RHAN 2CADW GWYBODAETH GAN ASIANTAETHAU MABWYSIADU

Trosglwyddo gwybodaeth adran 56

6.—(1Os bydd cymdeithas fabwysiadu gofrestredig(1) yn bwriadu peidio â gweithredu neu beidio â bodoli, rhaid iddi drosglwyddo unrhyw wybodaeth adran 56 y mae'n ei dal mewn perthynas â mabwysiadu person—

(a)i asiantaeth fabwysiadu arall ar ôl iddi'n gyntaf gael cymeradwyaeth yr awdurdod cofrestru ar gyfer trosglwyddiad o'r fath;

(b)i'r awdurdod lleol y lleolir prif swyddfa'r gymdeithas yn ei ardal; neu

(c)yn achos cymdeithas sy'n cyfuno â chymdeithas fabwysiadu gofrestredig arall i ffurfio cymdeithas fabwysiadu gofrestredig newydd, i'r corff newydd.

(2Rhaid i asiantaeth fabwysiadu sy'n trosglwyddo ei chofnodion i asiantaeth fabwysiadu arall yn rhinwedd paragraff (1), os oedd ei gweithgareddau pennaf yn ardal awdurdod lleol unigol, hysbysu'r awdurdod hwnnw yn ysgrifenedig o'r trosglwyddiad.

(3Rhaid i asiantaeth fabwysiadu y trosglwyddir cofnodion iddi yn rhinwedd paragraff (1), hysbysu'r awdurdod cofrestru yn ysgrifenedig o drosglwyddiad o'r fath.

(1)

gweler adran 2(2) o'r Ddeddf.