xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2PANELAU

Cyfansoddiad a swyddogaethau panelau

4.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar gais darpar fabwysiadwr, ffurfio panel at ddiben adolygu dyfarniad o gymhwyster mewn perthynas â'r darpar fabwysiadwr.

(2Rhaid i aelodau'r panel gael eu dewis oddi ar restr o bersonau sydd wedi'u penodi'n aelodau panelau asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru ac sy'n gwasanaethu fel aelodau panelau asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru (y cyfeirir ati yn y Rheoliadau hyn fel “y rhestr ganolog”) ac y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried eu bod yn addas yn rhinwedd eu sgiliau, eu cymwysterau neu eu profiad i fod yn aelodau panel. Cedwir y rhestr gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(3Rhaid i banel a sefydlir o dan baragraff (1) —

(a)yn adolygu'r dyfarniad o gymhwyster; a

(b)yn gwneud argymhelliad i'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y dyfarniad o gymhwyster ynghylch pa un a yw darpar fabwysiadwr yn addas i fod yn rhiant mabwysiadol ai peidio.

Aelodaeth panelau

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benodi dim mwy na phum person yn aelodau o'r panel, a rhaid iddynt gynnwys (lle y bo'n rhesymol ymarferol):

(a)rhiant mabwysiadol; a

(b)person wedi'i fabwysiadu sydd wedi cyrraedd 18 oed.

(2Rhaid i'r panel gael cyngor gan:

(a)gweithiwr cymdeithasol, o fewn yr ystyr sydd iddo yn Rhan IV o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1), y mae ganddo o leiaf 5 mlynedd o brofiad ôl-gymhwyso mewn gwaith mabwysiadu a lleoli mewn teuluoedd;

(b)ymarferydd meddygol cofrestredig ag arbenigedd mewn gwaith mabwysiadu; ac

(c)pan fo'r panel yn ystyried hynny'n briodol, cynghorydd cyfreithiol â gwybodaeth o ddeddfwriaeth fabwysiadu ac arbenigedd ynddi.

(3Ni fydd unrhyw berson yn cael ei benodi naill ai'n aelod o banel neu'n gynghorydd i banel a gaiff ei gynnull i adolygu dyfarniad o gymhwyster a wnaed gan asiantaeth fabwysiadu a fu'n cyflogi'r person hwnnw ar unrhyw adeg yn ystod y ddwy flynedd cyn y dyddiad pryd yr atgyfeirir yr achos at y panel.

(4Yn y rheoliad hwn mae cyfeiriad at fod wedi cael ei gyflogi yn cynnwys cael ei gyflogi gan asiantaeth fabwysiadu pa un ai am dâl ai peidio a pha un ai o dan gontract gwasanaethau neu gontract am wasanaethau neu fel gwirfoddolwr.

Cadeirydd ac is-gadeirydd

6.  Wrth ffurfio panel yn unol â rheoliad 4, bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penodi:

(a)i gadeirio'r panel, berson —

(i)ag arbenigedd mewn gwaith mabwysiadu; a

(ii)â'r sgiliau a'r profiad angenrheidiol ar gyfer cadeirio panel; a

(b)un o aelodau'r panel yn is-gadeirydd i weithredu fel cadeirydd os bydd y person a benodwyd i gadeirio'r panel yn absennol neu os yw ei swydd yn wag.

Gweinyddu panelau

7.  Gweinyddir y panel gan y Cynulliad Cenedlaethol, a fydd yn gwneud darpariaeth addas ar gyfer gwasanaethau clercio ar gyfer y panel.

Treuliau aelodau panelau

8.  Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, yn ôl ei ddisgresiwn, dalu i unrhyw aelod o banel unrhyw ffioedd y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn eu hystyried yn rhesymol.

Cyfarfodydd panelau

9.  Rhaid i banel beidio â chynnal unrhyw fusnes onid oes pedwar o'i aelodau o leiaf gan gynnwys y cadeirydd neu'r is-gadeirydd yn cyfarfod fel panel.

Cofnodion

10.  Rhaid i banel —

(a)cadw cofnod ysgrifenedig o'i adolygiadau o ddyfarniadau o gymhwyster, gan gynnwys y rhesymau dros ei argymhellion; a

(b)sicrhau bod cofnodion o'r fath yn cael eu cadw o dan amodau sy'n briodol o ddiogel.

(1)

2000 p.14. Yn rhinwedd adran 55(2)(a) a (4) o Ddeddf Safonau Gofal 2000, person sy'n ymgymryd â gwaith cymdeithasol y mae ei angen mewn cysylltiad ag unrhyw wasanaethau iechyd, addysg neu wasanaethau cymdeithasol a ddarperir gan unrhyw berson yw gweithiwr cymdeithasol at ddibenion Rhan IV o'r Ddeddf honno.