xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 59

ATODLEN 9LL+CY FFIOEDD TROSIANNOL A GODIR GAN YR ASIANTAETH

1.  Mae'r paragraffau canlynol yn effeithiol mewn perthynas â'r ffioedd sy'n daladwy i'r Asiantaeth o dan y Rheoliadau hyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 9 para. 1 mewn grym ar 6.7.2005, gweler rhl. 1(2)(a)

2.  Y ffi sydd i'w thalu wrth roi hysbysiad am fangre yn unol â rheoliad 26 yw—LL+C

(a)£28 am bob set o fangreoedd a hysbysir yn ysgrifenedig;

(b)£23 am bob set o fangreoedd a hysbysir dros y ffôn; ac

(c)£18 am bob set o fangreoedd a hysbysir ar ffurf electronig.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 9 para. 2 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

3.  Mae'r ffi sydd i'w thalu gan draddodai mewn perthynas ag unrhyw atebion chwarterol traddodai a roddir yn unol â rheoliad 53 fel a ganlyn—LL+C

(a)am unrhyw ateb a roddir yn ysgrifenedig, swm y meintiau canlynol ar gyfer pob llwyth a dderbyniwyd gan y traddodai yn ystod y chwarter—

(i)£10 am bob llwyth sy'n ffurfio rhan o amlgasgliad; a

(ii)£19 am unrhyw lwyth arall; a

(b)am unrhyw ateb a roddir ar ffurf electronig, swm y meintiau canlynol ar gyfer pob llwyth a dderbyniwyd gan y traddodai yn ystod y chwarter—

(i)£5 am bob llwyth sy'n ffurfio rhan o amlgasgliad; a

(ii)£10 am unrhyw lwyth arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 9 para. 3 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

4.  Y ffi sydd i'w thalu gan gynhyrchydd mewn perthynas ag unrhyw ateb hunanwaredu a wneir yn unol â rheoliad 53 yw—LL+C

(a)am unrhyw ateb a roddir yn ysgrifenedig, £19; a

(b)am unrhyw ateb a roddir ar ffurf electronig, £10.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 9 para. 4 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

5.  Yr amser i dalu'r ffi sy'n ofynnol o dan baragraff 3 a 4 yw'r dyddiad diweddaraf o'r 30 niwrnod sy'n dilyn —LL+C

(a)diwrnod olaf y chwarter y mae'r ateb i'w gwmpasu os na chyflwynir ateb yn unol â rheoliad 53; neu

(b)y dyddiad y cyflwynwyd yr ateb yn unol â rheoliad 53.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 9 para. 5 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

6.  Caiff traddodai adennill o draddodwr unrhyw ffioedd a dalwyd o dan baragraff 3 o ran llwythi a anfonwyd gan y traddodwr hwnnw.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 9 para. 6 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)