Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Symud ar draws Ffin) (Cymru) 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth o ran Cymru ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 1946/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 15 Gorffennaf 2003, sy'n ymwneud â symud organeddau a addaswyd yn enetig ar draws ffin ac sy'n uniongyrchol gymwys.

Daw'r Rheoliadau i rym ar 15 Gorffennaf 2005.

Mae Rheoliad y Cyngor yn rhoi ar waith ar lefel y Gymuned y gweithdrefnau a osodwyd ym Mhrotocol Cartagena ar Fioddiogelwch, sef y Protocol i'r Confensiwn ar Amrywiaeth Biolegol (“y Protocol”), a lofnodwyd gan y Gymuned a'i Haelod-wladwriaethau yn 2000. Yn unol â'r Protocol, mae'n ofynnol i allforwyr y Gymuned sicrhau bod holl ofynion y Flaenweithdrefn Cytundeb Deallus, fel y'u nodir yn y Protocol, yn cael eu bodloni.

Mae rheoliad 3 yn dynodi Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 'Awdurdod Cymwys' at ddibenion Rheoliad y Cyngor o ran Cymru. Mae Erthygl 3(19) o Reoliad y Cyngor yn darparu bod awdurdodau cymwys yn gyfrifol am gyflawni'r swyddogaethau gweinyddol sy'n ofynnol o dan y Protocol.

Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer gorfodi'r Rheoliadau a'r darpariaethau Cymunedol penodedig (darpariaethau Rheoliad (EC) Rhif 1946/2003 a bennir yn yr Atodlen).

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer penodi arolygwyr, a threfniadau trosiannol ar gyfer arolygwyr a benodwyd eisoes o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43).

Mae rheoliad 6 yn darparu pwerau mynediad, gan gynnwys y pŵer i gynnal profion ac arolygiadau, ac i gymryd samplau.

Mae rheoliad 7 yn galluogi arolygwyr i'w gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth yn cael ei darparu.

Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn dramgwydd i fynd yn groes i'r darpariaethau Cymunedol penodedig; i rwystro arolygwyr wrth iddynt arfer eu pwerau o dan y Rheoliadau hyn; ac i roi gwybodaeth anwir; ac mae'n nodi amddiffyniad diwydrwydd dyladwy ynghylch mynd yn groes i'r darpariaethau Cymunedol penodedig.

Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth ar gyfer tramgwyddau sy'n cael eu cyflawni oherwydd bai person arall.

Mae rheoliad 10 yn gwneud darpariaeth ar gyfer tramgwyddau sy'n cael eu cyflawni gan gyrff corfforaethol.

Mae rheoliadau 11 a 12 yn rhagnodi cosbau ac yn pennu terfynau amser ar gyfer dwyn erlyniadau.

Mae rheoliad 13 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyflwyno hysbysiadau.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i bartoi ar gyfer y Rheoliadau hyn. Gellir cael gafael ar gopïau o'r is — adran Datblygu Bwyd a'r Farchnad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.