- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'i wneud
6 Gorffennaf 2005
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005.
2. Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym o ran Cymru.
3. Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a'r Atodlenni iddi.
4. Daw'r darpariaethau canlynol i rym ar 7 Gorffennaf 2005 —
(a)adran 10(2);
(b)adran 44 (1), (2), (5) a (6);
(c)adran 49 i'r graddau mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 6 isod;
(ch)adran 50 i'r graddau mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 7 isod;
(d)yn Atodlen 6, paragraff 7, dileu adran 26(5) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998; ac
(e)yn Atodlen 7, diddymu adran 26(5) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.
5. Daw'r darpariaethau canlynol i rym ar 1 Medi 2006—
(a)adran 44(3); a
(b)adran 44(4).
6. Er gwaethaf dwyn i rym adran 44(1) a (2) yn rhinwedd erthygl 4(b) uchod, hyd at 1 Medi 2006 mae swyddogathau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2005(3) yn arferadwy mewn perthynas â Chymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unig.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Gorffennaf 2005
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym yng Nghymru ar 30 Mehefin 2005 y darpariaethau a ganlyn yn Neddf Addysg Uwch 2004:
Adran 10(2) sy'n rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i ariannu'n uniongyrchol ymchwil yn y celfyddydau a'r dyniaethau ac mewn gweithgareddau cysylltiedig.
Adran 44(1) sy'n trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol bŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i wneud rheoliadau sy'n pennu'r trefniadau ar gyfer rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr.
Adran 44(2) sy'n rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol (yn gydredol â'r Ysgrifennydd Gwladol) y pŵer, mewn perthynas â Chymru, i wneud darpariaethau penodol yn y rheoliadau sy'n pennu'r trefniadau ar gyfer rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr.
Adran 44(5) sy'n rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol (yn gydredol â'r Ysgrifennydd Gwladol), a hynny cyn trosglwyddo swyddogaethau cymorth i fyfyrwyr, y pŵer i wneud taliadau i gorff neu berson, megis y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, y bydd un o swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol yn arferadwy ganddo ar ôl trosglwyddo pwerau cymorth i fyfyrwyr i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Adran 44(6) sy'n sicrhau bod darpariaethau penodol Deddf Llywodraeth Cymru 1998 yn gymwys i'r swyddogaethau a drosglwyddir, er enghraifft, nad yw gweithdrefnau seneddol yn gymwys i'r gwaith o wneud deddfwriaeth y Cynulliad Cenedlaethol.
Adran 49 ac Atodlen 6 sy'n cynnwys diwygiadau canlyniadol.
Adran 50 ac Atodlen 7 sy'n cynnwys diddymiadau.
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym yng Nghymru ar 1 Medi 2006 y darpariaethau a ganlyn yn Neddf Addysg Uwch 2004:
Adran 44(3) sy'n sicrhau bod rheoliadau, a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol ac sy'n darparu ar gyfer ad-dalu drwy gyfrwng trethi fenthyciadau a roddwyd i fyfyrwyr (rheoliadau a wnaed o dan adran 22(5) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998), yn gymwys i Gymru dim ond os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu gweithredu system ad-dalu drwy gyfrwng trethi o gasglu'r arian ac yn hysbysu'r Ysgrifennydd Gwladol o'r penderfyniad hwnnw.
Adran 44 (4) sy'n trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i drosglwyddo neu ddirprwyo unrhyw un o'r swyddogaethau sydd ganddo yn rhinwedd y rheoliadau sy'n pennu'r trefniadau ar gyfer rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 1 | 16 Rhagfyr 2004 | 2004/3255 |
Adran 2 | 1 Ebrill 2005 | 2005/767 |
Adrannau 3 i 6 | 16 Rhagfyr 2004 | 2004/3255 |
Adrannau 8 a 9 | 16 Rhagfyr 2004 | 2004/3255 |
Adrannau 11 i 18 | 1 Rhagfyr 2004 | 2004/3144 |
Adran 19 | 1 Tachwedd 2004 | 2004/2781 |
Adran 20 | 1 Ionawr 2005 | 2004/3144 |
Adran 21 | 1 Rhagfyr 2004 | 2004/3144 |
Adran 46 | 1 Ionawr 2005 | 2004/3144 |
Adran 49 | 16 Rhagfyr 2004 1 Ebrill 2005 | 2004/3255 2005/767 |
Adran 50 | 1 Ionawr 2005 1 Ebrill 2005 | 2004/3144 2005/767 |
Atodlen 1 | 1 Rhagfyr 2004 | 2004/3144 |
Atodlen 2 | 1 Rhagfyr 2004 | 2004/3144 |
Atodlen 3 | 1 Rhagfyr 2004 | 2004/3144 |
Atodlen 4 | 1 Rhagfyr 2004 | 2004/3144 |
Atodlen 6 | 16 Rhagfyr 2004 1 Ebrill 2005 | 2004/3255 2005/767 |
Atodlen 7 | 1 Ionawr 2005 1 Ebrill 2005 | 2004/3144 2005/767 |
Cafodd amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg Uwch 2004 eu dwyn i rym o ran Lloegr a Gogledd Iwerddon gan yr offerynnau statudol a ganlyn: O.S. 2004/2781 ac O.S. 2004/3255. Cafodd adran 10(3) o Ddeddf Addysg Uwch 2004 ei dwyn i rym o ran yr Alban gan O.S. 2005/33.
Fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Addysg Uwch 2004, adran 52(4).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: