1.  Daw'r briffordd newydd y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu ei adeiladu ar hyd y llwybr a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gefnffordd o'r dyddiad y daw'r gorchymyn hwn i rym.

2.  Dangosir llinell ganol y gefnffordd newydd â llinell ddu drom ar y plan a adneuwyd.

3.  Bydd y darn o'r gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau rhesog bras ar y plan a adneuwyd yn peidio â bod yn gefnffordd a chaiff ei dosbarthu fel ffordd annosbarthedig o'r dyddiad y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru'n hysbysu Cyngor Gwynedd fod y gefnffordd newydd ar agor i draffig drwodd.

4.  Yn y Gorchymyn hwn:—

(a)mae pob mesur o bellter wedi'i fesur ar hyd llwybr y briffordd berthnasol;

(b)ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road) yw Cefnffordd Caerdydd i Lan Conwy (A470).

5.  Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Medi 2005 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd Caerdydd i Lan Conwy (A470) (Gwelliant Blaenau Ffestiniog i Gancoed) 2005.

Llofnodwyd ar ran y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth.

S. C. Shouler

Cyfarwyddwr, Polisi Trafnidiaeth a Gweinyddu

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Dyddiedig 16 Awst 2005