- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu (ac eithrio Erthygl 3) yng Nghymru Benderfyniad y Comisiwn 2000/532/EC (“Penderfyniad y Rhestr Wastraffoedd”, fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniadau 2001/118/EC, 2001/119/EC a 2001/573/EC) a fabwysiadodd y Rhestr Wastraffoedd. Mae testun wedi'i gydgrynhoi o'r penderfyniad ar gael yn:
http://europa.eu.int/eur-lex/en/consleg/pdf/2000/en_2000D0532_do_001.pdf.
Mae Erthygl 1(a) o'r Gyfarwyddeb Gwastraff (75/442/EEC), y mae testun wedi'i gydgrynhoi ohoni ar gael yn:
http://europa.eu.int/eur-lex/en/consleg/main/1975/en_1975L0442_index.html,
ac indent cyntaf Erthygl 1(4) o Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus (91/689/EEC), y mae testun wedi'i gydgrynhoi ohoni ar gael yn :
http://europa.eu.int/eur-lex/en/consleg/pdf/1991/en_1991L0689_do_001.pdf,
yn ei gwneud yn ofynnol i lunio rhestr wastraffoedd yn unol â'r weithdrefn yn Erthygl 18 o'r Gyfarwyddeb Gwastraff. Y rhestrau ym Mhenderfyniadau 94/3/EC a 94/904 a fabwysiadwyd yn unol ag Erthygl 1(a) o'r Gyfarwyddeb Gwastraff ac Erthygl 1(4) o Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus oedd y Catalog Gwastraff Ewropeaidd; ni throswyd y rhestri yn ffurfiol erioed.
Mae'r Rhestrau Gwastraff, a ddisodlodd “Catalog Gwastraff Ewropeaidd”, yn darparu ar gyfer dosbarthu gwastraffoedd ac yn penderfynu, yn ddarostyngedig i'r canlynol, a ydynt yn wastraffoedd peryglus.
Mae rheoliad 6 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 (“y Rheoliadau Gwastraff Peryglus”) yn diffinio gwastraff peryglus at ddibenion gweithredu'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus yng Nghymru. Mae paragraff (a) o'r rheoliad hwnnw yn darparu bod gwastraff yn beryglus os yw'n cael ei restru yn wastraff peryglus yn y Rheoliadau hyn. Defnyddir y diffiniad hefyd mewn Cyfarwyddebau eraill (er enghraifft, Cyfarwyddeb 1999/31/EC ar dirlenwi gwastraff a Chyfarwyddeb 1996/61/EC ynghylch dulliau integredig o atal a rheoli llygredd). Cynhwysir diwygiadau canlyniadol i ymgorffori'r rhestr hon yn y Rheoliadau hyn yn y ddeddfwriaeth weithredu berthnasol yn Atodlen 11 i'r Rheoliadau Gwastraff Peryglus.
Mae rheoliad 3(1) o'r Rheoliadau hyn yn darparu bod y Rhestr Wastraffoedd yn effeithiol at ddibenion sy'n gysylltiedig â rheoleiddio gwastraff a gwastraff peryglus, ac yn enwedig ar gyfer—
(a)penderfynu a yw deunydd neu sylwedd yn wastraff neu'n wastraff peryglus (is-baragraff (1)(a); a
(b)dosbarthu a chodio gwastraffoedd (is-baragraff (1)(b)). Mae rheoliad 3(3) yn darparu bod y Cyflwyniad i'r Rhestr Wastraffoedd yn effeithiol at ddibenion dehongli'r rhestr, at benderfynu a yw gwastraff yn beryglus ac at adnabod y gwastraff.
Mae rheoliad 3(4) yn rhoi effaith, at ddibenion rheoleiddio gwastraff a gwastraff peryglus, i'r codau chwe digid a'r penawdau penodau dau ddigid a phedwar digid yn y Rhestr Wastraffoedd.
Mae rheoliad 3(5) yn darparu na chydymffurfir ag unrhyw ofyniad (neu na fodlonir unrhyw amod) yn unrhyw ddeddfwriaeth bod y cod chwe digid cywir i'w roi ond os yw'r cod yn y Rhestr Wastraffoedd ar gyfer y gwastraff dan sylw yn cael ei roi. Mae rheoliad 3(6) yn darparu bod y seren yn y Rhestr Wastraffoedd i nodi bod y gwastraff dan sylw yn beryglus. Mae rheoliad 3(7) yn darparu pan fo gwastraff yn cael ei adnabod yn beryglus drwy gyfeirio at sylweddau peryglus, nid yw'r gwastraff ond yn beryglus pan fo'r gwerth terfyn yn rheoliad 4, neu Atodlen III o'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus, wedi'i fodloni. Mae rheoliad 4 yn nodi'r gwerthoedd terfyn crynodiad a geir yn Erthygl 2 o Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd.
Mae'r Rhestr Wastraffoedd yn cyfeirio at sylweddau fel rhai peryglus os ydynt yn cynnwys sylweddau peryglus. Mae sylwedd yn sylwedd peryglus os yw'n sylwedd peryglus yn unol â Rheoliadau Cemegion (Gwybodaeth am Beryglon a Phecynnu ar gyfer Cyflenwi) 2002 (O.S.2002/1689, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/3386) sy'n gweithredu Cyfarwyddeb y Sylweddau Peryglus (67/548/EEC) ym Mhrydain Fawr.
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi. Gellir cael copi ohono oddi wrth Is-adran yr Amgylchedd — Diogelu ac Ansawdd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: