- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002(1) yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a)Yn lle'r diffiniad o “y Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol” rhodder y diffiniad a ganlyn—
“ystyr “y Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol” (“the Deliberate Release Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/18/EC(2) ar ollwng yn fwriadol i'r amgylchedd organeddau a addaswyd yn enetig fel y'i diwygiwyd gan y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid a Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1830/2003(3);”; a
Mewnosoder y diffiniadau canlynol yn eu lle pridol yn ôl trefn yr wyddor—
“ystyr “bwyd a addaswyd yn enetig” (“genetically modified food”) yw—
bwyd sy'n cynnwys organeddau a addaswyd yn enetig, neu fwyd sydd wedi'i wneud o organeddau a addaswyd yn enetig;
bwyd a gynhyrchwyd o organeddau a addaswyd yn enetig, neu sy'n cynnwys cynhwysion a gynhyrchwyd o organeddau a addaswyd yn enetig; neu
organeddau a addaswyd yn enetig i'w defnyddio yn fwyd;”;
“ystyr “bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig” (“genetically modified feed”) yw—
bwyd anifeiliaid sy'n cynnwys organeddau a addaswyd yn enetig, neu sydd wedi'i wneud ohonynt neu sydd wedi'i gynhyrchu ohonynt; neu
organeddau a addaswyd yn enetig i'w defnyddio yn fwyd anifeiliaid;
“ystyr “y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid” (“the Food and Feed Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1829/2003(4) ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig.
(3) Yn rheoliad 16—
(a)Ym mharagraff (a), rhodder y geiriau “ac yn unol â'r cyfyngiadau a'r amodau y mae defnydd y cynnyrch hwnnw yn ddarostyngedig iddynt” ar ôl y geiriau “ar ei gyfer”;
(b)Rhodder y paragraff canlynol yn lle paragraff (dd)—
“(dd)lle mae bwyd newydd a addaswyd yn enetig neu gynhwysyn bwyd newydd a addaswyd yn enetig o fewn cwmpas Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 258/75(5), fel y'i diwygiwyd gan y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid a Rheoliad y Cyngor 1882/2003(6), yn cael ei farchnata; a”; ac
(c)Rhodder y paragraff canlynol ar ôl paragraff (dd)—
“(e)lle mae bwyd neu fwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig neu a awdurdodwyd o dan y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid yn cael ei farchnata.”.
(4) Mewnosoder y rheoliad canlynol ar ôl rheoliad 18—
“Mesurau trosiannol ar gyfer presenoldeb damweiniol neu dechnegol anochel deunydd a addaswyd yn enetig sydd wedi elwa o werthusiad risg ffafriol
18A.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd marchnata olion o organedd a addaswyd yn enetig neu gyfuniad o organeddau a addaswyd yn enetig mewn cynhyrchion y bwriedir ar gyfer eu defnyddio'n uniongyrchol yn fwyd neu'n fwyd anifeiliaid neu ar gyfer eu prosesu yn esempt rhag gofynion adran 108(1)(a) o'r Ddeddf (cynnal asesiad risg) ac adran 111(1)(a) o'r Ddeddf (cael cydsyniad) cyhyd ag y bodlonir yr amodau a osodir yn erthygl 47 o'r Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid.
(2) Bydd paragraff (1) yn peidio â bod yn effeithiol ar 18 Ebrill 2007.”.
(5) Rhodder y paragraff canlynol yn lle paragraff (2) o reoliad 22—
“(2) rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru beidio â rhoi na gwrthod cydsyniad i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig cyn diwedd y cyfnod a bennir ar gyfer sylwadau yn unol â rheoliadau 21(b) ac (dd) uchod ac, os daw unrhyw sylwadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 21(dd) i law cyn pen y cyfnod hwnnw, cyn iddo ystyried y sylwadau hynny.”.
OJ Rhif L106, 17.4.2001, t.1.
OJ Rhif L268, 18.10.2003, t.24.
OJ Rhif L258, 18.10.2003, t.1.
OJ Rhif L43, 14.2.1997, t.1.
OJ Rhif L284, 31.10.2003, t.1.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: