2005 Rhif 2689 (Cy.189)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 9, 56 i 64, 140(8), 142(1) a (5) a 144(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 20021 a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, gyda chymeradwyaeth y Cofrestrydd Cyffredinol2 a Changhellor y Trysorlys3 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:—

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “asiantaeth cefnogi mabwysiadu gofrestredig” (“registered adoption support agency”) yw asiantaeth cefnogi mabwysiadu y cofrestrir person mewn perthynas â hi o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 20004;

  • ystyr “yr awdurdod cofrestru” (“the registration authority”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr CAFCASS (“CAFCASS”) yw y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd5;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002;

  • ystyr “gwybodaeth adran 56” (“section 56 information”) yw gwybodaeth a ragnodir gan reoliad 3;

  • ystyr “mabwysiadwyr” (“adopters”) yn achos mabwysiadu gan un person yw'r person hwnnw;

  • ystyr “perthynas geni” (“birth relative”) mewn perthynas â pherson mabwysiedig yw person a fyddai, oni bai am y mabwysiadu, yn perthyn iddo drwy waed (gan gynnwys hanner gwaed) neu drwy briodas;

  • ystyr “rhiant geni” (“birth parent”) mewn perthynas â pherson mabwysiedig yw person a fyddai, oni bai am y mabwysiadu, yn rhiant iddo;

  • ystyr “y Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu” (“the Adoption Agencies Regulations”) yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 20056.

  • mae i “swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru” yr ystyr a roddir i “Welsh family proceedings officer” yn adran 35(4) o Ddeddf Plant 20047.

RHAN 2CADW GWYBODAETH GAN ASIANTAETHAU MABWYSIADU

Gwybodaeth sydd i'w chadw am fabwysiad person3

1

Mae paragraffau (2) a (3) yn rhagnodi, at ddibenion adran 56 o'r Ddeddf, yr wybodaeth y mae'n rhaid i asiantaeth fabwysiadu ei chadw mewn perthynas â pherson a fabwysiedir ar neu ar ôl 30 Rhagfyr 2005 (ac y cyfeirir ati yn y Ddeddf ac yn y Rheoliadau hyn fel “gwybodaeth adran 56”)8.

2

Pan wneir gorchymyn mabwysiadu mewn perthynas â pherson a fabwysiadwyd ar ôl 30 Rhagfyr 2005 rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu—

a

a leolodd y person i'w fabwysiadu; neu

b

y trosglwyddwyd y cofnodion achos mewn perthynas â'r person mabwysiedig iddi,

barhau i gadw'r cofnod achos a luniwyd mewn perthynas â'r person mabwysiedig o dan reoliad12 o'r Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu neu o dan Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 19839.

3

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu hefyd gadw —

a

unrhyw wybodaeth a roddwyd gan y rhiant geni neu berthynas geni arall am y person mabwysiedig, neu gan berson arwyddocaol arall ym mywyd y person mabwysiedig, gyda'r bwriad y gall y person mabwysiedig, os yw'n dymuno hynny, gael yr wybodaeth honno;

b

unrhyw wybodaeth a roddwyd gan ofalydd maeth blaenorol y person mabwysiedig, gyda'r bwriad y caiff y person mabwysiedig, os yw'n dymuno hynny, gael yr wybodaeth honno;

c

unrhyw wybodaeth a roddwyd gan y mabwysiadwyr neu bersonau eraill sy'n berthnasol i faterion sy'n codi ar ôl i'r gorchymyn mabwysiadu gael ei wneud;

ch

unrhyw wybodaeth y gofynnodd y person a fabwysiadwyd iddi gael ei chadw;

d

unrhyw wybodaeth a roddwyd i asiantaeth mewn perthynas â pherson mabwysiedig gan y Cofrestrydd Cyffredinol o dan adran 79(5) o'r Ddeddf (gwybodaeth a fyddai'n galluogi person mabwysiedig i gael copi ardystiedig o gofnod ei eni);

dd

unrhyw wybodaeth a ddatgelwyd i'r asiantaeth fabwysiadu ynghylch cofnod sy'n ymwneud â'r person mabwysiedig yn y Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu;

e

unrhyw wybodaeth y mae angen ei chofnodi yn unol â rheoliad 9, 10, 13 neu 16;

f

cofnod o unrhyw gytundeb o dan reoliad 10.

4

At ddibenion y rheoliad hwn mae “gwybodaeth” yn cynnwys gwybodaeth ar unrhyw ffurf, gan gynnwys ar bapur neu gofnodion electronig a ffotograffau.

5

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gadw cofnod o unrhyw wrthrychau a chofroddion nas cedwir am nad yw'n rhesymol ymarferol i'w storio.

Storio a dull cadw gwybodaeth adran 564

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu sicrhau bod gwybodaeth adran 56 mewn perthynas â mabwysiad person yn cael ei chadw o dan amodau diogel bob amser ac yn benodol bod pob cam priodol yn cael ei gymryd i rwystro lladrad, datgelu nas awdurdodwyd, difrod, colled neu ddifa.

Cadw gwybodaeth adran 565

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gadw gwybodaeth adran 56 mewn perthynas â mabwysiad person am o leiaf 100 mlynedd ar ôl dyddiad y gorchymyn mabwysiadu.

Trosglwyddo gwybodaeth adran 566

1

Os bydd cymdeithas fabwysiadu gofrestredig10 yn bwriadu peidio â gweithredu neu beidio â bodoli, rhaid iddi drosglwyddo unrhyw wybodaeth adran 56 y mae'n ei dal mewn perthynas â mabwysiadu person—

a

i asiantaeth fabwysiadu arall ar ôl iddi'n gyntaf gael cymeradwyaeth yr awdurdod cofrestru ar gyfer trosglwyddiad o'r fath;

b

i'r awdurdod lleol y lleolir prif swyddfa'r gymdeithas yn ei ardal; neu

c

yn achos cymdeithas sy'n cyfuno â chymdeithas fabwysiadu gofrestredig arall i ffurfio cymdeithas fabwysiadu gofrestredig newydd, i'r corff newydd.

2

Rhaid i asiantaeth fabwysiadu sy'n trosglwyddo ei chofnodion i asiantaeth fabwysiadu arall yn rhinwedd paragraff (1), os oedd ei gweithgareddau pennaf yn ardal awdurdod lleol unigol, hysbysu'r awdurdod hwnnw yn ysgrifenedig o'r trosglwyddiad.

3

Rhaid i asiantaeth fabwysiadu y trosglwyddir cofnodion iddi yn rhinwedd paragraff (1), hysbysu'r awdurdod cofrestru yn ysgrifenedig o drosglwyddiad o'r fath.

RHAN 3DATGELU GWYBODAETH — CYFFREDINOL

Datgelu gwybodaeth adran 56 at ddibenion swyddogaethau asiantaeth7

1

Caiff asiantaeth fabwysiadu ddatgelu gwybodaeth adran 56 nad yw'n wybodaeth a ddiogelir11 fel y gwêl orau at ddibenion cyflawni ei swyddogaethau fel asiantaeth fabwysiadu.

2

Caiff asiantaeth fabwysiadu ddatgelu gwybodaeth adran 56 (gan gynnwys gwybodaeth a ddiogelir) i asiantaeth cefnogi mabwysiadu gofrestredig sy'n darparu gwasanaethau i'r asiantaeth fabwysiadu mewn cysylltiad ag unrhyw rai o'i swyddogaethau o dan adran 61 neu 62 o'r Ddeddf.

3

Caiff asiantaeth fabwysiadu ddatgelu gwybodaeth adran 56 (gan gynnwys gwybodaeth a ddiogelir) i berson a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gael gwybodaeth at ddibenion ymchwil.

Datgelu gwybodaeth adran 56 at ddibenion ymholiadau, archwiliadau etc.8

Rhaid i asiantaeth fabwysiadu ddatgelu gwybodaeth adran 56 (gan gynnwys gwybodaeth a ddiogelir) yn ôl y gofyn—

a

i'r rheini sy'n cynnal ymchwiliad o dan adran 17 o'r Ddeddf neu adran 81 o Ddeddf Plant 198912 neu adran i o Ddeddf Ymchwiliadau 200513 at ddibenion ymchwiliad o'r fath;

b

yn ddarostyngedig i ddarpariaethau 74(5) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 i Gomisiynydd Plant Cymru14 at ddibenion unrhyw archwiliad a gynhelir yn unol â Rhan V o'r Ddeddf honno;

c

i Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

ch

yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adrannau 29(7) a 32(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 197415 (ymchwiliadau a datgelu), i'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru at ddibenion ymchwiliad a gynhelir yn unol â Rhan III o'r Ddeddf honno;

d

i unrhyw berson a benodwyd gan yr asiantaeth fabwysiadu at ddibenion ystyriaeth gan yr asiantaeth o unrhyw sylwadau (gan gynnwys cwynion);

dd

i banel a ffurfiwyd o dan adran 12 o'r Ddeddf i ystyried penderfyniad cymhwysol mewn perthynas â datgelu gwybodaeth adran 56;

e

i swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru neu swyddog o CAFCASS at ddibenion cyflawni dyletswyddau'r swyddog o dan y Ddeddf;

f

i lys sydd â'r pŵer i wneud gorchymyn o dan y Ddeddf neu o dan Ddeddf Plant 1989.

Gofynion sy'n ymwneud â datgelu9

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu wneud cofnod ysgrifenedig o unrhyw ddatgeliad a wnaed o dan reoliad 7 neu 8, a rhaid iddo gynnwys —

a

disgrifiad o'r wybodaeth a ddatgelir;

b

y dyddiad y datgelir yr wybodaeth;

c

y person y datgelir yr wybodaeth iddo;

ch

y rheswm dros y datgeliad.

Cytundebau ar gyfer datgelu gwybodaeth a ddiogelir10

1

Cytundeb rhagnodedig at ddibenion adran 57(5) o'r Ddeddf —

a

yw cytundeb a wneir rhwng yr asiantaeth fabwysiadu a pherson 18 oed neu drosodd ar yr adeg y gwneir y cytundeb o ran datgelu gwybodaeth a ddiogelir amdano; neu

b

yw cytundeb a wneir rhwng yr asiantaeth fabwysiadu a phob un o'r personau canlynol o ran datgelu gwybodaeth a ddiogelir amdanynt neu am y person mabwysiedig—

i

rhiant mabwysiol y person mabwysiedig neu yn achos mabwysiadu gan gwpl, dau riant mabwysiol y person mabwysiedig;

ii

pob person a oedd, cyn i'r gorchymyn mabwysiadu gael ei wneund, yn rhiant a chyfrifoldeb rhiant am y person mabwysiedig.

2

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw gytundeb o'r fath a rhaid i'r cofnod hwnnw gynnwys —

a

enwau llawn a llofnodion y personau sydd yn bartïon;

b

y dyddiad pan gaiff ei wneud;

c

y rhesymau dros ei wneud;

ch

yr wybodaeth y ceir ei datgelu yn unol â'r cytundeb;

d

unrhyw gyfyngiadau y cytunir arnynt ynghylch yr amgylchiadau pan geir datgelu gwybodaeth.

RHAN 4DATGELU GWYBODAETH A DDIOGELIR O DAN ADRANNAU 61 A 62

Dull gwneud cais11

Rhaid i gais i asiantaeth fabwysiadu ddatgelu gwybodaeth a ddiogelir o dan adran 61 neu 62 o'r Ddeddf fod yn gais ysgrifenedig a rhaid datgan y rhesymau dros wneud y cais.

Dyletswyddau asiantaeth wrth dderbyn cais12

Pan geir cais i ddatgelu gwybodaeth a ddiogelir o dan adran 61 neu 62 o'r Ddeddf rhaid i asiantaeth fabwysiadu gymryd pob cam rhesymol i —

a

cadarnhau pwy yw'r ceisydd ac unrhyw berson sy'n gweithredu ar ei ran; a

b

cadarnhau bod unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran y ceisydd wedi cael ei awdurdodi i wneud hynny; ac

c

sicrhau bod ganddi ddigon o wybodaeth oddi wrth y ceisydd am y rhesymau dros y cais i alluogi'r asiantaeth i gyflawni ei swyddogaethau o dan adran 61 neu 62 o'r Ddeddf (yn ôl y digwydd).

Cofnodion o sylwadau13

Rhaid i asiantaeth fabwysiadu sicrhau bod unrhyw sylwadau a geir o dan adrannau 61(3) neu 62(3) neu (4) o'r Ddeddf yn cael eu cofnodi'n ysgrifenedig.

RHAN 5CWNSELA

Gwybodaeth bod cwnsela ar gael14

1

Rhaid i asiantaeth fabwysiadu ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig ynghylch argaeledd cwnsela i unrhyw berson —

a

sy'n holi am wybodaeth o dan adrannau 60, 61 neu 62 o'r Ddeddf;

b

yr holwyd am eu sylwadau o ran datgelu gwybodaeth amdanynt o dan adran 61(3) neu 62(3) neu (4) o'r Ddeddf;

c

sy'n ymrwymo, neu'n ystyried ymrwymo, mewn cytundeb â'r asiantaeth o dan reoliad 10.

2

Rhaid i'r wybodaeth a ddarperir o dan baragraff (1) gynnwys gwybodaeth am y ffioedd y gellir eu codi gan bersonau sy'n darparu cwnsela.

Dyletswydd i sicrhau cwnsela15

1

Os bydd person a grybwyllir yn rheoliad 14(1) yn gofyn bod cwnsela yn cael ei ddarparu ar ei gyfer, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu drefnu i sicrhau cwnsela ar gyfer y person hwnnw.

2

Caiff yr asiantaeth ddarparu cwnsela ei hun neu drefnu ag unrhyw rai o'r personau canlynol i ddarparu cwnsela—

a

os yw'r person yng Nghymru neu Loegr, asiantaeth fabwysiadu arall neu asiantaeth cefnogi mabwysiadu gofrestredig;

b

os yw'r person yn yr Alban, asiantaeth fabwysiadu yn yr Alban;

c

os yw'r person yng Ngogledd Iwerddon, cymdeithas fabwysiadu sydd wedi'i chofrestru o dan Erthygl 4 o Orchymyn Mabwysiadu (Gogledd Iwerddon) 198716 neu unrhyw Fwrdd; neu

ch

os yw'r person y tu allan i'r Deyrnas Unedig, unrhyw berson neu gorff y tua allan i'r Deyrnas Unedig y mae'n ymddangos i'r asiantaeth ei fod yn cyfateb yn ei swyddogaethau i gorff a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (c).

3

Yn y rheoliad hwn —

  • ystyr “asiantaeth cefnogi mabwysiadu gofrestredig” yw asiantaeth cefnogi mabwysiadu y cofrestrir person mewn perthynas â hi o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000.

  • ystyr “Bwrdd” yw Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a sefydlwyd gan o dan Erthygl 16 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 197217 neu os yw swyddogaethau Bwrdd yn arferadwy gan Ymddiriedolaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Ymddiriedolaeth honno;

Datgelu gwybodaeth at ddibenion cwnsela16

1

Caiff asiantaeth fabwysiadu ddatgelu gwybodaeth (gan gynnwys gwybodaeth a ddiogelir), y mae ei hangen at ddibenion darparu cwnsela i unrhyw berson y gwnaeth drefniadau ag ef i ddarparu cwnsela.

2

Rhaid i asiantaeth fabwysiadu wneud cofnod ysgrifenedig o unrhyw ddatgelu a wneir yn rhinwedd y rheoliad hwn.

RHAN 6Y COFRESTRYDD CYFFREDINOL

Holi am wybodaeth gan y Cofrestrydd Cyffredinol17

1

Os bydd —

a

person mabwysiedig sydd wedi cael ei 18 oed yn gofyn am wybodaeth gan asiantaeth fabwysiadu o dan adran 60(2)(a) o'r Ddeddf, a fyddai'n ei alluogi i gael copi ardystiedig o gofnod ei eni; a

b

nad yw'r wybodaeth honno gan yr asiantaeth,

rhaid i'r asiantaeth holi am yr wybodaeth gan y Cofrestrydd Cyffredinol.

2

Os bydd asiantaeth fabwysiadu yn holi am wybodaeth gan y Cofrestrydd Cyffredinol o dan baragraff (1), rhaid i'r asiantaeth roi'r wybodaeth ganlynol iddo yn ysgrifenedig, i'r graddau y mae'n hysbys—

a

enw, dyddiad geni a gwlad enedigol y person mabwysiedig;

b

enw tad neu fam mabwysiol y person hwnnw;

c

dyddiad y gorchymyn mabwysiadu.

Mae'r Cofrestrydd Cyffredinol i ddatgelu gwybodaeth sy'n ymwneud â'r asiantaeth fabwysiadu briodol a'r Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu18

1

Rhaid i'r Cofrestrydd Cyffredinol —

a

datgelu i unrhyw berson (gan gynnwys person mabwysiedig) unrhyw wybodaeth y mae'n gofyn amdani y mae ei hangen arno i'w gynorthwyo i gysylltu â'r asiantaeth fabwysiadu sef yr asiantaeth fabwysiadu briodol yn achos y person a bennir yn y gofyniad (neu, yn ôl y digwydd, yn achos y ceisydd); a

b

datgelu i'r asiantaeth fabwysiadu briodol unrhyw wybodaeth sy'n ofynnol gan yr asiantaeth o ran cais o dan adran 60, 61 neu 62 o'r Ddeddf, ynghylch unrhyw gofnod sy'n ymwneud â pherson mabwysiedig ar y Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu18.

2

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu dalu unrhyw ffi y dyfarna'r Cofrestrydd Cyffredinol ei bod yn rhesymol ar gyfer datgelu gwybodaeth o dan baragraff (1)(b).

3

Yn y rheoliad hwn mae i “asiantaeth fabwysiadu briodol” yr ystyr a roddir i “appropriate adoption agency” gan adran 65(1) o'r Ddeddf.

RHAN 7AMRYWIOL

Tramgwydd19

Mae cymdeithas fabwysiadu gofrestredig sy'n datgelu unrhyw wybodaeth yn groes i adran 57 o'r Ddeddf (cyfyngiadau ar ddatgelu etc. gwybodaeth) yn euog o dramgwydd y gellir ei gosbi ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Ffioedd a godir gan asiantaethau mabwysiadu20

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2) caiff asiantaeth fabwysiadu godi ffi sydd yn ei barn yn ffi resymol —

a

o ran datgelu gwybodaeth o dan adrannau 61 neu 62 o'r Ddeddf;

b

am ddarparu cwnsela mewn cysylltiad â datgelu gwybodaeth o dan yr adrannau hynny; neu

c

am wneud trefniadau i sicrhau cwnsela yn unol â rheoliad 16 pan ddarperir y cwnsela gan berson y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

2

Ni fydd ffi'n daladwy gan berson mabwysiedig o ran unrhyw wybodaeth a ddatgelir iddo o dan adran 60, 61 neu 62 ynghylch unrhyw berthynas iddo neu am unrhyw gwnsela a ddarperir iddo mewn cysylltiad ag unrhyw ddatgeliad o'r fath.

3

Rhaid i asiantaeth fabwysiadu, cyn iddi ddarparu gwasanaeth i unrhyw berson y caiff godi ffi amdano o dan y rheoliad hwn, roi gwybodaeth i'r person am ei ffioedd.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199819

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi materion penodol at ddibenion y drefn a nodir yn adrannau 56 i 65 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (“y Ddeddf”) (datgelu gwybodaeth mewn perthynas â mabwysiad person). Mae'r drefn yn darparu i asiantaethau mabwysiadu gadw gwybodaeth am bob mabwysiad a darparu gwasanaeth ar gyfer pobl sy'n holi am wybodaeth ynghylch mabwysiad. Nid yw'r drefn yn gymwys ond mewn perthynas â mabwysiad ar neu ar ôl 30 Rhagfyr 2005. O ran personau a fabwysiadwyd cyn y diwrnod hwnnw, bydd Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983 (O.S. 1983/1964) yn parhau i fod yn effeithiol.

Mae Rhan 2 yn darparu ar gyfer cadw gwybodaeth. Mae rheoliad 3 yn rhagnodi pa wybodaeth y mae'n rhaid ei chadw (“gwybodaeth adran 56”). Mae hyn yn cynnwys cofnod yr achos a sefydlwyd gan yr asiantaeth fabwysiadu mewn perthynas â'r plentyn at ddibenion y mabwysiadu, yr wybodaeth a roddwyd gan y rhieni geni, gwybodaeth a roddwyd gan y Cofrestrydd Cyffredinol, a chofnod o unrhyw ddatgeliad gwybodaeth. Mae Rhan 2 hefyd yn ymdrin â storio a throsglwyddo gwybodaeth adran 56. Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth adran 56 yn cael ei chadw am 100 mlynedd o'r dyddiad mabwysiadu.

Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth gyffredinol ar gyfer datgelu gwybodaeth adran 56, a all gynnwys gwybodaeth a ddiogelir (sef gwybodaeth sy'n enwi rhywun). O dan reoliad 7 caiff asiantaeth fabwysiadu ddatgelu gwybodaeth adran 56 nad yw'n wybodaeth a ddiogelir yn ôl yr angen at ddibenion ei swyddogaethau. Caiff hefyd ddatgelu unrhyw wybodaeth adran 56 i bersonau sy'n darparu gwasanaethau mewn perthynas â'i swyddogaethau o dan adran 61 neu 62 (er enghraifft asiantaeth cefnogi mabwysiadu gofrestredig sy'n cyflawni ymholiadau ar ei rhan). Mae rheoliad 8 yn darparu ar gyfer datgelu gwybodaeth i bersonau penodedig gan gynnwys personau sy'n cynnal archwiliadau, Comisiynydd Plant Cymru, swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru neu swyddog o CAFCASS a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol cadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw ddatgeliad. Mae rheoliad 10 yn rhagnodi gofynion ar gyfer cytundeb o dan 57(5) o'r Ddeddf (sy'n caniatáu datgelu gwybodaeth a ddiogelir yn unol â chytundeb a ragnodwyd).

Mae Rhan 4 yn ymwneud â cheisiadau ar gyfer datgelu gwybodaeth a ddiogelir o dan adran 61 (gwybodaeth am oedolion) a 62 (gwybodaeth am blant). Mae rheoliadau 11 i 13 yn ymdrin â materion gweithdrefnol mewn perthynas â cheisiadau o'r fath.

Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cwnsela. Mae rheoliad 14 yn ei gwneud yn ofynnol i asiantaethau mabwysiadu ddarparu gwybodaeth am y cwnsela sydd ar gael i bersonau sy'n chwilio am wybodaeth ynghylch mabwysiad neu bersonau y ceisir gwybodaeth amdanynt. Mae rheoliad 15 yn ei gwneud yn ofynnol i asiantaethau mabwysiadu drefnu i sicrhau cwnsela pan fydd personau sy'n chwilio am wybodaeth yn gofyn amdano.

Mae Rhan 6 yn ymwneud â'r Cofrestrydd Cyffredinol. Mae gan oedolion a fabwysiadwyd hawl o dan adran 60 o'r Ddeddf i ofyn am wybodaeth ynghylch cofnodion eu geni. Rhaid iddynt yn gyntaf holi'r asiantaeth fabwysiadu briodol, ac yna bydd hi'n gofyn am yr wybodaeth gan y Cofrestrydd Cyffredinol. Mae rheoliad 17 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cofrestrydd ddarparu'r wybodaeth. Mae rheoliad 18 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cofrestrydd Cyffredinol ddatgelu gwybodaeth i unrhyw berson a all gynorthwyo'r person hwnnw gysylltu â'r asiantaeth fabwysiadu sy'n cadw cofnodion ynglŷn â'r mabwysiad hwn. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cofrestrydd Cyffredinol ddatgelu gwybodaeth o'r Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu ar gais asiantaeth fabwysiadu.

Mae Rhan 7 yn ymdrin â materion amrywiol. Mae'n creu tramgwydd o ddatgelu gwybodaeth yn groes i adran 57 o'r Ddeddf. Mae rheoliad 20 yn rhagnodi ffioedd y gellir eu codi gan asiantaethau mabwysiadu mewn perthynas â datgelu gwybodaeth a chwnsela.