Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2005

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 2837 (Cy.201)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

11 Hydref 2005

Yn dod i rym

14 Hydref 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 3(3), (4), (5) a (9) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997(1) ac sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru(2):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 14 Hydref 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ynghylch cwestiwn perthnasol.

(3Ym mharagraff (2) uchod, ystyr “cwestiwn perthnasol” yw'r ystyr a roddir i “relevant question” o dan Reoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997 o ran a oes gan rieni disgybl a gynorthwyir hawl i grant gwisg ysgol o dan Ran II, neu grant teithio o dan Ran III, o'r Rheoliadau hynny—

(a)sy'n codi ynglŷn â blwyddyn ysgol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2005; a

(b)nas penderfynwyd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997

2.—(1Diwygir Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997(3) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(2), yn lle “£12,846” rhodder “£13,116”.

(3Yn lle rheoliad 2(3)(a) a (b) rhodder—

(a)£81 where the relevant income does not exceed £12,182; and

(b)£42 where that income exceeds £12,182 but does not exceed £13,116..

(4Yn rheoliad 4—

(a)ym mharagraff (3), yn lle “£11,948” rhodder “£12,195”; a

(b)ym mharagraff (4)—

(i)yn lle “£11,948” rhodder “£12,195”, a

(ii)yn lle “£11,769” rhodder “£12,016”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

11 Hydref 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997 (“Rheoliadau 1997”) at ddibenion “cwestiwn perthnasol”. Mae hwn yn gwestiwn o dan Reoliadau 1997 o ran a oes gan rieni disgybl a gynorthwyir hawl i grant gwisg ysgol o dan Ran II, neu grant teithio o dan Ran III, o Reoliadau 1997 sy'n codi ynglŷn â blwyddyn ysgol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2005 ac nas penderfynwyd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer talu grantiau o ran mân dreuliau, ac ar gyfer peidio â chasglu mân dreuliau, mewn perthynas â disgyblion sy'n gymwys i barhau i ddal lleoedd a gynorthwyir mewn ysgolion annibynnol yn rhinwedd adran 2 o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997, er bod y cynllun lleoedd a gynorthwyir wedi'i ddiddymu gan adran 1 o'r Ddeddf honno.

Mae'r Rheoliadau hyn yn llacio'r prawf moddion ariannol ar gyfer grantiau gwisg ysgol a grantiau teithio (a nodir yn rheoliad 2 a 4 o Reoliadau 1997 yn eu trefn) ac yn cynyddu swm y grant sy'n daladwy.

(1)

1997 p.59. Diwygiwyd adran 3 gan adran 130 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).

(2)

Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3 yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 a'r cofnod o ran Deddf Addysg (Ysgolion) 1997 yn Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672).