Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

  • ystyr “ceffyl” (“horse”) yw anifail o rywogaeth y ceffyl neu'r asyn neu groesfridau o'r rhywogaethau hynny, ond nid yw'n cynnwys sebras;

  • ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw person sydd wedi'i benodi gan y perchennog i fod â gofal y ceffyl o ddydd i ddydd;

  • mae i “corff sy'n dyroddi pasbortau” (“passport-issuing organisation”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 3;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys unrhyw drosglwyddo perchenogaeth;

  • ystyr “pasbort” (“passport”) yw—

    1. a

      dogfen adnabod i geffyl a ddyroddwyd gan gorff sy'n dyroddi pasbortau sy'n cynnwys yr holl wybodaeth sy'n ofynnol gan reoliad 8(2) neu 8(3); neu

    2. b

      yn achos dogfen adnabod o'r fath a ddyroddwyd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym ond nad yw'n cynnwys y tudalennau yn Adran IX o'r pasbort, y ddogfen honno gyda thudalennau Adran IX ynghlwm yn unol â rheoliad 9,

    ac ystyr “tudalennau Adran IX” yw'r tudalennau hynny.