Rheoliad 2(1)
YR ATODLEN
Darpariaethau Cymunedol Penodedig | |
---|---|
Colofn 1 | Colofn 2 |
Y Ddarpariaeth yn Rheoliad y Cyngor | Y Pwnc |
Erthygl 4(1) | Methu â sicrhau, yng nghyfnod cyntaf rhoi ar y farchnad gynnyrch sydd wedi'i ffurfio o Organeddau a Addaswyd yn Enetig (OAE) neu sy'n eu cynnwys, bod gwybodaeth benodedig yn cael ei throsglwyddo'n ysgrifenedig i'r gweithredydd sy'n cael y cynnyrch. |
Erthygl 4(2) | Methu â sicrhau, yng nghyfnodau dilynol ei roi ar y farchnad, bod yr wybodaeth a bennir yn erthygl 4(1) o Reoliad y Cyngor yn cael ei throsglwyddo'n ysgrifenedig i'r gweithredydd sy'n cael y cynnyrch. |
Erthygl 4(3) | Methu â sicrhau bod datganiad o ddefnydd, ynghyd â rhestr o'r dynodwyr unigol ar gyfer yr holl OAE hynny a ddefnyddiwyd i ffurfio'r cymysgedd, yn mynd gyda chynhyrchion sydd wedi'u ffurfio o OAE neu sy'n eu cynnwys ac sydd i'w defnyddio fel bwyd neu fwyd anifeiliaid neu ar gyfer prosesu. |
Erthygl 4(4) | Methu â chadw cofnodion o'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraffau (1), (2) a (3) o erthygl 4 am gyfnod o bum mlynedd. |
Erthygl 4(6) | Methu â sicrhau bod yr wybodaeth a bennir yn erthygl 4(6) yn ymddangos ar labeli cynhyrchion sydd wedi'i ffurfio o OAE neu sy'n eu cynnwys. |
Erthygl 5(1) | Methu â sicrhau, wrth roi cynhyrchion a gynhyrchwyd o OAE ar y farchnad, bod gwybodaeth benodedig yn cael ei throsglwyddo'n ysgrifenedig i'r gweithredydd sy'n cael y cynnyrch. |
Erthygl 5(2) | Methu â chadw cofnodion o'r wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn erthygl 5(1) am gyfnod o bum mlynedd. |