xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod dyletswydd ar gorff llywodraethu ysgol a gynhelir sydd â chyllideb ddirprwyedig, ac ar awdurdod addysg lleol o ran ysgol sydd heb gyllideb ddirprwyedig neu uned cyfeirio disgyblion, i adolygu'r trefniadau staffio yn yr ysgol neu'r uned cyfeirio disgyblion. Diben yr adolygiad yw sicrhau bod rheoli a lleoli'r holl staff yn yr ysgol (neu'r uned cyfeirio disgyblion) a dyrannu cyfrifoldebau iddynt yn defnyddio adnoddau'n effeithiol. Wrth gynnal yr adolygiad rhaid i'r corff llywodraethu neu'r AALl ystyried y trefniadau cyflog ac amodau cyflogaeth athrawon ysgol a nodir yn y Ddogfen Cyflog ac Amodau, a hefyd y goblygiadau ar gyfer graddio a thaliadau i staff cymorth. Rhaid penderfynu ar yr adolygiad a pharatoi cynllun gweithredu ar neu cyn 31 Mawrth 2006.

Nid yw'r ddyletswydd sydd ar gyrff llywodraethu i gynnal adolygiad o strwythur staffio yn effeithio ar yr egwyddorion cyffredinol a rolau a chyfrifoldebau cyrff llywodraethu a phenaethiaid yn eu trefn a nodir yn Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gosod dyletswydd ar yr un cyrff i roi sylw i'r angen fod y pennaeth, neu'r athro neu'r athrawes â gofal yn achos uned cyfeirio disgyblion, yn mwynhau cydbwysedd rhesymol mewn gwaith a bywyd.