Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Rhestr Wastraffoedd (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 16 Gorffennaf 2005.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2
1
Yn y Rheoliadau hyn —
a
ystyr “y Gyfarwyddeb Gwastraff” (“the Waste Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC3 ar wastraff fel y'i diwygiwyd gan—
i
Cyfarwyddebau'r Cyngor 91/156/EEC4 a 91/692/EEC5;
iii
Rheoliad (EC) Rhif 1882/20037;
b
ystyr “Cyfarwyddeb 67/548/EEC” (“Directive 67/548/EEC”) (y Gyfarwyddeb Sylweddau Peryglus, y cyfeirir ati yn y Cyflwyniad i'r Rhestr) yw Cyfarwyddeb 67/548/EEC8 ar gyd-ddynesiad y cyfreithiau, y rheoliadau a'r darpariaethau gweinyddol o ran dosbarthu, pecynnu a labelu sylweddau peryglus fel y'i diwygiwyd diwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/73/EC9; ac
c
ystyr “y Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus” (“the Hazardous Waste Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 91/689/EEC10 31 Rhagfyr 1991 ar wastraff peryglus, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 94/31/EC11, ac mae cyfeiriad at—
i
atodiad o'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus yn gyfeiriad at yr atodiad hwnnw fel y'i nodir am y tro yn yr atodlen berthnasol i'r Rheoliadau Gwastraff Peryglus; a
ii
nodweddion peryglus yn gyfeiriad at y nodweddion a nodir yn Atodiad III.
2
Yn y Rheoliadau hyn—
a
ystyr “Penderfyniad y Rhestr Wastraffoedd” (“the List of Wastes Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2000/532/EC12 3 Mai 2000 sy'n disodli Penderfyniad 94/3/EC13 sy'n sefydlu rhestr wastraffoedd yn unol ag Erthygl 1(a) o Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC ar wastraff a Phenderfyniad y Cyngor 94/904/EC14 sy'n sefydlu rhestr o wastraff peryglus yn unol ag Erthygl 1(4) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/689/EEC ar wastraff peryglus, fel y'i diwygiwyd gan—
i
Penderfyniad y Comisiwn 2001/118/EC15;
ii
Penderfyniad y Comisiwn 2001/119/EC16; a
iii
Penderfyniad y Cyngor 2001/573/EC17);
b
ystyr “y Rhestr Wastraffoedd” (“the List of Wastes”) yw'r rhestr wastraffoedd sydd yn yr Atodiad i Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd, sef rhestr a lunnir—
i
o ran gwastraffoedd sy'n perthyn i'r categorïau a restrir yn Atodiad I (Categorïau o Wastraff) o Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff, gan y Comisiwn, ac yntau'n gweithredu'n unol â'r weithdrefn a osodwyd yn Erthygl 18 o'r Gyfarwyddeb honno;
ii
o ran gwastraff peryglus, yn unol â'r weithdrefn a osodwyd yn Erthygl 18 o Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff ar sail—
aa
Atodiad I (Categorïau neu fathau generig o wastraff peryglus a restrir yn unol â'u natur neu'r gweithgaredd a'u cynhyrchodd) i'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus; a
bb
Atodiad II (Cyfansoddion gwastraffoedd yn Atodiad 1.B. sy'n eu gwneud yn beryglus pan fydd iddynt y nodweddion a ddisgrifir yn Atodiad III) i Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus,
ac mae cyfeiriad at y Rhestr Wastraffoedd yn cynnwys cyfeiriad at y Cyflwyniad iddi (“y Cyflwyniad i'r Rhestr”).
3
Yn y Rheoliadau hyn—
a
ystyr “y Rheoliadau Gwastraff Peryglus” (“the Hazardous Waste Regulations”) yw Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 200518;
b
mae i “gwastraff peryglus” (“hazardous waste”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 6 o'r Rheoliadau Gwastraff Peryglus;
c
mae i “gwastraff” (“waste”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 2(1)(b) o'r Rheoliadau Gwastraff Peryglus; ac
ch
ystyr “sylwedd peryglus” (“dangerous substance”), er gwaethaf paragraff 5 o'r Cyflwyniad i'r Rhestr, yw sylwedd sydd am y tro yn sylwedd peryglus o fewn yr ystyr a roddir i “dangerous substance” yn rheoliad 2 o Reoliadau Cemegion (Gwybodaeth am Beryglon a Phecynnu ar gyfer Cyflenwi) 200219.
Effaith y Rhestr Wastraffoedd3
1
Yn ddarostyngedig i reoliad 2(3)(ch) ac yn sgil darpariaethau'r rheoliad hwn, mae'r Rhestr Wastraffoedd yn effeithiol at ddibenion sy'n gysylltiedig â rheoleiddio gwastraff a gwastraff peryglus, ac yn benodol at ddibenion —
a
penderfynu a yw deunydd neu sylwedd yn wastraff neu'n wastraff peryglus, yn ôl y digwydd;
b
dosbarthu a chodio gwastraffoedd a gwastraff peryglus,
ac yn unol â hynny y mae'r Rhestr Wastraffoedd a'r codau a'r penawdau penodau i'w cydnabod a'u defnyddio at y dibenion hynny.
2
Nid yw paragraff (1) yn lleihau effaith rheoliadau a wneir o dan adran 62A(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 199020 neu unrhyw benderfyniad o dan reoliadau 8 neu 9 o'r Rheoliadau Gwastraff Peryglus.
3
Yn ddarostyngedig i reoliad 2(3)(c), mae'r nodiadau yn y Cyflwyniad i'r Rhestr yn effeithiol at ddibenion—
a
dehongli'r Rhestr Wastraffoedd;
b
penderfynu a yw deunydd neu sylwedd yn wastraff neu'n wastraff peryglus, yn ôl y digwydd; ac
c
adnabod gwastraff neu wastraff peryglus, yn ôl y digwydd.
4
Diffinnir yn llawn y gwahanol fathau o wastraff yn y Rhestr Wastraffoedd gan y cod chwe digid ar gyfer y gwastraff a chan benawdau pennod dau ddigid a phedwar digid yn eu trefn, ac yn unol â hynny, at ddibenion sy'n gysylltiedig â rheoli gwastraff neu wastraff peryglus—
a
mae unrhyw gyfeiriad at wastraff drwy ei god chwe digid fel a bennir yn y Rhestr Wastraffoedd i'w drin fel cyfeiriad at y gwastraff hwnnw; a
b
mae cyfeiriad at wastraffoedd gan bennawd pennod dau ddigid neu pedwar digid yn gyfeiriad at y deunyddiau gwastraff a restrir yn y Rhestr Wastraffoedd o dan bennawd y bennod honno.
5
Pan fo unrhyw ddarpariaeth (sut bynnag y caiff ei mynegi) o ddeddfiad yn gosod gofyniad bod cod chwe digid i'w roi, neu pan fo'n awdurdodi cyflawni unrhyw weithred neu'n awdurdodi hepgor unrhyw ofyniad ar yr amod y rhoddir y cod chwe digid, bernir na chydymffurfiwyd â'r gofyniad hwnnw neu â'r amod hwnnw onid y cod a roddir yw'r cod ar gyfer y gwastraff, neu wastraff peryglus, yn ôl y digwydd, yn y Rhestr Wastraffoedd.
6
Yn ddarostyngedig i baragraff (7), bernir bod gwastraff a farciwyd â seren yn y Rhestr Wastraffoedd wedi ei restru yn y Rhestr Wastraffoedd fel gwastraff peryglus at ddibenion rheoliad 6(a) o'r Rheoliadau Gwastraff Peryglus.
7
Pan fo gwastraff a farciwyd â seren yn y Rhestr Wastraffoedd yn un neu ragor o sylweddau peryglus neu'n cynnwys un neu ragor o sylweddau peryglus, bernir ei fod yn wastraff peryglus—
a
oni bo'r disgrifiad yn y Rhestr Wastraffoedd yn cyfeirio at sylwedd peryglus, ni waeth beth fo gwir grynodiad unrhyw sylwedd peryglus a fo'n bresennol neu beth fo nodweddion y gwastraff neu'r sylwedd hwnnw;
b
os adnabyddir gwastraff yn beryglus gan gyfeiriad penodol neu gyffredinol (sut bynnag y caiff ei fynegi) yn sylweddau peryglus, os yw crynodiadau'r sylweddau hynny o'r fath (hynny yw, canran yn ôl pwysau) fel bod y gwastraff-—
i
yn dangos un neu ragor o nodweddion peryglus; a
ii
yn achos unrhyw un o'r nodweddion peryglus H3 i H8, H10 neu H11, yn bodloni gofynion rheoliad 4.
Nodweddion a phriodoleddau sylweddau peryglus a ddosbarthwyd yn wastraff peryglus4
Mae gwastraff yn bodloni gofynion y rheoliad hwn o ran unrhyw un o'r priodoloeddau H3 i H8, H1021 ac H11 o Atodiad III, pan fo'n arddangos un neu ragor o'r priodoleddau canlynol—
a
fflachbwynt ≤ 55 °C,
b
un neu ragor o sylweddau a ddosbarthwyd22 yn wenwynig iawn mewn cyfanswm crynodiad ≥ 0,1 %,
c
un neu ragor o sylweddau a ddosbarthwyd yn wenwynig mewn cyfanswm crynodiad ≥ 3 %,
ch
un neu ragor o sylweddau a ddosbarthwyd yn niweidiol mewn cyfanswm crynodiad ≥ 25 %,
d
un neu ragor o sylweddau cyrydol a ddosbarthwyd yn R35 mewn cyfanswm crynodiad ≥ 1 %,
dd
un neu ragor o sylweddau cyrydol a ddosbarthwyd yn R34 mewn cyfanswm crynodiad ≥ 5 %,
e
un neu ragor o sylweddau llidiol a ddosbarthwyd yn R41 mewn cyfanswm crynodiad ≥ 10 %,
f
un neu ragor o sylweddau llidiol a ddosbarthwyd yn R36, R37, R38 mewn cyfanswm crynodiad ≥ 20 %,
ff
un sylwedd y gwyddys ei fod yn garsinogenig o gategori 1 neu 2 mewn crynodiad ≥ 0,1 %,
g
un sylwedd y gwyddys ei fod yn garsinogenig o gategori 3 mewn crynodiad ≥ 1 %
ng
un sylwedd gwenwynig ar gyfer atgynhyrchu categori 1 neu 2 a ddosbarthwyd yn R60, R61 mewn crynodiad ≥ 0,5 %,
h
un sylwedd gwenwynig ar gyfer atgynhyrchu categori 3 a ddosbarthwyd yn R62, R63 mewn crynodiad ≥ 5 %,
i
un sylwedd mwtagenig o gategori 1 neu 2 a ddosbarthwyd yn R46 mewn crynodiad ≥ 0,1 %,
j
un sylwedd mwtagenig o gategori 3 a ddosbarthwyd yn R68 mewn crynodiad ≥ 1 %.
Diwygiadau canlyniadol5
Mae Atodlen 2 (sy'n gwneud diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth) yn effeithiol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199823