Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig, ac maent yn diwygio ymhellach Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998 (O.S.1998/1376, “Rheoliadau 1998”), sy'n rhychwantu'r cyfan o Brydain Fawr. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/13/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/16/EC sy'n ymwneud â defnyddio deilliannau epocsi penodol mewn deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd (OJ Rhif L51, 22.2.2002, t.27) a hefyd yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/1/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/72/EC mewn perthynas â defnyddio asodicarbonamid fel cyfrwng chwythu (OJ Rhif L220, 15.8.2002, t.18).

2.  Mae'r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau 1998 drwy —

(a)ychwanegu blwyddyn at awdurdodiad dros dro i 2,2-bis(hydroxyphenyl)propane bis(2,3-epocsipropyl)ether (“BADGE”) (rheoliad 4);

(b)gwahardd defnyddio cyfrwng chwythu asodicarbonamid o 2 Awst 2005 ymlaen (rheoliad 5);

(c)diwygio'r amddiffyniad sydd ar gael o dan reoliad 10 paragraff (19) o Reoliadau 1998 i ganiatáu ar gyfer defnyddio cod dyddiad fel dewis amgen i'r dyddiad llenwi sy'n ymddangos ar ddeunyddiau ac eitemau a orchuddiwyd â haenau arwyneb, a bod yr amddiffyniad hwnnw yn amodol ar i ystyr y cod fod wedi cael ei ddatgelu i'r Asiantaeth Safonau Bwyd a'r awdurdod gorfodi pan ofynnwyd amdano (rheoliad 6(a));

(ch)creu amddiffyniad sy'n ymwneud ag asodicarbonamid yn debyg i'r un sy'n gymwys i ddeunyddiau ac eitemau a orchuddiwyd â haenau arwyneb (rheoliad 6(c)).

3.  Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/13/EC yn cael eu trosi i'r gyfraith ddomestig gan y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.