Y diwrnod penodedig
2.—(1) Y diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym, sef—
(a)adran 61 (arolwg);
(b)adran 64 (archwiliad annibynnol);
(c)adran 65 (ymyrraeth gan y Cynulliad);
(ch)adran 66 (tynnu cynllun datblygu lleol yn ôl);
(d)adran 67 (mabwysiadu cynllun datblygu lleol);
(dd)adran 68 (dirymu cynllun datblygu lleol);
(e)adran 69 (adolygu cynllun datblygu lleol);
(f)adran 70 (diwygio cynllun datblygu lleol);
(ff)adran 71 (pŵer diofyn y Cynulliad);
(g)adran 74 (corfforaethau datblygu trefol); ac
(ng)adran 76 (yr adroddiad monitro blynyddol), i'r graddau nad yw eisoes mewn grym,
yw, at ddiben gwneud rheoliadau, 5 Hydref 2005, ac ymmhob achos arall, 15 Hydref 2005.
(2) Y diwrnod penodedig i erthyglau 3 i 7 o'r Gorchymyn hwn ddod i rym yw 15 Hydref 2005.