLEN 12DARPARIAETHAU TROSIANNOL

Rheoliad 74

DARPARIAETHAU'R RHEOLIADAU HYN

I1I11

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw hysbysiad o fangre a roddir at ddibenion y Rheoliadau hyn o'r diwrnod ar ôl diwrnod gwneud y Rheoliadau hyn a chyn 16 Gorffennaf 2005.

2

Pan fwriedir symud gwastraff o unrhyw fangre ar ôl 16 Gorffennaf 2005, caiff cynhyrchydd, ac, o dan yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer yn rheoliad 25, traddodwr, hysbysu mangre i'r Asiantaeth ymlaen llaw yn unol â rheoliad 26.

3

Ni chaiff yr amser effeithiol fod ar ddyddiad sy'n gynharach nag 16 Gorffennaf 2005 nac ar ddyddiad sy'n hwyrach nag 16 Medi 2005.

4

Rhaid i'r Asiantaeth, pan fydd hysbysiad wedi'i roi'n briodol yn unol â'r paragraff hwn, ddyroddi cod mangre yn unol â rheoliad 27.

5

Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y paragraff hwn yr un ystyron ag yn Rhan 5.

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. 12 para. 1 mewn grym ar 6.7.2005, gweler rhl. 1(2)(a)

I22

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gamau a gymerwyd gan gynhyrchydd neu draddodwr cyn i'r paragraff hwn ddod i rym ond a fyddai, pe baent wedi'u cymryd ar ôl iddo ddod i rym, wedi bod yn hysbysiad a oedd yn cydymffurfio â rheoliad 26 (“rhaghysbysiad”).

2

Mae rhaghysbysiad i'w ystyried yn hysbysiad a roddir pan fydd y paragraff hwn wedi dod i rym.

3

Nid yw rheoliad 28(1) yn gymwys i hysbysiad sy'n codi o raghysbysiad a daw'r hysbysiad hwnnw'n effeithiol, yn lle hynny:

a

os gofynnodd y person a roes y rhaghysbysiad am ddyddiad ar gyfer cychwyn, ar ddechrau'r dyddiad y gofynnwyd amdano felly;

b

os na chafodd unrhyw gais o'r fath ei wneud, ar ddechrau'r pedwerydd diwrnod ar ôl y diwrnod y digwyddodd y rhaghysbysu;

c

pan fydd y taliad o'r ffi berthnasol wedi'i dderbyn gan yr Asiantaeth;

ch

pan fydd y paragraff hwn wedi dod i rym;

p'un bynnag yw'r diweddaraf.

4

Pan fo'r Asiantaeth yn dyroddi cod mangre ar gyfer mangre sy'n destun rhaghysbysiad a roddwyd yn unol â'r paragraff hwn, mae'r cod hwnnw i'w ystyried yn god a ddyroddwyd ar y dyddiad y daeth y paragraff hwn i rym.

5

Pan fo'r ffi berthnasol wedi'i thalu i'r Asiantaeth ar gyfer rhaghysbysiad, mae'r ffi honno i'w hystyried yn ffi sydd wedi'i thalu at ddibenion rheoliad 26(7) pan fydd y paragraff hwn wedi dod i rym.

Annotations:
Commencement Information
I2

Atod. 12 para. 2 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

I33

Pan fo gwaith symud gwastraff drwy biblinell o unrhyw fangre wedi'i ddechrau cyn 16 Gorffennaf 2005 ond yn parhau ar ôl hynny, mae rheoliad 41 yn effeithiol fel petai 16 Gorffennaf 2005 oedd y diwrnod cyntaf y cafodd y gwastraff ei symud drwy biblinell.

Annotations:
Commencement Information
I3

Atod. 12 para. 3 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

RHAN 2CYFUNDREFNAU CANIATÁU

I44

1

Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr Atodlen hon, mae cyfeiriad mewn trwydded gwastraff at wastraff arbennig, neu at wastraff arbennig o unrhyw ddisgrifiad (sut bynnag y mae wedi'i lunio), yn gyfeiriad at wastraff peryglus, neu wastraff peryglus o'r disgrifiad hwnnw, yn ôl y digwydd.

Annotations:
Commencement Information
I4

Atod. 12 para. 4 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

I55

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â gwastraff nad oedd yn wastraff arbennig yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym os bydd y gwastraff hwnnw yn dod yn wastraff peryglus o ganlyniad i'r Rheoliadau hyn (“gwastraff y mae ei statws wedi'i newid”).

2

Nid yw unrhyw waharddiad cyffredinol neu gyfyngiad cyffredinol sydd wedi'i gynnwys mewn trwydded gwastraff sy'n ymwneud â gwaredu neu adfer gwastraff arbennig o dan y drwydded honno yn union cyn i'r Rheoliadau hynny ddod i rym yn gymwys i waredu neu adfer gwastraff y mae ei statws wedi'i newid i'r graddau y mae'r drwydded yn benodol yn awdurdodi gwaredu neu adfer y math hwnnw o wastraff.

3

Caiff deiliad trwydded gwastraff na fyddai wedi'i awdurdodi mwyach i barhau i waredu neu adfer y gwastraff hwnnw o dan ei drwydded oherwydd y newid yn statws y gwastraff hwnnw, barhau i waredu neu adfer y gwastraff hwnnw yn unol â'r drwydded er gwaethaf y newid mewn statws tan y dyddiad rhagnodedig.

4

Nid yw rheoliad 17(3) o Reoliadau 1994 yn gymwys i gynnal gweithgaredd esempt sy'n ymwneud â gwastraff y mae ei statws wedi'i newid yn unrhyw le gan berson a oedd yn cynnal y gweithgaredd hwnnw yn y lle hwnnw cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym (“person esempt o ran gwastraff y mae ei statws wedi'i newid”).

5

Caiff person esempt o ran gwastraff y mae ei statws wedi'i newid, a hwnnw'n berson na fyddai wedi'i awdurdodi mwyach i gynnal gweithgaredd esempt sy'n cynnwys gwastraff o'r fath oherwydd y newid yn ei statws, barhau i gynnal y gweithgaredd hwnnw yn y lle hwnnw yn unol â Rheoliadau 1994 er gwaethaf y newid mewn statws tan y dyddiad rhagnodedig.

6

Y dyddiad rhagnodedig—

a

os bydd cais am drwydded gwastraff neu amrywiad i drwydded wedi'i wneud yn briodol mewn perthynas â'r gweithgaredd cyn 16 Gorffennaf 2006, yw'r dyddiad y cytunir ar y cais neu os gwrthodir y cais (neu os bernir bod y cais wedi'i wrthod), y dyddiad daw'r cyfnod ar gyfer apelio i ben heb fod apêl wedi'i gwneud neu'r dyddiad y tynnir unrhyw apêl yn ôl neu y penderfynir yn derfynol arni; neu

b

mewn unrhyw achos arall, yw 16 Gorffennaf 2006.