Rheoliadau'r Rhestr Wastraffoedd (Cymru) 2005

Nodweddion a phriodoleddau sylweddau peryglus a ddosbarthwyd yn wastraff peryglus

4.  Mae gwastraff yn bodloni gofynion y rheoliad hwn o ran unrhyw un o'r priodoloeddau H3 i H8, H10(1) ac H11 o Atodiad III, pan fo'n arddangos un neu ragor o'r priodoleddau canlynol—

(a)fflachbwynt ≤ 55 °C,

(b)un neu ragor o sylweddau a ddosbarthwyd(2) yn wenwynig iawn mewn cyfanswm crynodiad ≥ 0,1 %,

(c)un neu ragor o sylweddau a ddosbarthwyd yn wenwynig mewn cyfanswm crynodiad ≥ 3 %,

(ch)un neu ragor o sylweddau a ddosbarthwyd yn niweidiol mewn cyfanswm crynodiad ≥ 25 %,

(d)un neu ragor o sylweddau cyrydol a ddosbarthwyd yn R35 mewn cyfanswm crynodiad ≥ 1 %,

(dd)un neu ragor o sylweddau cyrydol a ddosbarthwyd yn R34 mewn cyfanswm crynodiad ≥ 5 %,

(e)un neu ragor o sylweddau llidiol a ddosbarthwyd yn R41 mewn cyfanswm crynodiad ≥ 10 %,

(f)un neu ragor o sylweddau llidiol a ddosbarthwyd yn R36, R37, R38 mewn cyfanswm crynodiad ≥ 20 %,

(ff)un sylwedd y gwyddys ei fod yn garsinogenig o gategori 1 neu 2 mewn crynodiad ≥ 0,1 %,

(g)un sylwedd y gwyddys ei fod yn garsinogenig o gategori 3 mewn crynodiad ≥ 1 %

(ng)un sylwedd gwenwynig ar gyfer atgynhyrchu categori 1 neu 2 a ddosbarthwyd yn R60, R61 mewn crynodiad ≥ 0,5 %,

(h)un sylwedd gwenwynig ar gyfer atgynhyrchu categori 3 a ddosbarthwyd yn R62, R63 mewn crynodiad ≥ 5 %,

(i)un sylwedd mwtagenig o gategori 1 neu 2 a ddosbarthwyd yn R46 mewn crynodiad ≥ 0,1 %,

(j)un sylwedd mwtagenig o gategori 3 a ddosbarthwyd yn R68 mewn crynodiad ≥ 1 %.

(1)

Yng Nghyfarwyddeb 92/32/EEC sy'n diwygio am y seithfed gwaith Gyfarwyddeb 67/548/EEC cyflwynwyd y term 'toxic for reproduction'. Yn lle'r term 'teratogenic' rhoddwyd y term cyfatebol 'toxic for reproduction'. Ystyrir bod y term hwn yn unol â nodwedd H10 yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 91/689/EEC.

(2)

Yng Nghyfarwyddeb 92/32/EEC sy'n diwygio am y seithfed gwaith Gyfarwyddeb 67/548/EEC cyflwynwyd y term 'toxic for reproduction'. Yn lle'r term 'teratogenic' rhoddwyd y term cyfatebol 'toxic for reproduction'. Ystyrir bod y term hwn yn unol â nodwedd H10 yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 91/689/EEC.