Materion y caniateir gwneud cwynion amdanynt
3. Mae'r canlynol yn faterion y caniateir gwneud cwynion amdanynt i OTCC yn unol â'r Rheoliadau hyn:
(a)camweinyddu honedig gan landlord cymdeithasol mewn cysylltiad â chamau perthnasol;
(b)methiant honedig gan landlord cymdeithasol i ddarparu gwasanaeth perthnasol; ac
(c)methiant honedig mewn gwasanaeth perthnasol a ddarparwyd gan landlord cymdeithasol.