RHAN 1CYFFREDINOL
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “asiantaeth cefnogi mabwysiadu gofrestredig” (“registered adoption support agency”) yw asiantaeth cefnogi mabwysiadu y cofrestrir person mewn perthynas â hi o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 20004;
ystyr “yr awdurdod cofrestru” (“the registration authority”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr CAFCASS (“CAFCASS”) yw y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd5;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002;
ystyr “gwybodaeth adran 56” (“section 56 information”) yw gwybodaeth a ragnodir gan reoliad 3;
ystyr “mabwysiadwyr” (“adopters”) yn achos mabwysiadu gan un person yw'r person hwnnw;
ystyr “perthynas geni” (“birth relative”) mewn perthynas â pherson mabwysiedig yw person a fyddai, oni bai am y mabwysiadu, yn perthyn iddo drwy waed (gan gynnwys hanner gwaed) neu drwy briodas;
ystyr “rhiant geni” (“birth parent”) mewn perthynas â pherson mabwysiedig yw person a fyddai, oni bai am y mabwysiadu, yn rhiant iddo;
ystyr “y Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu” (“the Adoption Agencies Regulations”) yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 20056.
mae i “swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru” yr ystyr a roddir i “Welsh family proceedings officer” yn adran 35(4) o Ddeddf Plant 20047.