xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 1833 (Cy.149) (C.79)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005

Wedi'i wneud

6 Gorffennaf 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 47(5), 52(3), (4) a (6) o Ddeddf Addysg Uwch 2004(1) a chyda chytundeb yr Ysgrifennydd Gwladol(2) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005.

2.  Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym o ran Cymru.

3.  Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a'r Atodlenni iddi.

Darpariaethau sy'n dod i rym

4.  Daw'r darpariaethau canlynol i rym ar 7 Gorffennaf 2005 —

(a)adran 10(2);

(b)adran 44 (1), (2), (5) a (6);

(c)adran 49 i'r graddau mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 6 isod;

(ch)adran 50 i'r graddau mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 7 isod;

(d)yn Atodlen 6, paragraff 7, dileu adran 26(5) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998; ac

(e)yn Atodlen 7, diddymu adran 26(5) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.

5.  Daw'r darpariaethau canlynol i rym ar 1 Medi 2006—

(a)adran 44(3); a

(b)adran 44(4).

Darpariaeth drosiannol ac arbed

6.  Er gwaethaf dwyn i rym adran 44(1) a (2) yn rhinwedd erthygl 4(b) uchod, hyd at 1 Medi 2006 mae swyddogathau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2005(3) yn arferadwy mewn perthynas â Chymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unig.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Gorffennaf 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym yng Nghymru ar 30 Mehefin 2005 y darpariaethau a ganlyn yn Neddf Addysg Uwch 2004:

Adran 10(2) sy'n rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i ariannu'n uniongyrchol ymchwil yn y celfyddydau a'r dyniaethau ac mewn gweithgareddau cysylltiedig.

Adran 44(1) sy'n trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol bŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i wneud rheoliadau sy'n pennu'r trefniadau ar gyfer rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr.

Adran 44(2) sy'n rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol (yn gydredol â'r Ysgrifennydd Gwladol) y pŵer, mewn perthynas â Chymru, i wneud darpariaethau penodol yn y rheoliadau sy'n pennu'r trefniadau ar gyfer rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr.

Adran 44(5) sy'n rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol (yn gydredol â'r Ysgrifennydd Gwladol), a hynny cyn trosglwyddo swyddogaethau cymorth i fyfyrwyr, y pŵer i wneud taliadau i gorff neu berson, megis y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, y bydd un o swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol yn arferadwy ganddo ar ôl trosglwyddo pwerau cymorth i fyfyrwyr i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Adran 44(6) sy'n sicrhau bod darpariaethau penodol Deddf Llywodraeth Cymru 1998 yn gymwys i'r swyddogaethau a drosglwyddir, er enghraifft, nad yw gweithdrefnau seneddol yn gymwys i'r gwaith o wneud deddfwriaeth y Cynulliad Cenedlaethol.

Adran 49 ac Atodlen 6 sy'n cynnwys diwygiadau canlyniadol.

Adran 50 ac Atodlen 7 sy'n cynnwys diddymiadau.

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym yng Nghymru ar 1 Medi 2006 y darpariaethau a ganlyn yn Neddf Addysg Uwch 2004:

Adran 44(3) sy'n sicrhau bod rheoliadau, a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol ac sy'n darparu ar gyfer ad-dalu drwy gyfrwng trethi fenthyciadau a roddwyd i fyfyrwyr (rheoliadau a wnaed o dan adran 22(5) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998), yn gymwys i Gymru dim ond os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu gweithredu system ad-dalu drwy gyfrwng trethi o gasglu'r arian ac yn hysbysu'r Ysgrifennydd Gwladol o'r penderfyniad hwnnw.

Adran 44 (4) sy'n trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i drosglwyddo neu ddirprwyo unrhyw un o'r swyddogaethau sydd ganddo yn rhinwedd y rheoliadau sy'n pennu'r trefniadau ar gyfer rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 116 Rhagfyr 20042004/3255
Adran 21 Ebrill 20052005/767
Adrannau 3 i 616 Rhagfyr 20042004/3255
Adrannau 8 a 916 Rhagfyr 20042004/3255
Adrannau 11 i 181 Rhagfyr 20042004/3144
Adran 191 Tachwedd 20042004/2781
Adran 201 Ionawr 20052004/3144
Adran 211 Rhagfyr 20042004/3144
Adran 461 Ionawr 20052004/3144
Adran 4916 Rhagfyr 2004 1 Ebrill 20052004/3255 2005/767
Adran 501 Ionawr 2005 1 Ebrill 20052004/3144 2005/767
Atodlen 11 Rhagfyr 20042004/3144
Atodlen 21 Rhagfyr 20042004/3144
Atodlen 31 Rhagfyr 20042004/3144
Atodlen 41 Rhagfyr 20042004/3144
Atodlen 616 Rhagfyr 2004 1 Ebrill 20052004/3255 2005/767
Atodlen 71 Ionawr 2005 1 Ebrill 20052004/3144 2005/767

Cafodd amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg Uwch 2004 eu dwyn i rym o ran Lloegr a Gogledd Iwerddon gan yr offerynnau statudol a ganlyn: O.S. 2004/2781 ac O.S. 2004/3255. Cafodd adran 10(3) o Ddeddf Addysg Uwch 2004 ei dwyn i rym o ran yr Alban gan O.S. 2005/33.

(2)

Fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Addysg Uwch 2004, adran 52(4).