2005 Rhif 2838 (Cy.202)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl iddo ymgynghori, yn unol ag adran 3(7) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 19971, â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn briodol ac sy'n cynrychioli ysgolion sy'n darparu lleoedd a gynorthwyir o dan adran 2(1) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn o dan y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 3(1), (2), (5) a (9) o'r Ddeddf honno ac sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru2: