2005 Rhif 1809 (Cy.140)
Rheoliadau Priffyrdd (Ysgolion) (Gorchmynion Dileu Arbennig a Gwyro Arbennig) (Cymru) 2005
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 28(2) (fel y'i cymhwysir gan adran 121(2)), 118B(9) a (10) a 119B(12) a (13) o Ddeddf Priffyrdd 1980 (“y Ddeddf”)1 a pharagraffau 1(1) a (3)(b)(iv), 3(1), (2) a (3)(b), 4(1) a 6 o Atodlen 6 iddi, sef pwerau sydd bob un yn awr yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol2, a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Priffyrdd (Ysgolion) (Gorchmynion Dileu Arbennig a Gwyro Arbennig) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 15 Gorffennaf 2005.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—
ystyr “Awdurdod” yw'r awdurdod priffyrdd perthnasol;
ystyr “gorchymyn” yw—
- a
gorchymyn dileu arbennig3;
- b
gorchymyn gwyro arbennig4; neu
- c
gorchymyn sy'n amrywio neu'n dirymu gorchymyn o fath a bennir yn (a) neu (b); ac
mae cyfeiriad at ffurf neu hysbysiad a ragnodir gan y Rheoliadau hyn yn cynnwys cyfeiriad at y ffurf honno neu'r hysbysiad hwnnw yn Gymraeg neu yn Saesneg (neu yn y ddwy iaith) ac at ffurf neu hysbysiad sy'n sylweddol yr un fath â'r rhai a ragnodir o ran ei heffaith neu ei effaith.
- a
Ffurfiau gorchymyn3
1
Os ymddengys i Awdurdod ei bod yn ofynnol i briffordd berthnasol sy'n croesi tir sy'n cael ei feddiannu at ddibenion ysgol —
a
gael ei chau at ddiben a bennir yn adran 118B(1)(b) o'r Ddeddf gan orchymyn dileu arbennig, rhaid i'r gorchymyn fod ar y ffurf a geir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn;
b
gael ei gwyro at ddiben a bennir yn adran 119B(1)(b) o'r Ddeddf gan orchymyn gwyro arbennig, rhaid i'r gorchymyn fod ar y ffurf a geir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
2
Rhaid i'r map y mae'n ofynnol ei gynnwys mewn gorchymyn fod ar raddfa nad yw'n llai nag 1/2,500 neu, os nad oes map o'r fath ar gael, fod ar y raddfa fwyaf sydd ar gael.
3
Yn achos gorchymyn dileu arbennig, rhaid i'r map y cyfeirir ato ym mharagraff (2) ddangos unrhyw lwybr amgen sy'n rhesymol gyfleus.
Hysbysiadau4
1
Rhaid i hysbysiad y mae'n ofynnol ei roi o dan baragraff 1(1) o Atodlen 6 i'r Ddeddf mewn cysylltiad â gwneud gorchymyn fod ar y ffurf a geir yn Ffurf 1 yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn.
2
Rhaid i hysbysiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno o dan baragraff 4(1) o Atodlen 6 i'r Ddeddf mewn cysylltiad â chadarnhau gorchymyn fod ar y ffurf a geir yn Ffurf 2 yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn.
3
Rhaid i hysbysiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno o dan baragraff 4(1) o Atodlen 6 i'r Ddeddf mewn cysylltiad â gwneud gorchymyn gan y Cynulliad Cenedlaethol fod ar y ffurf a geir yn Ffurf 3 yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn.
Gweithdrefn gorchmynion5
1
Rhaid bod dau gopi ar gael o orchymyn.
2
Os cyflwynir gorchymyn i'r Cynulliad Cenedlaethol i'w gadarnhau, rhaid i'r gorchymyn a'r ail gopi gael eu hanfon at y Cynulliad Cenedlaethol, ynghyd â—
a
dau gopi arall o'r gorchymyn;
b
copi o'r hysbysiad a roddir o dan baragraff 1(1) o Atodlen 6 i'r Ddeddf;
c
unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau sy'n ymwneud â'r gorchymyn, a wnaed yn briodol ac na chawsant eu tynnu'n ôl;
ch
unrhyw sylwadau sydd gan yr Awdurdod ar y sylwadau neu'r gwrthwynebiadau hynny; a
d
datganiad yn nodi ar ba seiliau, ym marn yr Awdurdod, y dylid cadarnhau'r gorchymyn.
3
4
Ar ôl i benderfyniad i beidio â chadarnhau gorchymyn gael ei wneud, rhaid i'r Awdurdod, cyn gynted ag y cydymffurfir â gofynion paragraff 4(3) o Atodlen 6 i'r Ddeddf, roi ardystiad ysgrifenedig o'r ffaith honno i'r Cynulliad Cenedlaethol.
5
Ar ôl i orchymyn gael ei gadarnhau gan y Cynulliad Cenedlaethol, rhaid i'r Awdurdod, cyn gynted ag y cydymffurfir â gofynion paragraff 4(1) o Atodlen 6 i'r Ddeddf, roi ardystiad ysgrifenedig o'r ffaith honno i'r Cynulliad Cenedlaethol.
6
Ar ôl i orchymyn gael ei gadarnhau, rhaid i'r Awdurdod anfon copi o'r gorchymyn, fel y'i cadarnhawyd, at yr Arolwg Ordnans.
Hawliadau am ddigollediad mewn cysylltiad â gorchmynion6
1
Rhaid i hawliad a wneir yn unol ag adran 28 o'r Ddeddf (digollediad am golled a achosir gan orchymyn creu llwybr cyhoeddus), fel y'i cymhwysir gan adran 121(2) o'r Ddeddf10, a hynny o ganlyniad i weithredu gorchymyn, gael ei wneud yn ysgrifenedig a rhaid iddo gael ei gyflwyno i'r Awdurdod neu, yn achos gorchymyn a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol, ei gyflwyno i'r Awdurdod a enwebir gan y Cynulliad Cenedlaethol, fel a ddarperir gan adran 28(3) o'r Ddeddf, a hynny drwy ei ddanfon i swyddfeydd yr Awdurdod neu'r awdurdod a enwebir gan y Cynulliad Cenedlaethol (yn ôl y digwydd), wedi'i gyfeirio at Brif Weithredwr yr awdurdod, neu drwy ei anfon yn rhagdaledig drwy'r post wedi'i gyfeirio felly.
2
Rhaid i hawliad a wneir o dan baragraff (1) gael ei gyflwyno fel ei fod yn dod i law heb fod yn hwyrach na chwe mis ar ôl y dyddiad y daeth y gorchymyn y gwneir yr hawliad mewn cysylltiad ag ef i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199811.
ATODLEN 1
GORCHYMYN DILEU ARBENNIG AR GYFER PRIFFYRDD PENODOL SY'N CROESI TIR SY'N CAEL EI FEDDIANNU AT DDIBENION YSGOL
ATODLEN 2
GORCHYMYN GWYRO ARBENNIG AR GYFER PRIFFYRDD PENODOL SY'N CROESI TIR SY'N CAEL EI FEDDIANNU AT DDIBENION YSGOL
ATODLEN 3
HYSBYSIAD YNGHYLCH GWNEUD GORCHYMYN [DILEU] [GWYRO] ARBENNIG
HYSBYSIAD O GADARNHAU GORCHYMYN [DILEU] [GWYRO] ARBENNIG
HYSBYSIAD YNGHYLCH GWNEUD GORCHYMYN [DILEU] [GWYRO] ARBENNIG GAN GYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU
ATODLEN 4PERSONAU YCHWANEGOL Y MAE HYSBYSIAD O ORCHMYNION I'W GYFLWYNO IDDYNT
ACU Motorcycling GB
Yr awdurdod sy'n cyflawni swyddogaethau awdurdod tân o dan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 ar gyfer yr ardal lle y mae'r tir y mae'r Gorchymyn yn ymwneud ag ef wedi'i leoli
British Horse Society
Byways and Bridleways Trust
Cyclists Touring Club
Open Spaces Society
Cymdeithas y Cerddwyr
Cynghorau tref a chynghorau cymuned ar gyfer yr ardal lle y mae'r tir y mae'r gorchymyn yn ymwneud ag ef wedi'i leoli
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)