ATODLEN 9Y FFIOEDD TROSIANNOL A GODIR GAN YR ASIANTAETH
I1I11
Mae'r paragraffau canlynol yn effeithiol mewn perthynas â'r ffioedd sy'n daladwy i'r Asiantaeth o dan y Rheoliadau hyn.
I22
Y ffi sydd i'w thalu wrth roi hysbysiad am fangre yn unol â rheoliad 26 yw—
a
£28 am bob set o fangreoedd a hysbysir yn ysgrifenedig;
b
£23 am bob set o fangreoedd a hysbysir dros y ffôn; ac
c
£18 am bob set o fangreoedd a hysbysir ar ffurf electronig.
I33
Mae'r ffi sydd i'w thalu gan draddodai mewn perthynas ag unrhyw atebion chwarterol traddodai a roddir yn unol â rheoliad 53 fel a ganlyn—
a
am unrhyw ateb a roddir yn ysgrifenedig, swm y meintiau canlynol ar gyfer pob llwyth a dderbyniwyd gan y traddodai yn ystod y chwarter—
i
£10 am bob llwyth sy'n ffurfio rhan o amlgasgliad; a
ii
£19 am unrhyw lwyth arall; a
b
am unrhyw ateb a roddir ar ffurf electronig, swm y meintiau canlynol ar gyfer pob llwyth a dderbyniwyd gan y traddodai yn ystod y chwarter—
i
£5 am bob llwyth sy'n ffurfio rhan o amlgasgliad; a
ii
£10 am unrhyw lwyth arall.
I44
Y ffi sydd i'w thalu gan gynhyrchydd mewn perthynas ag unrhyw ateb hunanwaredu a wneir yn unol â rheoliad 53 yw—
a
am unrhyw ateb a roddir yn ysgrifenedig, £19; a
b
am unrhyw ateb a roddir ar ffurf electronig, £10.
I55
Yr amser i dalu'r ffi sy'n ofynnol o dan baragraff 3 a 4 yw'r dyddiad diweddaraf o'r 30 niwrnod sy'n dilyn —
a
diwrnod olaf y chwarter y mae'r ateb i'w gwmpasu os na chyflwynir ateb yn unol â rheoliad 53; neu
b
y dyddiad y cyflwynwyd yr ateb yn unol â rheoliad 53.
I66
Caiff traddodai adennill o draddodwr unrhyw ffioedd a dalwyd o dan baragraff 3 o ran llwythi a anfonwyd gan y traddodwr hwnnw.