- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
11.—(1) Caiff darpar fabwysiadwr, o fewn 20 o ddiwrnodau gwaith i'r dyddiad y bydd yr asiantaeth fabwysiadu'n anfon hysbysiad ynghylch y dyfarniad o gymhwyster mewn cysylltiad ag ef, wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am i banel gael ei ffurfio i adolygu'r dyfarniad hwnnw'n unol â rheoliad 4.
(2) Rhaid i gais o dan baragraff (1)—
(a)bod yn ysgrifenedig; a
(b)datgan y rheswm dros y cais.
12. Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gydnabod yn ysgrifenedig o fewn 5 niwrnod gwaith bod unrhyw gais a wnaed yn unol â rheoliad 11 wedi dod i law.
13.—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r asiantaeth fabwysiadu o fewn 25 o ddiwrnodau gwaith fod unrhyw gais a wnaed yn unol â rheoliad 11 wedi dod i law.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, o fewn 25 o ddiwrnodau gwaith ar ôl i unrhyw gais a wnaed yn unol â rheoliad 11 ddod i law, benodi panel a phennu dyddiad i'r panel gyfarfod i adolygu'r dyfarniad o gymhwyster hwnnw.
(3) Ni fydd y dyddiad a bennir ar gyfer yr adolygiad yn ddiweddarach na 3 mis ar ôl y dyddiad y caiff y dyfarniad ei atgyfeirio.
(4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r asiantaeth fabwysiadu a'r darpar fabwysiadwr o'r dyddiad, yr amser a'r lle y cynhelir yr adolygiad a hynny ddim llai na 5 niwrnod gwaith cyn y dyddiad a bennir ar gyfer yr adolygiad.
(5) Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn sicrhau bod y panel yn derbyn yr holl bapurau perthnasol sy'n ymwneud â'r adolygiad a hynny ddim llai na 5 niwrnod gwaith cyn y dyddiad a bennir ar gyfer yr adolygiad.
14.—(1) Rhaid mai argymhelliad y mwyafrif fydd argymhelliad y panel.
(2) Caiff yr argymhelliad ei wneud a'i gyhoeddi ar ddiwedd yr adolygiad neu ei gadw wedi'i neilltuo.
(3) Rhaid cofnodi'r argymhelliad a'r rhesymau drosto yn ddi-oed a hynny mewn dogfen y bydd y cadeirydd yn ei llofnodi ac yn nodi'r dyddiad arni.
(4) Rhaid ymdrin â'r argymhelliad fel pe bai wedi'i wneud ar y dyddiad y llofnododd y cadeirydd y ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (3).
(5) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, a hynny'n ddi-oed ac yn sicr heb fod yn hwyrach na 10 niwrnod gwaith ar ôl y dyddiad y gwnaed yr argymhelliad, anfon copi o'r argymhelliad at —
(a)yr asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y dyfarniad o gymhwyster; a
(b)y darpar fabwysiadwr.
15. Caiff y panel wneud gorchymyn yn mynnu bod yr asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y dyfarniad o gymhwyster a adolygwyd yn talu'r costau hynny y mae'r panel mabwysiadu yn ystyried eu bod yn rhesymol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: