- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
3.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 2(3)(ch) ac yn sgil darpariaethau'r rheoliad hwn, mae'r Rhestr Wastraffoedd yn effeithiol at ddibenion sy'n gysylltiedig â rheoleiddio gwastraff a gwastraff peryglus, ac yn benodol at ddibenion —
(a)penderfynu a yw deunydd neu sylwedd yn wastraff neu'n wastraff peryglus, yn ôl y digwydd;
(b)dosbarthu a chodio gwastraffoedd a gwastraff peryglus,
ac yn unol â hynny y mae'r Rhestr Wastraffoedd a'r codau a'r penawdau penodau i'w cydnabod a'u defnyddio at y dibenion hynny.
(2) Nid yw paragraff (1) yn lleihau effaith rheoliadau a wneir o dan adran 62A(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(1) neu unrhyw benderfyniad o dan reoliadau 8 neu 9 o'r Rheoliadau Gwastraff Peryglus.
(3) Yn ddarostyngedig i reoliad 2(3)(c), mae'r nodiadau yn y Cyflwyniad i'r Rhestr yn effeithiol at ddibenion—
(a)dehongli'r Rhestr Wastraffoedd;
(b)penderfynu a yw deunydd neu sylwedd yn wastraff neu'n wastraff peryglus, yn ôl y digwydd; ac
(c)adnabod gwastraff neu wastraff peryglus, yn ôl y digwydd.
(4) Diffinnir yn llawn y gwahanol fathau o wastraff yn y Rhestr Wastraffoedd gan y cod chwe digid ar gyfer y gwastraff a chan benawdau pennod dau ddigid a phedwar digid yn eu trefn, ac yn unol â hynny, at ddibenion sy'n gysylltiedig â rheoli gwastraff neu wastraff peryglus—
(a)mae unrhyw gyfeiriad at wastraff drwy ei god chwe digid fel a bennir yn y Rhestr Wastraffoedd i'w drin fel cyfeiriad at y gwastraff hwnnw; a
(b)mae cyfeiriad at wastraffoedd gan bennawd pennod dau ddigid neu pedwar digid yn gyfeiriad at y deunyddiau gwastraff a restrir yn y Rhestr Wastraffoedd o dan bennawd y bennod honno.
(5) Pan fo unrhyw ddarpariaeth (sut bynnag y caiff ei mynegi) o ddeddfiad yn gosod gofyniad bod cod chwe digid i'w roi, neu pan fo'n awdurdodi cyflawni unrhyw weithred neu'n awdurdodi hepgor unrhyw ofyniad ar yr amod y rhoddir y cod chwe digid, bernir na chydymffurfiwyd â'r gofyniad hwnnw neu â'r amod hwnnw onid y cod a roddir yw'r cod ar gyfer y gwastraff, neu wastraff peryglus, yn ôl y digwydd, yn y Rhestr Wastraffoedd.
(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), bernir bod gwastraff a farciwyd â seren yn y Rhestr Wastraffoedd wedi ei restru yn y Rhestr Wastraffoedd fel gwastraff peryglus at ddibenion rheoliad 6(a) o'r Rheoliadau Gwastraff Peryglus.
(7) Pan fo gwastraff a farciwyd â seren yn y Rhestr Wastraffoedd yn un neu ragor o sylweddau peryglus neu'n cynnwys un neu ragor o sylweddau peryglus, bernir ei fod yn wastraff peryglus—
(a)oni bo'r disgrifiad yn y Rhestr Wastraffoedd yn cyfeirio at sylwedd peryglus, ni waeth beth fo gwir grynodiad unrhyw sylwedd peryglus a fo'n bresennol neu beth fo nodweddion y gwastraff neu'r sylwedd hwnnw;
(b)os adnabyddir gwastraff yn beryglus gan gyfeiriad penodol neu gyffredinol (sut bynnag y caiff ei fynegi) yn sylweddau peryglus, os yw crynodiadau'r sylweddau hynny o'r fath (hynny yw, canran yn ôl pwysau) fel bod y gwastraff-—
(i)yn dangos un neu ragor o nodweddion peryglus; a
(ii)yn achos unrhyw un o'r nodweddion peryglus H3 i H8, H10 neu H11, yn bodloni gofynion rheoliad 4.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: