
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Schedule
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made).
Llwythi trawsffiniol y DU i mewn i Gymru
4.—(1) Os yw llwyth trawsffiniol i mewn i Gymru yn cael ei wrthod yn gyfan gwbl neu'n rhannol, rhaid i'r traddodai—
(a)dangos ar y nodyn traddodi trawsffiniol (os yw wedi cael un) neu darparu mewn modd arall gofnod ysgrifenedig o'r ffaith ei fod wedi gwrthod y llwyth (neu ran ohono) a'r rhesymau dros ei wrthod;
(b)cadw copi o'r nodyn neu'r cofnod;
(c)rhoi copi i'r cludwr; ac
(ch)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, anfon copi at y traddodwr, ac (os yw'n wahanol i'r traddodwr) y cynhyrchydd neu'r deiliad sydd wedi'i nodi ar y nodyn traddodi trawsffiniol.
(2) Wrth gael ei hysbysu nad yw'r traddodai yn derbyn traddodi'r llwyth trawsffiniol i mewn i Gymru neu ran o'r llwyth, rhaid i'r cludwr—
(a)hysbysu'r Asiantaeth; a
(b)gofyn am gyfarwyddiadau gan gynhyrchydd neu ddeiliad y gwastraff peryglus y mae ei enw wedi'i nodi ar y nodyn traddodi trawsffiniol a chymryd pob cam rhesymol i sicrhau y cânt eu bodloni.
(3) Cyn bod llwyth trawsffiniol i mewn i Gymru sydd wedi'i wrthod yn cael ei symud o'r gyrchfan draddodi wreiddiol, rhaid i'r cludwr sicrhau—
(a)bod nodyn traddodi yn cael ei gwblhau'n unol â rheoliad 43 neu 44; a
(b)bod copi o'r nodyn traddodi yn cael ei anfon at SEPA (os cludir y gwastraff o'r Alban) neu at Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon (os traddodir y gwastraff o Ogledd Iwerddon).
(4) Os derbynnir llwyth trawsffiniol i mewn i Gymru o'r Alban neu Ogledd Iwerddon, rhaid i'r traddodwr anfon copi o'r nodyn traddodi trawsffiniol at SEPA (os traddodir y gwastraff o'r Alban) neu at Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon (os traddodir y gwastraff o Ogledd Iwerddon).
Back to top