2005 Rhif 1915 (Cy.158)
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2005
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym, ac eithrio
rheoliadau 2 a 7
Rheoliadau 2 a 7
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 77, 83, 83A a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 a pharagraff 1 o Atodlen 12 iddi1, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2005 a deuant i rym ar 1 Awst 2005, ac eithrio rheoliadau 2 a 7 a fydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2006.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
3
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 20012.
Diwygio symiau a bennir yn y prif Reoliadau2
Am bob swm a bennir yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, pan fydd y swm hwnnw'n ymddangos yn narpariaeth y prif Reoliadau, a honno'n ddarpariaeth a bennir mewn perthynas â'r swm hwnnw yng ngholofn (1) (ac y gwelir yng ngholofn (2) beth yw ei phwnc), rhodder yn lle'r swm hwnnw y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (4).
Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau3
Yn rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli)—
a
yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder —
ystyr “Rheoliadau Ffioedd 2000” (“the Charges Regulations 2000”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) 20003;
b
yn y diffiniad cyntaf o “swp-ddyroddiad” (“batch issue”) yn lle “rhagnodydd” ym mhob man y digwydd, rhodder “rhagnodydd amlroddadwy”;
c
hepgorer yr ail ddiffiniad o “swp-ddyroddiad” (“batch issue”);
ch
yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—
ystyr “swp-ddyroddiad cyfatebol” (“equivalent batch issue”) yw ffurflen a ddarperir o dan drefniadau cyfatebol sy'n effeithiol yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon a ddyroddir gan ragnodydd amlroddadwy ar yr un pryd â phresgripsiwn amlroddadwy cyfatebol i alluogi fferyllydd i gael taliad am ddarparu gwasanaethau amlweinyddu;
d
yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—
ystyr “ffurflen bresgripsiwn gyfatebol” (“equivalent prescription form”) yw ffurflen a ddarparwyd ac a ddyroddwyd o dan drefniadau cyfatebol sy'n effeithiol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon i alluogi person i gael gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau fferyllol lleol ac nad yw'n cynnwys—
- a
ffurflen bresgripsiwn Gymreig;
- b
presgripsiwn amlroddadwy Cymreig; neu
- c
presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol;
dd
yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—
ystyr “presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol” (“equivalent repeatable prescription”) yw presgripsiwn a geir mewn ffurflen ac a ddyroddwyd o dan drefniadau cyfatebol sy'n effeithiol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon i alluogi person i gael gwasanaethau amlweinyddu;
e
hepgorer y diffiniad o “ffurflen bresgripsiwn” (“prescription form”);
f
yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—
mae “carchar” (“prison”) yn cynnwys sefydliad troseddwyr ifanc ond nid canolfan hyfforddi ddiogel neu garchar y llynges, carchar milwrol neu garchar y llu awyr, ac at ddibenion y diffiniad hwn—
ystyr “canolfan hyfforddi ddiogel” (“secure training centre”) yw man y mae troseddwyr sy'n destun gorchmynion cadw a hyfforddi o dan adran 100 o Ddeddf Pwerau'r Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 20004 (tramgwyddwyr o dan 18 oed: gorchmynion cadw a hyfforddi) yn gallu cael eu cadw a'u hyfforddi a'u haddysgu a'u paratoi ar gyfer eu rhyddhau; ac
ystyr “sefydliad tramgwyddwyr ifanc” (“young offender institution”) yw man i gadw tramgwyddwyr a ddedfrydwyd i gael eu cadw mewn sefydliad i droseddwyr ifanc neu ddalfa am oes;
ff
ar ôl y diffiniad o “carchar” mewnosoder—
ystyr “carcharor” (“prisoner”) yw person a gedwir mewn carchar, lle darperir gwasanaethau deintyddol, offthalmig, fferyllol neu nyrsio o dan y Ddeddf a thrwy, neu o dan drefniadau a wnaed gan Fwrdd Iechyd Lleol neu fel arall heblaw yn rhinwedd adran 7(2) o Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 19885 (estyniad pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i ariannu'r Gwasanaeth Iechyd);
g
hepgorer y diffiniad o “presgripsiwn amlroddadwy” (“repeatable prescription”);
ng
yn y diffiniad o “rhagnodydd atodol” (“supplementary prescriber”), ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—
neu
ch
y rhan o'r gofrestr a gynhelir gan Gyngor Proffesiynau Iechyd yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 20016 sy'n ymwneud â'r canlynol—
i
ciropodyddion a phodiatryddion,
ii
ffysiotherapyddion, neu
iii
radiograffyddion: diagnostig neu therapiwtig,
h
yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—
“ystyr “ffurflen bresgripsiwn Gymreig” (“Welsh prescription form”) yw ffurflen a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Lleol neu un o Ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru a ddyroddwyd gan ragnodydd neu ddeintydd i alluogi person i gael gwasanaethau fferyllol ac nid yw'n cynnwys—
- a
presgripsiwn amlroddadwy Cymreig;
- b
ffurflen bresgripsiwn gyfatebol; neu
- c
presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol,
ac at ddibenion y diffiniad hwn—
- a
ystyr “un o Ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru (“Welsh NHS Trust”) yw Ymddiriedolaeth y GIG y lleolir y cyfan neu'r rhan fwyaf o'i hysbytai, sefydliadau a chyfleusterau yng Nghymru;
- i
yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—
ystyr “presgripsiwn amlroddadwy Cymreig” (“Welsh repeatable prescription”) yw presgripsiwn ar ffurflen a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Lleol ac a ddyroddwyd gan ragnodydd amlroddadwy i alluogi person i gael gwasanaethau fferyllol yn y fformat a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1 i Reoliadau Contract y GMS—
- a
a gynhyrchir gan gyfrifiadur ond a lofnodir gan ragnodydd amlroddadwy; a
- b
sy'n dangos y ceir darparu'r cyffuriau neu'r cyfarpar a orchmynnir ar y ffurflen fwy nag unwaith, ac sy'n pennu sawl gwaith y ceir eu darparu
- a
- i
Amnewid rheoliad 3 o'r prif Reoliadau4
Yn lle rheoliad 3 o'r prif Reoliadau rhodder y rheoliad a ganlyn—
Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan fferyllwyr3
1
Rhaid i fferyllydd sy'n darparu gwasanaethau fferyllol i glaf, yn ddarostyngedig i baragraff (6), godi ac adennill taliad gan y claf—
a
os yw'r claf yn cyflwyno ffurflen bresgripsiwn Gymreig—
i
am eitem hosan elastig ffi o £4.00, hynny yw ffi o £8.00 y pâr,
ii
am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, ffi o £4.00;
b
os yw'r claf yn cyflwyno ffurflen bresgripsiwn gyfatebol—
i
am eitem hosan elastig y ffi a bennir yn rheoliad 3(1)(a) o Reoliadau Ffioedd 2000,
ii
am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, y ffi a bennir yn rheoliad 3(1)(b) o Reoliadau Ffioedd 2000.
2
Os telir ffi o dan baragraff (1), rhaid i'r person sy'n talu, bryd hynny lofnodi datganiad yn ysgrifenedig ar y ffurflen bresgripsiwn Gymreig neu ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol bod y ffi berthnasol wedi cael ei thalu.
3
Rhaid i fferyllydd sy'n darparu gwasanaethau amlweinyddu i glaf, yn ddarostyngedig i baragraff (6), godi ac adennill taliad gan y claf hwnnw—
a
o ran pob swp-ddyroddiad—
i
am eitem hosan elastig ffi o £4.00, hynny yw ffi o £8.00 y pâr,
ii
am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, ffi o £4.00;
b
o ran pob swp-ddyroddiad cyfatebol—
i
am eitem hosan elastig y ffi a bennir yn rheoliad 3(1A)(b)(i) o Reoliadau Ffioedd 2000,
ii
am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, y ffi a bennir yn rheoliad 3(1A)(b)(ii) o Reoliadau Ffioedd 2000.
4
Os telir ffi o dan baragraff (3), rhaid i'r person sy'n talu, bryd hynny lofnodi datganiad yn ysgrifenedig ar y swp-ddyroddiad neu'r swp-ddyroddiad cyfatebol bod y ffi berthnasol wedi cael ei thalu.
5
At ddibenion y rheoliad hwn—
a
os cyflenwir cyffur a orchmynnir ar ffurflen bresgripsiwn Gymreig sengl fesul cyfrannau, rhaid i'r ffi o £4.00 sy'n daladwy am y cyffur hwnnw gael ei thalu pan gyflenwir y gyfran gyntaf;
b
os cyflenwir cyffur a orchmynnir ar ffurflen bresgripsiwn gyfatebol sengl fesul cyfrannau, rhaid i'r ffi a bennir yn rheoliad 3(4) o Reoliadau Ffioedd 2000 gael ei thalu pan gyflenwir y gyfran gyntaf.
6
Ni chaniateir codi nac adennill ffioedd o dan baragraffau (1), (3) neu (5) yn yr amgylchiadau canlynol—
a
pan fydd esemptiad o dan reoliad 8 a bod datganiad o hawl i esemptiad wedi'i gwblhau'n briodol gan neu ar ran y claf—
i
mewn achosion pan gyflwynir ffurflen bresgripsiwn Gymreig, ar y ffurflen bresgripsiwn Gymreig,
ii
mewn achosion pan gyflwynir ffurflen bresgripsiwn gyfatebol, ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol,
iii
mewn achosion sy'n dod o fewn paragraff (3), ar y swp-ddyroddiad o ran y presgripsiwn amlroddadwy Cymreig neu, ar y swp-ddyroddiad cyfatebol o ran y presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol, ar yr adeg y cyflenwir y cyffur neu'r cyfarpar;
b
pan fydd hawl i beidio â thalu'r ffi o dan reoliad 3 o Rheoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl a datganiad o hawl i beidio â thalu wedi'i gwblhau'n briodol gan neu ar ran y claf—
i
mewn achosion pan gyflwynir ffurflen bresgripsiwn Gymreig, ar y ffurflen bresgripsiwn Gymreig,
ii
mewn achosion pan gyflwynir ffurflen bresgripsiwn gyfatebol, ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol,
iii
mewn achosion sy'n dod o fewn paragraff (3), ar y swp-ddyroddiad o ran y presgripsiwn amlroddadwy Cymreig neu, ar y swp-ddyroddiad cyfatebol o ran y presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol, ar yr adeg y cyflenwir y cyffur neu'r cyfarpar; neu
c
pan fydd y claf yn preswylio mewn ysgol neu sefydliad y mewnosodwyd ei henw neu ei enw ar y ffurflen bresgripsiwn Gymreig neu ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol gan ragnodydd yn unol â theler contract gwasanaethau meddygol cyffredinol sy'n rhoi effaith i baragraff 44(2) o Atodlen 6 i Reoliadau Contractau GMS neu drefniadau eraill ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol a wnaed o dan adran 16CC(2) o'r Ddeddf.
7
Ni fydd fferyllydd, beth bynnag fo telerau ei wasanaeth, o dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol o ran gorchymyn ar—
a
ffurflen bresgripsiwn Gymreig,
b
ffurflen bresgripsiwn gyfatebol,
c
presgripsiwn amlroddadwy Cymreig, neu
ch
presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol,
oni thelir yn gyntaf iddo gan y claf unrhyw ffi y mae'n ofynnol ei chodi a'i hadennill gan baragraff (1), (3), neu (5) o ran y gorchymyn hwnnw.
8
Rhaid i fferyllydd sy'n codi ac yn adennill ffi o dan baragraff (1), (3), neu (5), os bydd y claf yn gofyn am hynny, roi derbynneb i'r claf am y swm a dderbyniwyd ar y ffurflen a ddarparwyd at y diben a rhaid i'r ffurflen honno gynnwys ffurfiau o ddatganiad yn cefnogi cais am ad-daliad a gwybodaeth o ran i bwy y gellir gwneud cais am ad-daliad.
9
Caiff unrhyw swm a fyddai fel arall yn daladwy gan Fwrdd Iechyd Lleol i fferyllydd o ran darparu gwasanaethau fferyllol gan y fferyllydd ei leihau gan swm unrhyw ffioedd y mae'n ofynnol eu codi a'u hadennill gan y darpariaethau blaenorol yn y rheoliad hwn.
Diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau5
1
Diwygier rheoliad 4 o'r prif Reoliadau fel a ganlyn.
2
Yn lle paragraff (1) rhodder y canlynol —
1
Rhaid i feddyg sy'n darparu gwasanaethau fferyllol i glaf, yn ddarostyngedig i baragraff (3), godi ac adennill taliad gan y claf hwnnw—
a
os yw'r claf yn cyflwyno ffurflen bresgripsiwn Gymreig—
i
am eitem hosan elastig ffi o £4.00, hynny yw ffi o £8.00 y pâr,
ii
am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, ffi o £4.00;
b
os yw'r claf yn cyflwyno ffurflen bresgripsiwn gyfatebol—
i
am eitem hosan elastig y ffi a bennir yn rheoliad 4(1)(a) o Reoliadau Ffioedd 2000,
ii
am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, y ffi a bennir yn rheoliad 4(1)(b) o Reoliadau Ffioedd 2000.
3
Ym mharagraff (2) yn lle'r geiriau “ffurflen bresgripsiwn” rhodder “ffurflen bresgripsiwn Gymreig neu ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol”.
4
Ym mharagraff (3) yn lle'r geiriau “ffurflen bresgripsiwn” ym mhob man y digwydd, rhodder y geiriau “ffurflen bresgripsiwn Gymreig neu ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol”.
5
Ym mharagraff (4)—
a
yn lle'r geiriau “ffurflen bresgripsiwn sengl” rhodder “ffurflen bresgripsiwn Gymreig sengl neu ffurflen bresgripsiwn gyfatebol sengl”; a
b
yn lle “£6.00” rhodder “£4.00”.
Diwygio rheoliad 8 o'r Prif Reoliadau6
1
Diwygier rheoliad 8 o'r prif Reoliadau fel a ganlyn.
2
Ym mharagraff (3), ar ddechrau'r paragraff, mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (3A)”.
3
Ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
3A
Ni fydd yn ofynnol i berson sy'n dod o fewn paragraff (1)(a) neu (b) ddarparu unrhyw ddatganiad o hawl sy'n ofynnol gan reoliadau 3(6) neu 4(3) os dyroddwyd—
a
ffurflen bresgripsiwn Gymreig;
b
presgripsiwn amlroddadwy Cymreig;
c
ffurflen bresgripsiwn gyfatebol; neu
ch
presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol,
a bod dyddiad geni'r person wedi'i argraffu drwy gyfrwng cyfrifiadur ar y ffurflen berthnasol .
Mewnosod rheoliad 8A yn y prif Reoliadau7
Ar ôl rheoliad 8, mewnosoder y rheoliad canlynol—
Esemptiad rhag ffioedd ar gyfer carcharorion8A
Nid yw carcharor yn atebol i dalu unrhyw ffioedd o dan y Rheoliadau hyn.
Diwygio rheoliad 11 o'r prif Reoliadau8
Ym mharagraff (2) o reoliad 11 o'r prif Reoliadau, yn lle'r geiriau “rheoliad 3(6)” rhodder “rheoliad 3(8)”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19987
YR ATODLENSymiau a amnewidir yn y prif Reoliadau
(1) | (2) | (3) | (4) |
---|---|---|---|
Y ddarpariaeth yn y prif Reoliadau | Y pwnc | Swm blaenorol | Swm newydd |
Rheoliad 3 | Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan fferyllwyr— | ||
paragraff (1)(a)(i) | ffi am hosanau elastig— | ||
fesul eitem | £4.00 | £3.00 | |
y pâr | £8.00 | £6.00 | |
paragraff (1)(a)(ii) | ffi am gyffuriau, ac am gyfarpar na phennir ym mharagraff (1)(a)(i) | £4.00 | £3.00 |
paragraff (3)(a)(i) | ffi am hosanau elastig— | ||
fesul eitem | £4.00 | £3.00 | |
y pâr | £8.00 | £6.00 | |
paragraff (3)(a)(ii) | ffi am gyffuriau, ac am gyfarpar na phennir ym mharagraff (3)(a)(i) | £4.00 | £3.00 |
paragraff (5)(a) | ffi am gyffuriau a gyflenwir fesul tipyn | £4.00 | £3.00 |
Rheoliad 4 | Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan feddygon — | ||
paragraff (1)(a)(i) | ffi am hosanau elastig— | ||
fesul eitem | £4.00 | £3.00 | |
y pâr | £8.00 | £6.00 | |
paragraff (1)(a)(ii) | ffi am gyffuriau, ac am gyfarpar na phennir ym mharagraff (1)(a)(i) | £4.00 | £3.00 |
paragraff (4) | ffi am gyffuriau a gyflenwir fesul tipyn | £4.00 | £3.00 |
Rheoliad 5 | Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar i gleifion allanol gan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG — | ||
paragraff (1)(a) | ffi am hosanau elastig— | ||
fesul eitem | £4.00 | £3.00 | |
y pâr | £8.00 | £6.00 | |
paragraff (1)(c) | ffi am deits | £8.00 | £6.00 |
paragraff (1)(ch) | ffi am gyffuriau a chyfarpar na phennir ym mharagraff (1)(a) neu (1)(c), neu yn Atodlen 1 | £4.00 | £3.00 |
paragraff (5) | ffi am gyffuriau a gyflenwir fesul tipyn | £4.00 | £3.00 |
Rheoliad 6 | Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar mewn Canolfannau cerdded-i-mewn | ||
paragraff (1)(a) | ffi am hosanau elastig— | ||
fesul eitem | £4.00 | £3.00 | |
y pâr | £8.00 | £6.00 | |
paragraff (1)(b) | ffi am gyffuriau a chyfarpar na phennir ym mharagraff (1)(a) | £4.00 | £3.00 |
paragraff (4) | ffi am gyffuriau a gyflenwir fesul tipyn | £4.00 | £3.00 |
Rheoliad 7(1) | Cyflenwi cyffuriau o dan Gyfarwyddiadau Grwp Cleifion | £4.00 | £3.00 |
Rheoliad 10(5) | Tystysgrif ragdalu — | ||
4 mis | £20.93 | £15.69 | |
12 mis | £57.46 | £43.09 |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)