2005 Rhif 1910 (Cy.153)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Adolygu Strwythur Staffio) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 21(3) a 210(7) o Ddeddf Addysg 20021 a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 19962 ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru3, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Adolygu Strwythur Staffio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 14 Gorffennaf 2005.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn —

  • mae i “athro neu athrawes ysgol” yr ystyr a roddir i “school teacher” yn adran 122 o Ddeddf Addysg 2002;

  • ystyr “corff perthnasol” (“relevant body”) yw —

    1. a

      o ran ysgol a gynhelir â chyllideb ddirprwyedig, corff llywodraethu'r ysgol, a

    2. b

      o ran ysgol a gynhelir heb gyllideb ddirprwyedig, yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol;

  • ystyr “y Ddogfen” (“the Document”) yw'r ddogfen sy'n cynnwys darpariaethau o ran amodau statudol cyflogaeth athrawon ysgol yng Nghymru a Lloegr (Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol, sydd mewn grym o dro i dro) a'r canllawiau sydd gyda hwy a baratowyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Sgiliau, fel y maent yn effeithiol ar y dyddiad y mae'r corff perthnasol yn cyflawni ei adolygiad yn unol â'r Rheoliadau hyn4;

  • ystyr “staff cymorth” (“support staff”) yw unrhyw aelod staff ysgol heblaw athro neu athrawes ysgol;

  • ystyr “strwythur staffio” (“staffing structure”) yw'r trefniadau ar gyfer rheoli a lleoli'r holl staff yn yr ysgol;

  • mae i “uned cyfeirio disgyblion” yr ystyr a roddir i “pupil referral unit” yn adran 19(2) o Ddeddf Addysg 1996;

  • mae i “ysgol a gynhelir” yr ystyr a roddir i “maintained school” yn adran 39(1) o Deddf Addysg 2002.

Dyletswydd corff perthnasol i adolygu strwythur staffio ysgol3

1

Rhaid i'r corff perthnasol adolygu strwythur staffio'r ysgol yn unol â'r rheoliad hwn.

2

Rhaid i'r corff perthnasol gynnal yr adolygiad er mwyn sicrhau bod —

a

rheoli a lleoli'r holl staff, a

b

dyraniad cyfrifoldebau a dyletswyddau i'r holl staff,

yn defnyddio'i adnoddau yn effeithiol.

3

Wrth gynnal adolygiad, rhaid i'r corff perthnasol ystyried —

a

o ran athrawon ysgol, y trefniadau cyflog ac amodau cyflogaeth athrawon a nodir yn y Ddogfen, a

b

o ran staff cymorth, y goblygiadau ar gyfer eu graddio a'u talu.

4

Wrth gynnal yr adolygiad, rhaid i'r corff perthnasol ystyried unrhyw gyngor a roddir gan y pennaeth yn unol â rheoliad 4 isod.

5

Yn ystod y cyfnod y cynhelir yr adolygiad rhaid i'r corff perthnasol ymghynghori â'r canlynol —

a

yr holl staff;

b

cynrychiolwyr undebau llafur cydnabyddedig; ac

c

personau eraill y mae'r corff perthnasol yn barnu sy'n briodol.

6

Cyn neu ar 31 Mawrth 2006 rhaid i'r corff perthnasol —

a

penderfynu ei adolygiad o'r strwythur staffio, a

b

paratoi cynllun (“cynllun gweithredu”) sy'n dangos sut y mae'n bwriadu gweithredu unrhyw newidiadau i'r strwythur staffio.

7

Rhaid i gynllun gweithredu gynnwys —

a

amserlen ar gyfer gweithredu, a

b

y dyddiad erbyn pryd y bydd unrhyw newidiadau i'r strwythur staffio wedi cael eu gweithredu'n llawn, ac ni fydd y dyddiad hwnnw'n hwyrach na 31 Rhagfyr 2008.

8

Os y corff llywodraethu yw'r corff perthnasol, mae'r ddyletswydd i adolygu strwythur staffio'r ysgol heb ragfarnu egwyddorion cyffredinol a rolau a chyfrifoldebau'r cyrff llywodraethu a'r penaethiaid yn eu trefn a nodir yn Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 20005.

Dyletswydd y pennaeth i gynghori cyrff perthnasol4

Rhaid i'r pennaeth gynghori a chynorthwyo'r corff perthnasol ynglŷn â'i adolygiad o'r strwythur staffio o dan reoliad 3.

Dyletswydd corff perthnasol o ran rheoli'r pennaeth5

Wrth reoli'r pennaeth, rhaid i'r corff perthnasol roi sylw i'r dymunoldeb bod y pennaeth yn gallu cael cydbwysedd boddhaol rhwng yr amser y mae ei angen arno i gyflawni ei ddyletswyddau proffesiynol a'r amser y mae ei angen arno i ddilyn ei ddiddordebau personol y tu allan i'r gwaith.

Dyletswydd awdurdod addysg lleol o ran unedau cyfeirio disgyblion6

Mae paragraffau (1) i (7) o reoliad 3, a rheoliadau 4 a 5 yn gymwys o ran unedau cyfeirio disgyblion gan roi yn lle'r cyfeiriadau at y corff perthnasol cyfeiriadau at yr awdurdod addysg lleol sy'n sefydlu ac yn cynnal yr uned cyfeirio disgyblion.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19986.

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod dyletswydd ar gorff llywodraethu ysgol a gynhelir sydd â chyllideb ddirprwyedig, ac ar awdurdod addysg lleol o ran ysgol sydd heb gyllideb ddirprwyedig neu uned cyfeirio disgyblion, i adolygu'r trefniadau staffio yn yr ysgol neu'r uned cyfeirio disgyblion. Diben yr adolygiad yw sicrhau bod rheoli a lleoli'r holl staff yn yr ysgol (neu'r uned cyfeirio disgyblion) a dyrannu cyfrifoldebau iddynt yn defnyddio adnoddau'n effeithiol. Wrth gynnal yr adolygiad rhaid i'r corff llywodraethu neu'r AALl ystyried y trefniadau cyflog ac amodau cyflogaeth athrawon ysgol a nodir yn y Ddogfen Cyflog ac Amodau, a hefyd y goblygiadau ar gyfer graddio a thaliadau i staff cymorth. Rhaid penderfynu ar yr adolygiad a pharatoi cynllun gweithredu ar neu cyn 31 Mawrth 2006.

Nid yw'r ddyletswydd sydd ar gyrff llywodraethu i gynnal adolygiad o strwythur staffio yn effeithio ar yr egwyddorion cyffredinol a rolau a chyfrifoldebau cyrff llywodraethu a phenaethiaid yn eu trefn a nodir yn Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gosod dyletswydd ar yr un cyrff i roi sylw i'r angen fod y pennaeth, neu'r athro neu'r athrawes â gofal yn achos uned cyfeirio disgyblion, yn mwynhau cydbwysedd rhesymol mewn gwaith a bywyd.