2005 Rhif 2800 (Cy.199) (C.116)
Gorchymyn Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005
Wedi'i wneud
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 40, 43(1)(b), 44(1) a 44(2) o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 20051, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005.
2
1
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru a sefydlwyd gan adran 23(1)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1974,
ystyr “Comisiynydd Lleol yng Nghymru” (“a Local Commissioner in Wales”) yw Comisiynydd Lleol (o fewn ystyr Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 19742) sy'n aelod o'r Comisiwn,
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 20003,
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005, ac
ystyr “yr Ombwdsmon” (the Ombudsman”) yw Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
2
Yn y Gorchymyn hwn mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni, oni nodir fel arall, yn gyfeiriadau at adrannau o'r Ddeddf ac Atodlenni iddi.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar 12 Hydref 2005
3
Mae'r darpariaethau a ganlyn yn dod i rym ar 12 Hydref 2005 at y dibenion y cyfeirir atynt—
a
mae'r darpariaethau a bennir yng ngholofn gyntaf y Tabl yn Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn dod i rym at y dibenion a bennir yn ail golofn y Tabl hwnnw, a
b
mae'r darpariaethau a bennir yng ngholofn gyntaf y Tabl yn Rhan 2 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn dod i rym at y dibenion a bennir yn ail golofn y Tabl hwnnw.
4
1
Mae adran 35 a'r paragraffau a ganlyn o Atodlen 4 yn dod i rym yn unol â pharagraffau (2) a (3) isod—
a
1, 2, 4,
b
11(a) ac (c) i (e),
c
14(a), a
ch
23.
2
Heblaw fel y darperir ym mharagraff (3) isod, daw'r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) uchod i rym ar 12 Hydref 2005 at ddibenion gwneud gorchmynion a rheoliadau (yn ôl y digwydd) yn ymwneud â swyddogaethau'r Ombwdsmon o dan Ran 3 o Ddeddf 2000.
3
Hyd 1 Ebrill 2006 bydd y darpariaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) isod yn parhau i gael effaith, at y diben y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) isod, fel pe na byddai'r diwygiadau a wnaed gan y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) uchod yn cael effaith—
a
y darpariaethau y cyfeirir atynt uchod yw'r adrannau a ganlyn o Ddeddf 2000—
i
49,
ii
53,
iii
68(1), (3) a (4),
iv
70(2)(b), a
v
82.
b
y diben y cyfeirir ato uchod yw'r diben o wneud gorchmynion a rheoliadau (yn ôl y digwydd) yn ymwneud â swyddogaethau'r Comisiwn neu Gomisiynydd Lleol yng Nghymru o dan Ran 3 o Ddeddf 2000.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 20065
1
Heblaw fel y darperir ym mharagraff (2) isod, ac eithrio fel y darperir ym mharagraff (3) isod, daw darpariaethau'r Ddeddf, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, i rym ar 1 Ebrill 2006.
2
At ddibenion y flwyddyn ariannol sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2006—
a
yn ddarostyngedig i is-baragraff (b) isod ac er gwaethaf dyfodiad adran 39 ac Atodlen 7 i rym, mae'r darpariaethau hynny o'r Deddfau y cyfeirir atynt yn y golofn gyntaf o'r Tabl yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn parhau i gael effaith fel pe na bai'r darpariaethau hynny wedi cael eu diddymu gan y Ddeddf, a
b
mae'r darpariaethau hynny yn parhau i gael effaith yn unol ag is-baragraff (a) uchod yn ddarostyngedig i'r addasiadau a bennir yn ail golofn y Tabl yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn.
3
Nid yw'r darpariaethau a ganlyn yn dod i rym ar 1 Ebrill 2006—
a
adran 20, a
b
paragraff 15(5) o Atodlen 1.
Cwynion sy'n rhychwantu'r dyddiad cychwyn6
1
Os yw'r erthygl hon yn gymwys rhaid i'r Ombwdsmon ystyried y gwyn yn unol â darpariaethau Rhan 2 o'r Ddeddf.
2
Mae'r erthygl hon yn gymwys—
a
os oes cwyn wedi cael ei gwneud neu wedi cael ei chyfeirio yn briodol at yr Ombwdsman ynglŷn â mater sy'n ymwneud â digwyddiadau a ddigwyddodd cyn 1 Ebrill 2006 ac â digwyddiadau ar ôl y dyddiad hwnnw, a
b
os o ran y digwyddiadau a fu cyn 1 Ebrill 2006 gallesid (heblaw am ddarpariaethau eraill y Ddeddf) bod wedi gwneud cwyn wrth un o Ombwdsmyn presennol Cymru o dan y deddfiad presennol perthnasol ond nis gwnaed.
3
At ddibenion yr erthygl hon nid yw'r Ombwdsmon wedi ei rwystro rhag ymchwilio i fater (neu ran o fater) yn unol â Rhan 2 o'r Ddeddf yn unig am fod y mater yn ymwneud â digwyddiadau a ddigwyddodd cyn 1 Ebrill 2006.
4
At ddibenion paragraff (2) uchod mae gan—
a
“Ombwdsmon presennol Cymru” a
b
“y deddfiad presennol perthnasol”,
yr ystyron sydd i “existing Welsh Ombudsman” a “the relevant existing enactment” yn adran 38(6).
Darpariaeth Drosiannol — amcangyfrifon7
1
Mae'r darpariaethau a ganlyn o'r erthygl hon yn gymwys i'r Ombwdsmon o ran y flwyddyn ariannol sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2007.
2
Rhaid i'r Ombwdsmon baratoi amcangyfrif o incwm a threuliau'r swydd honno am y flwyddyn ariannol honno a'i gyflwyno i Gabinet y Cynulliad dim hwyrach nag un mis cyn cychwyn y flwyddyn ariannol honno.
3
Rhaid i Gabinet y Cynulliad graffu ar yr amcangyfrif ac yna ei osod gerbron y Cynulliad gydag unrhyw addasiadau y tybia eu bod yn briodol.
4
Os yw Cabinet y Cynulliad yn bwriadu gosod yr amcangyfrif gerbron y Cynulliad gydag addasiadau, rhaid iddo ymghynghori â'r Ysgrifennydd Gwladol yn gyntaf.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984.
ATODLEN 1DARPARIAETHAU SY'N DOD I RYM AR 12 HYDREF 2005
Rhan 1
Darpariaethau | Diben |
---|---|
Adran 1 a pharagraffau 1, 2, 3, 5(1) i (3), 6 ac 8 o Atodlen 1 | At y diben o benodi'r Ombwdsmon. |
Adran 10 ac Atodlen 2 | Pob diben. |
Is-adrannau (7) i (9) o adran 25 | Pob diben. |
Adran 28 ac Atodlen 23 | Pob diben. |
Adran 29 | Pob diben. |
Adran 30 | Pob diben. |
Adran 39 a pharagraffau 61 i 63 o Atodlen 6 | At y diben o benodi'r Ombwdsmon. |
Rhan 2
Darpariaethau | Diben |
---|---|
Adran 39 a pharagraff 18(11) a (13) o Atodlen 6 | At y diben o symud ymaith y ddyletswydd ar y Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru i baratoi ac gyflwyno amcangyfrif o'r treuliau y bydd yn eu tynnu yn y flwyddyn ariannol sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2007. |
Adran 39 a'r cofnod yn Atodlen 7 ar gyfer Deddf Comisiynwyr y Gwasanaeth Iechyd 19935 ond yn unig er gweithredu diddymiad paragraff 9 o Atodlen 1A i'r Ddeddf honno | At y diben o symud ymaith y ddyletswydd ar Gomisiynydd Gwasanaeth Iechyd Cymru i baratoi ac i gyflwyno amcangyfrif o incwm a threuliau ei swydd y bydd yn eu tynnu yn y flwyddyn ariannol sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2007. |
Adran 39 a'r cofnod yn Atodlen 7 ar gyfer Deddf Llywodraeth Cymru 1998 ond yn unig er gweithredu diddymiad paragraff 8 o Atodlen 9 i'r Ddeddf honno | At y diben o symud ymaith y ddyletswydd ar Ombwdsman Gweinyddiaeth Cymru i baratoi ac i gyflwyno amcangyfrif o incwm a threuliau ei swydd y bydd yn eu tynnu yn y flwyddyn ariannol sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2007. |
ATODLEN 2ARBEDION
Darpariaethau | Addasiadau |
---|---|
Adran 1(3) a pharagraffau 10 i 14 o Atodlen 1A i Ddeddf Comisiynwyr y Gwasanaeth Iechyd 1993 | At ddibenion paragraff 12 o'r Atodlen i'r Ddeddf honno, yr Ombwdsmon fydd yn cael ei ystyried yn swyddog cyfrifyddu. |
Adran 111(2) a pharagraffau 9 i 13 o Atodlen 9 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 | At ddibenion paragraff 11 o'r Atodlen honno i'r Ddeddf honno, yr Ombwdsmon fydd yn cael ei ystyried yn swyddog cyfrifyddu. |
Adran 51A(7) a pharagraffau 13 i 17 o Atodlen 2A i Ddeddf Tai 19966 | At ddibenion paragraff 15 o'r Atodlen honno i'r Ddeddf honno, yr Ombwdsmon fydd yn cael ei ystyried yn swyddog cyfrifyddu. |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)