xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Wedi'u gwneud
11 Hydref 2005
Yn dod i rym
15 Hydref 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer y pŵerau a roddwyd iddo gan adrannau 62(4) a (5)(g), 63(3)(a), 63(7), 64(3), 69, 72(7), 76(2) a (3) a 77 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (“y Ddeddf”)(1) a pharagraff 5(2) o Atodlen 4A i Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(2) a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 15 Hydref 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “ACLl” (“LPA”) yw'r awdurdod cynllunio lleol;
ystyr “adroddiad arfarnu cynaliadwyedd” (“sustainability appraisal report”) yw'r adroddiad a baratowyd yn unol ag adran 62(6)(b); ac mae'n cynnwys unrhyw adroddiad amgylcheddol sy'n ofynnol o dan ddarpariaethau Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004(3) neu unrhyw ailddeddfiad ohonynt;
ystyr “adroddiad ymgynghori cychwynnol” (“initial consultation report”) yw adroddiad yr ACLl a baratowyd yn unol â rheoliadau 14 i 16;
ystyr “arolygu” (“inspection”) yw arolygu gan y cyhoedd;
ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw—
CDLl;
cyngor cymuned;
ystyr “CDLl” (“LDP”) yw cynllun datblygu lleol;
mae i “cod cyfathrebu electronig” yr un ystyr ag “electronic communications code” yn adran 106(1) o Ddeddf Cyfathrebu 2003(4);
mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” gan adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000(5);
ystyr “cyfeiriad” (“address”), o ran cyfathrebiadau electronig, yw unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion cyfathrebiadau o'r fath;
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “cyrff ymgynghori cyffredinol” (“general consultation bodies”) yw—
cyrff gwirfoddol, y mae gweithgareddau'r rhai neu'r cyfan ohonynt yn fuddiol i unrhyw ran o ardal yr ACLl;
cyrff sy'n cynrychioli buddiannau gwahanol grwpiau hiliol, ethnig neu genedlaethol yn ardal yr ACLl;
cyrff sy'n cynrychioli buddiannau gwahanol grwpiau crefyddol yn ardal yr ACLl;
cyrff sy'n cynrychioli buddiannau personau anabl yn ardal yr ACLl;
cyrff sy'n cynrychioli buddiannau personau sy'n rhedeg busnes yn ardal yr ACLl; ac
cyrff sy'n cynrychioli buddiannau'r diwylliant Cymreig yn ardal yr ACLl;
ystyr “cyrff ymgynghori penodol” (“specific consultation bodies”) yw'r cyrff a bennir neu a ddisgrifir ym mharagraffau (i) i (viii) o'r diffiniad hwn:
Cyngor Cefn Gwlad Cymru(6),
Asiantaeth yr Amgylchedd(7),
i'r graddau y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn arfer swyddogaethau a oedd yn arferadwy gynt gan yr Awdurdod Rheilffordd Strategol, yr Ysgrifennydd Gwladol.
y Cynulliad Cenedlaethol,
awdurdod perthnasol y mae unrhyw ran o'i ardal yn ardal yr ACLl neu'n cyffinio â'r ardal honno,
unrhyw berson—
y mae'r cod cyfathrebu electronig yn gymwys iddo yn rhinwedd cyfarwyddyd a roddir o dan adran 106(3)(a) o Ddeddf Cyfathrebu 2003, a
sy'n meddu ar offer cyfathrebu electronig sydd wedi'u lleoli mewn unrhyw ran o ardal yr ACLl neu'n rheoli offer o'r fath (lle mae'n wybyddus),
os yw'n arfer swyddogaethau mewn unrhyw ran o ardal yr ACLl—
ystyr “cytundeb cyflawni” (“delivery agreement”) yw'r cynllun cynnwys cymunedau y cytunwyd arno ynghyd â'r amserlen y cytunwyd arni ac y cyfeirir at y ddau ohonynt yn adran 63(1);
ystyr “datganiad mabwysiadu” (“adoption statement”) yw datganiad—
o ddyddiad mabwysiadu CDLl;
y caiff person a dramgwyddir gan yr CDLl wneud cais i'r Uchel Lys o dan adran 113; ac
o'r seiliau y caniateir eu defnyddio i wneud y cais hwnnw, ac o fewn pa amser y caniateir iddo gael ei wneud;
ystyr “datganiad penderfynu” (“decision statement”)—
yw datganiad bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu cymeradwyo, cymeradwyo yn ddarostyngedig i addasiadau, neu wrthod CDLl (yn ôl y digwydd);
pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu cymeradwyo CDLl, neu gymeradwyo CDLl yn ddarostyngedig i addasiadau, yw datganiad—
o ddyddiad mabwysiadu'r CDLl,
y caiff person a dramgwyddir gan yr CDLl wneud cais i'r Uchel Lys o dan adran 113, a
o'r seiliau y caniateir eu defnyddio i wneud y cais hwnnw, ac o fewn pa amser y caniateir iddo gael ei wneud;
ystyr “dogfennau CDLl” (“LDP documents”) yw—
yr CDLl sydd wedi'i adneuo;
yr adroddiad arfarnu cynaliadwyedd;
yr adroddiad ymgynghori cychwynnol;
y dogfennau ategol sy'n berthnasol ym marn yr ACLl i waith paratoi'r CDLl;
ystyr “dogfennau cynigion cyn-adneuo” (“pre-deposit proposals documents”) yw'r strategaeth, yr opsiynau a'r cynigion ar gyfer yr CDLl sydd orau gan yr ACLl a goblygiadau'r rhain, a'r dewisiadau cynharach a'u goblygiadau wedi'u hegluro, ynghyd â'r dogfennau ategol sy'n berthnasol i'r dogfennau hynny ym marn yr ACLl;
ystyr “drwy hysbyseb leol” (“by local advertisement”) yw drwy gyhoeddi o leiaf un tro mewn papur lleol sy'n cylchredeg yn ardal gyfan yr ACLl;
ystyr “map yr Arolwg Ordnans” (“Ordnance Survey map”) yw map a gynhyrchwyd gan yr Arolwg Ordnans neu fap ar sylfaen debyg yn ôl graddfa gofrestredig;
ystyr “materion adneuo” (“deposit matters”) yw—
teitl yr CDLl;
y cyfnod y mae rhaid cyflwyno sylwadau ynddo am yr CDLl yn unol â rheoliad 16(2)(a);
y cyfeiriad y mae rhaid anfon sylwadau iddo, a phan fo'n briodol, y person y mae rhaid eu hanfon ato (boed ar ffurf cyfathrebiadau electronig neu fel arall) yn unol â rheoliad 18;
datganiad y caniateir i ddeisyfiad fynd gyda'r sylwadau, a hwnnw'n ddeisyfiad am gael hysbysiad mewn cyfeiriad penodedig fod argymhellion y person a benodwyd i gyflawni archwiliad o dan adran 64 wedi'u cyhoeddi neu gael hysbysiad bod yr CDLl wedi'i fabwysiadu neu gael hysbysiad o'r ddau;
ystyr “materion cyn-adneuo” (“pre-deposit matters”) yw—
teitl yr CDLl;
y cyfnod y caniateir i sylwadau gael eu cyflwyno ynddo yn unol â rheoliad 16(2)(a);
y cyfeiriad, a phan fo'n briodol y person, y mae rhaid i sylwadau gael eu hanfon ato (boed ar ffurf cyfathrebiadau electronig neu fel arall) yn unol â rheoliad 16(2)(b);
datganiad y caniateir i ddeisyfiad fynd gydag unrhyw sylwadau, a hwnnw'n ddeisyfiad yn gofyn am gael hysbysiad mewn cyfeiriad penodedig bod yr CDLl wedi'i gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer archwiliad annibynnol o dan adran 64 a bod yr CDLl wedi'i fabwysiadu;
mae i “offer cyfathrebu electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communications apparatus” gan baragraff 1(1) o'r cod cyfathrebu electronig(11);
ystyr “person a benodwyd” (“person appointed”) yw person a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 64(4) i gyflawni archwiliad annibynnol;
mae i “person anabl” yr ystyr a roddir i “disabled person” gan adran 1(2) o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995(12);
ystyr “polisi dyrannu safle” (“site allocation policy”) yw polisi sy'n golygu dyrannu safle ar gyfer defnydd neu ddatblygiad penodol;
ystyr “sylw ar ddyraniad safle” (“site allocation representation”) yw unrhyw sylw sy'n ceisio newid CDLl drwy—
ychwanegu polisi dyrannu safle at yr CDLl; neu
newid neu ddileu unrhyw bolisi dyrannu safle yn yr CDLl;
ystyr “Strategaeth Wastraff Cymru” (“Waste Strategy Wales”) yw unrhyw ddatganiad sy'n cynnwys polisïau'r Cynulliad Cenedlaethol o ran adfer a gwaredu gwastraff yng Nghymru(13) ac sy'n cael ei wneud o dan adran 44A o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(14).
(2) Yn y Rheoliadau hyn, oni ddywedir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at adran yn gyfeiriad at yr adran honno o'r Ddeddf ac mae unrhyw gyfeiriad at reoliad yn gyfeiriad at y rheoliad hwnnw yn y Rheoliadau hyn.
3.—(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn effeithiol mewn perthynas â diwygio CDLl yn yr un modd ag y maent yn gymwys i baratoi CDLl.
Pan fo —
ACLl; neu
y Cynulliad Cenedlaethol
o ran paratoi cynllun datblygu lleol, wedi cymryd unrhyw gam mewn perthynas ag unrhyw reoliad a wnaed o dan ddarpariaethau Rhan 6 o'r Ddeddf, mae'r cam hwnnw i'w ystyried yn gam sydd wedi'i gymryd yn unol â'r dyletswyddau sydd wedi'u gosod ar yr awdurdod cynllunio lleol neu'r Cynulliad Cenedlaethol o dan y rheoliad hwnnw, p'un a oedd y cam hwnnw wedi'i gymryd cyn, neu ar ôl y diwrnod a bennwyd i'r rheoliad hwnnw ddod i rym.
4.—(1) Os, yn y Rheoliadau hyn—
(a)y mae'n ofynnol i berson—
(i)anfon dogfen, copi o ddogfen neu unrhyw hysbysiad at berson arall,
(ii)hysbysu person arall o unrhyw fater; a
(b)y mae gan y person arall hwnnw gyfeiriad at ddibenion cyfathrebu electronig;
caniateir anfon neu wneud y ddogfen, y copi, neu'r hysbysiad ar ffurf cyfathrebiad electronig.
(2) Os, yn y Rheoliadau hyn, y caiff person gyflwyno sylwadau ar unrhyw fater neu ddogfen, caniateir i'r sylwadau hynny gael eu cyflwyno—
(a)yn ysgrifenedig; neu
(b)ar ffurf cyfathrebiadau electronig.
(3) Os bydd—
(a)cyfathrebiad electronig yn cael ei ddefnyddio fel a grybwyllwyd ym mharagraffau (1) a (2); a
(b)y cyfathrebiad yn dod i law'r derbynnydd y tu allan i oriau swyddfa arferol y person hwnnw, cymerir ei fod wedi dod i law ar y diwrnod gwaith nesaf; ac, yn y rheoliad hwn, ystyr “diwrnod gwaith” yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, nac yn ddydd Sul, Gŵyl y Banc(15) nac yn unrhyw ŵyl gyhoeddus arall.
5. Y personau a fydd yn ymwneud â pharatoi cynllun cynnwys cymunedau at ddibenion adran 63(3)(a) yw'r cyrff ymgynghori cyffredinol hynny y mae'n ymddangos i'r ACLl fod ganddynt fuddiant mewn materion sy'n ymwneud â'r datblygu yn ardal yr ACLl.
6. Rhaid i gynllun cynnwys cymunedau gynnwys y materion canlynol—
(a)rhestr o'r holl gyrff ymgynghori cyffredinol a phenodol hynny sydd i'w cynnwys yn y weithdrefn CDLl;
(b)egwyddorion y strategaeth o gyfranogi yn yr CDLl sydd i'w mabwysiadu gan yr ACLl;
(c)y dull a ddefnyddir —
(i)i drefnu y bydd cyfranogi yn digwydd ym mhob rhan o'r weithdrefn CDLl, a
(ii)gan yr ACLl i ymateb i'r broses gyfranogi y cyfeiriwyd ati yn is-baragraff (i);
ac amseriad y cyfranogiad a'r ymatebion hynny.
(ch)manylion ynghylch sut y bydd yr ACLl yn defnyddio'r ymatebion hynny ym mhob rhan wrth ddatblygu cynnwys ei CDLl.
7. Y personau y mae rhaid ymgynghori â hwy wrth baratoi amserlen at ddibenion adran 63(7)(a) yw'r holl gyrff ymgynghori penodol.
8. Rhaid i'r amserlen gynnwys pob dyddiad allweddol—
(a)a bennir mewn canllawiau a wneir o dan adran 75, ac y mae rhaid iddynt gynnwys—
(i)dyddiad pendant ar gyfer pob rhan o'r weithdrefn CDLl hyd at y rhan adneuo, a
(ii)dyddiadau dangosol hyd at fabwysiadu'r CDLl,
(b)ar gyfer paratoi a chyhoeddi—
(i)yr adroddiad arfarnu cynaliadwyedd, a
(ii)yr adroddiad monitro blynyddol.
9.—(1) Rhaid i gytundeb cyflawni gynnwys y cynllun cynnwys cymunedau (a baratowyd yn unol â rheoliad 6) a'r amserlen (a baratowyd yn unol â rheoliad 8) ac, yn ychwanegol, rhaid iddo—
(a)cael ei gymeradwyo drwy benderfyniad yr ACLl cyn iddo gael ei gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol gytuno arno; a
(b)cael ei gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol gytuno arno ar neu cyn y dyddiad a bennir mewn canllawiau a wnaed o dan adran 75.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymateb o fewn pedair wythnos o gael y cytundeb cyflawni, onid yw wedi hysbysu'r ACLl yn ysgrifenedig cyn i'r cyfnod hwnnw ddod i ben, fod arno angen mwy o amser i ystyried y ddogfen.
(3) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn diwedd y cyfnod a grybwyllwyd ym mharagraff (2), wedi methu ag ymateb i'r ffaith ei fod wedi cael y cytundeb cyflawni, bernir y bydd wedi'i gytuno ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.
(4) Hyd nes y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cymeradwyo'r cytundeb cyflawni, rhaid i'r ACLl beidio â chymryd unrhyw gamau o dan reoliad 15 i hysbysebu ei gynigion.
(5) Rhaid i'r ACLl adolygu'n rheolaidd y cytundeb cyflawni a rhaid i unrhyw ddiwygiad gydymffurfio â pharagraff (1)(a) cyn y cytunir arno gyda'r Cynulliad Cenedlaethol, a hynny'n ddarostyngedig i baragraff (2) a (3).
10.—(1) Pan ddaw cytundeb cyflawni'r effeithiol yn unol â rheoliad 9, rhaid i ACLl—
(a)trefnu bod copi o'r cytundeb ar gael i'w arolygu yn ei brif swyddfa yn ystod oriau arferol swyddfa, a
(b)cyhoeddi'r cytundeb ar ei wefan.
(2) Pan ddaw diwygiad i gytundeb cyflawni yn effeithiol o dan reoliad 9, rhaid trefnu bod yr CDLl, o fewn 2 wythnos o'r amser y daw'n effeithiol, yn ymgorffori'r diwygiad yn y cytundeb a roddwyd ar gael i'w arolygu ac a gyhoeddwyd o dan baragraff (1).
11.—(1) Rhaid i CDLl gynnwys—
(a)teitl y mae'n rhaid iddo—
(i)rhoi enw ardal yr ACLl y mae'r CDLl yn cael ei baratoi ar ei chyfer, a
(ii)dangos mai CDLl ydyw; a
(b)is-deitl y mae rhaid iddo ddangos—
(i)dyddiad mabwysiadu'r CDLl, a
(ii)pan fo'n CDLl sydd wrthi'n ymddangos, y rhan o'r broses gyhoeddi y mae wedi'i chyrraedd a dyddiad ei gyhoeddi.
(2) Rhaid i CDLl gynnwys cyfiawnhad rhesymedig o'r polisïau sydd wedi'u cynnwys ynddo.
(3) Rhaid bod modd gwahaniaethu'n rhwydd rhwng y rhannau hynny o CDLl sy'n cynnwys polisïau'r CDLl a'r rhannau hynny sy'n cynnwys y cyfiawnhad rhesymedig sy'n ofynnol o dan baragraff (2).
12.—(1) Rhaid i'r CDLl gynnwys map (“map cynigion”) o ardal yr ACLl a rhaid iddo—
(a)dangos y cynigion ar gyfer datblygu a defnyddio'r tir yn ei ardal;
(b)cael ei atgynhyrchu o un o fapiau'r Arolwg Ordnans, neu fod wedi'i seilio ar fap o'r fath; ac
(c)dangos llinellau a rhifau cyfeirnod y Grid Cenedlaethol.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, mae cynnig yn bolisi sy'n benodol i safle.
(3) Caniateir i bolisïau ar gyfer unrhyw ran o ardal yr ACLl gael eu darlunio ar fap ar wahân ar raddfa sy'n fwy nag ar gyfer map cynigion (“map mewnosod”).
(4) Pan fo map mewnosod wedi'i gynnwys mewn CDLl, rhaid i'r ardal y mae'r map mewnosod yn ei chwmpasu gael ei dynodi ar y map cynigion a rhaid i'r polisïau ar gyfer yr ardal honno gael eu darlunio ar y map mewnosod hwnnw yn unig.
(5) Rhaid i deitl (ac unrhyw is-deitl) CDLl gael ei nodi ar y map cynigion ac ar unrhyw fap mewnosod a gynhwysir yn yr CDLl, a rhaid i'r map cynigion ac unrhyw fap mewnosod ddangos ar ba raddfa y mae wedi'i baratoi a chynnwys esboniad o unrhyw symbol neu nodiant sy'n cael ei ddefnyddio ar y map.
13.—(1) Y materion (yn ychwanegol at y rhai a bennir yn adrannau 39 a 62(5)(a) i (f)) a ragnodir at ddibenion adran 62(5) yw—
(a)unrhyw gynllun trafnidiaeth lleol, y mae ei bolisïau yn effeithio ar unrhyw ran o ardal yr ACLl;
(b)unrhyw bolisïau eraill a baratowyd o dan adran 108(1) a (2) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000(16) sy'n effeithio ar unrhyw ran o ardal yr ACLl;
(c)amcanion atal damweiniau mawr a chyfyngu ar ganlyniadau damweiniau o'r fath;
(ch)yr angen—
(i)yn y tymor hir, am gadw pellteroedd priodol rhwng sefydliadau a mannau preswyl, adeiladau a mannau a ddefnyddir gan y cyhoedd, llwybrau trafnidiaeth pwysig cyn belled â phosibl, mannau hamdden ac ardaloedd o sensitifrwydd naturiol penodol neu o ddiddordeb penodol, a
(ii)yn achos sefydliadau sy'n bodoli eisoes, am fesurau technegol ychwanegol yn unol ag Erthygl 5 o Gyfarwyddeb y Cyngor 96/82/EC ar reoli peryglon mawr o ddamweiniau sy'n cynnwys sylweddau peryglus(17) er mwyn peidio â chynyddu'r risgiau i bobl;
(d)Strategaeth Wastraff Cymru; ac
(dd)unrhyw strategaeth wastraff ranbarthol, y gall fod ei pholisïau'n effeithio ar unrhyw ran o ardal yr ACLl; ac
(e)unrhyw strategaeth dai ranbarthol, y gall fod ei pholisïau'n effeithio ar unrhyw ran o ardal yr ACLl.
(2) Mae i'r ymadroddion sy'n ymddangos ym mharagraff (1) uchod a'r ymadroddion Saesneg cyfatebol sy'n ymddangos yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 96/82/EC (fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2003/105/EC(18)) yr un ystyr ag ystyr yr ymadroddion Saesneg hynny yn y Gyfarwyddeb honno.
(3) Ym mharagraff (1)(a), mae i “cynllun trafnidiaeth lleol” yr un ystyr â “local transport plan” yn adran 108(3) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000.
14. Cyn bod CDLl yn cydymffurfio â rheoliad 15, rhaid iddo gysylltu â'r cyrff canlynol er mwyn llunio strategaethau ac opsiynau amgen—
(a)pob un o'r cyrff ymgynghori penodol i'r graddau y mae'r ACLl yn credu bod pwnc arfaethedig yr CDLl yn effeithio ar y cyrff hynny; a
(b)y cyrff ymgynghori cyffredinol y mae'r ACLl yn barnu eu bod yn briodol.
15. Cyn bod ACLl yn penderfynu'n derfynol ar gynnwys CDLl sydd wedi'i adneuo yn unol â rheoliad 17, rhaid iddo—
(a)trefnu bod copïau o'r dogfennau cynigion cyn-adneuo a datganiad o'r materion cyn-adneuo ar gael i'w harolygu yn ystod oriau arferol swyddfa—
(i)yn ei brif swyddfa, a
(ii)mewn unrhyw le arall o fewn ei ardal y mae'r ACLl yn barnu ei fod yn briodol;
(b)cyhoeddi ar ei wefan—
(i)y dogfennau cynigion cyn-adneuo,
(ii)y materion cyn-adneuo,
(iii)datganiad o'r ffaith bod y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael i'w harolygu ac o'r lleoedd lle gellir eu harolygu a'r amserau y gellir eu harolygu;
(c)anfon at y cyrff hynny a nodwyd o dan reoliad 14(a) a (b)—
(i)dogfennau cynigion cyn-adneuo'r ACLl,
(ii)y dogfennau ategol sy'n berthnasol i'r corff y mae'r dogfennau yn cael eu hanfon ato,
(iii)hysbysiad o'r materion cyn-adneuo,
(iv)y datganiad ym mharagraff (b)(iii); ac
(ch)hysbysu drwy hysbyseb leol—
(i)y materion cyn-adneuo,
(ii)y ffaith bod y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael i'w harolygu, y mannau lle gellir eu harolygu a'r amserau y gellir eu harolygu.
16.—(1) Caiff unrhyw berson gyflwyno sylwadau am ddogfennau cyn-adneuo ACLl.
(2) Rhaid i unrhyw sylwadau o'r fath—
(a)cael eu cyflwyno o fewn cyfnod o 6 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod y mae'r ACLl yn cydymffurfio â rheoliad 15(a), (c) ac (ch); a
(b)cael eu hanfon i'r cyfeiriad, a phan fo'n gymwys, at y person a bennir yn unol â rheoliad 15(ch).
(3) Rhaid i ACLl ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir yn unol â pharagraff (2) cyn penderfynu'n derfynol ar gynnwys y cynigion CDLl sydd i'w rhoi ar gael o dan reoliad 17.
17. Rhaid i'r ACLl—
(a)trefnu bod copïau o'r dogfennau CDLl, a datganiad o'r materion CDLl, ar gael i'w harolygu yn ystod oriau arferol swyddfa yn y mannau lle rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael o dan reoliad 15(a);
(b)cyhoeddi ar ei wefan—
(i)y dogfennau CDLl,
(ii)y materion adneuo, a
(iii)datganiad o'r ffaith bod y dogfennau CDLl ar gael i'w harolygu ac o'r mannau lle gellir eu harolygu a'r amserau y gellir eu harolygu;
(c)anfon at bob un o'r cyrff a nodwyd yn rheoliad 14(a) a (b), gopïau o'r canlynol—
(i)yr CDLl sydd wedi'i adneuo,
(ii)yr adroddiad arfarnu cynaliadwyedd,
(iii)yr adroddiad ymgynghori cychwynnol,
(iv)rhestr o'r dogfennau ategol sy'n berthnasol ym marn yr ACLl i waith paratoi'r CDLl,
(v)hysbysiad o'r materion adneuo, a
(vi)y datganiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (b)(iii); ac
(ch)hysbysu drwy hysbyseb leol—
(i)y materion adneuo, a
(ii)y ffaith bod y dogfennau CDLl ar gael i'w harolygu ac o'r mannau lle gellir eu harolygu a'r amserau y gellir eu harolygu.
18. Caiff person gyflwyno sylwadau am CDLl drwy eu hanfon i'r cyfeiriad, a phan fo'n gymwys, at y person a bennir yn unol â rheoliad 15(ch), o fewn y cyfnod o 6 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod y bydd yr CDLl yn cydymffurfio â rheoliad 17(a), (c) ac (ch).
19.—(1) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i sylw ar ddyraniad safle.
(2) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i ACLl gael sylw ar CDLl o dan reoliad 18, rhaid iddo—
(a)trefnu bod copi o'r sylw ar gael yn y mannau lle trefnwyd bod y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael o dan reoliad 15(a);
(b)pan fo'n ymarferol, cyhoeddi ar ei wefan fanylion am yr holl sylwadau a gafwyd ynghyd â datganiad ynghylch sut y gellir eu harolygu yn unol â rheoliad 15(a).
(3) Nid oes angen i ACLl gydymffurfio â pharagraff (2) os cyflwynir y sylw ar ôl y cyfnod a bennir yn rheoliad 18.
20.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i sylw ar ddyraniad safle.
(2) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r cyfnod yn rheoliad 18 ddod i ben, rhaid i'r ACLl—
(a)trefnu bod sylw ar ddyraniad safle, a datganiad o'r materion ym mharagraff (3), ar gael i'w harolygu yn ystod oriau arferol swyddfa yn y mannau lle rhoddwyd dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael o dan reoliad 15(a);
(b)cyhoeddi ar ei wefan—
(i)pan fo'n ymarferol, y sylw ar ddyraniad safle,
(ii)y materion ym mharagraff (3),
(iii)datganiad o'r ffaith bod y sylw ar ddyraniad safle ar gael i'w archwilio ac ynghylch y mannau lle gellir ei archwilio a'r amserau y gellir ei archwilio;
(c)anfon at y cyrff a nodwyd yn rheoliad 14(a) a (b)—
(i)cyfeiriad y safle y mae'r sylw ar ddyraniad safle yn ymwneud ag ef,
(ii)hysbysiad o'r materion ym mharagraff (3),
(iii)datganiad o'r ffaith bod y sylw ar ddyraniad safle ar gael i'w archwilio a'r mannau lle gellir ei archwilio a'r amserau y gellir ei archwilio; ac
(ch)hysbysu drwy hysbyseb leol—
(i)y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (3),
(ii)y ffaith bod y sylw ar y dyraniad safle ar gael i'w archwilio; a'r mannau lle gellir ei archwilio a'r amserau y gellir ei archwilio;
(3) Y materion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2 yw—
(a)y cyfnod y mae rhaid cyflwyno sylwadau ynddo am y sylw ar ddyraniad safle;
(b)y cyfeiriad, a phan fo'n briodol, y person y mae rhaid i—
(i)sylwadau ysgrifenedig, a
(ii)sylwadau ar ffurf cyfathrebiadau electronig,
gael eu hanfon ato.
21.—(1) Caiff unrhyw berson gyflwyno sylwadau am sylw ar ddyraniad safle drwy eu hanfon i'r cyfeiriad, a phan fo'n gymwys, at y person a bennir yn unol â rheoliad 20(2)(b)(ii) o fewn y cyfnod o chwe wythnos, gan ddechrau ar y diwrnod y mae'r ACLl yn cydymffurfio â rheoliad 20(2)(a), (c) ac (ch).
(2) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i ACLl gael sylw ar CDLl o dan reoliad 20, rhaid iddo—
(a)trefnu bod copi o'r sylw ar gael yn y mannau lle rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael o dan reoliad 15(a);
(b)pan fo'n ymarferol, cyhoeddi ar ei wefan fanylion am yr holl sylwadau a gafwyd ynghyd â datganiad ynghylch sut y gellir eu harchwilio yn unol â rheoliad 15(a).
(3) Nid oes angen i ACLl gydymffurfio â pharagraff (2) os yw'r sylw wedi'i gyflwyno ar ôl y cyfnod a bennir ym mharagraff 1.
22.—(1) Rhaid i ACLl beidio â chyflwyno'r CDLl i'r Cynulliad Cenedlaethol onid yw wedi ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd o dan reoliadau 18 ac 21 a hyd nes iddo eu hystyried.
(2) Y dogfennau a ragnodir at ddibenion adran 64(3) yw—
(a)yr adroddiad arfarnu cynaliadwyedd;
(b)y cynllun cynnwys cymunedau;
(c)adroddiad ymgynghori sy'n nodi—
(i)p'un o'r cyrff y maent wedi cysylltu neu wedi ymgynghori â hwy yn unol â rheoliadau 14, 15, 17 ac 20,
(ii)crynodeb o'r prif faterion a godwyd yn y cysylltiadau, yr ymgynghoriadau a'r sylwadau hynny, a
(iii)sut yr aethpwyd i'r afael â'r prif bynciau hynny yn yr CDLl,
(iv)cyfanswm y sylwadau a gafwyd yn unol â phob un o reoliadau 16, 18 ac 21,
(v)ei argymhellion ynglŷn â'r ffordd y dylid mynd i'r afael, yn ei farn ef, yn yr CDLl â'r prif faterion a godwyd yn y sylwadau a gafwyd yn unol â rheoliadau 18 a 21,
(vi)ei argymhellion ynglŷn â'r ffordd y dylid mynd i'r afael, yn ei farn ef, yn yr CDLl â phob un o'r sylwadau a gafwyd yn unol â rheoliadau 18 a 21, a
(vii)unrhyw wyro oddi wrth y cynllun cynnwys cymunedau;
(ch)copi o'r sylwadau a gafwyd yn unol â rheoliadau 18 a 21; a
(d)unrhyw ddogfennau ategol y mae'r ACLl yn barnu eu bod yn berthnasol i waith paratoi'r CDLl.
(3) O'r dogfennau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2)(a) i (c) a (d)—
(a)rhaid anfon pedwar copi o bob un ar ffurf papur, a
(b)rhaid anfon un copi yn electronig, ar yr amod, yn achos y dogfennau a grybwyllwyd ym mharagraff (2)(d), neu y cyfeiriwyd atynt ynddo, y byddai'n ymarferol gwneud hynny.
(4) O'r dogfennau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2(ch), rhaid anfon un copi o bob un ar ffurf papur.
(5) Rhaid i'r ACLl—
(a)cyhoeddi datganiad ar ei wefan fod yr CDLl wedi'i gyflwyno i'w archwilio o dan adran 64(1);
(b)hysbysu'r ffaith drwy hysbyseb leol;
(c)trefnu bod y dogfennau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2)(c) a (d) ar gael i'w harchwilio yn ystod oriau arferol swyddfa yn y mannau lle rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael o dan reoliad 15(a);
(ch)cyhoeddi ar ei wefan y dogfennau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2)(c) ac, os yw'n ymarferol, y rhai y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2)(d);
(d)rhoi hysbysiad i'r personau hynny a ofynnodd am gael eu hysbysu pan fyddai'r CDLl wedi'i gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod wedi'i gyflwyno felly.
23.—(1) O leiaf chwe mis cyn dechrau cynnal archwiliad annibynnol o dan adran 64, rhaid i'r ACLl—
(a)cyhoeddi ar ei wefan y materion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2);
(b)hysbysu o'r materion hynny unrhyw berson sydd wedi cyflwyno sylw (a heb ei dynnu'n ôl) yn unol â rheoliad 18 neu 21; ac
(c)hysbysu drwy hysbyseb leol o'r materion hynny.
(2) Y materion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) yw—
(a)yr amser a'r lle y mae'r archwiliad i'w gynnal; a
(b)enw'r person a benodwyd i gyflawni'r archwiliad.
(3) Cyn bod y person a benodwyd i gyflawni'r archwiliad yn cydymffurfio ag adran 64(7), rhaid i'r person hwnnw ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd yn unol â rheoliadau 18 ac 21.
24.—(1) Rhaid i'r ACLl gydymffurfio ag adran 64(8)—
(a)ar y diwrnod y caiff yr CDLl ei fabwysiadu neu cyn hynny; neu
(b)os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 65(1) neu (4) ar ôl i'r person a benodwyd gydymffurfio ag adran 64(7), cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael y cyfarwyddyd.
(2) Pan fydd yr ACLl yn cydymffurfio ag adran 64(8), rhaid iddo—
(a)trefnu bod argymhellion y person a benodwyd, a'r rhesymau a roddwyd dros yr argymhellion hynny, ar gael i'w harchwilio yn ystod oriau arferol swyddfa yn y mannau lle rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael o dan reoliad 15;
(b)cyhoeddi ar ei wefan yr argymhellion a'r rhesymau; ac
(c)hysbysu'r personau hynny a ofynnodd am gael eu hysbysu o gyhoeddiad argymhellion y person a benodwyd eu bod wedi'u cyhoeddi felly.
25.—(1) Rhaid i'r ACLl fabwysiadu'r CDLl o fewn wyth wythnos i'r dyddiad y cafodd yr argymhellion a'r rhesymau a roddwyd gan y person a benodwyd i gyflawni'r archwiliad oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Pan fydd yr ACLl yn mabwysiadu CDLl, rhaid iddo yr un pryd—
(a)trefnu bod y dogfennau canlynol ar gael i'w harchwilio yn ystod oriau arferol swyddfa yn y mannau lle rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael o dan reoliad 15—
(i)yr CDLl,
(ii)datganiad mabwysiadu, a
(iii)yr adroddiad arfarnu cynaliadwyedd;
(b)cyhoeddi ar ei wefan y datganiad mabwysiadu;
(c)hysbysu o'r canlynol drwy hysbyseb leol—
(i)y datganiad mabwysiadu,
(ii)y ffaith bod yr CDLl ar gael i'w archwilio; a'r mannau lle gellir archwilio'r ddogfen a'r amserau y gellir ei harchwilio;
(ch)anfon y datganiad mabwysiadu at unrhyw berson sydd wedi gofyn am gael ei hysbysu o fabwysiadu'r CDLl; a
(d)anfon pedwar copi o'r CDLl a'r datganiad mabwysiadu i'r Cynulliad Cenedlaethol.
26. Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i CDLl gael ei dynnu'n ôl o dan adran 66, rhaid i'r ACLl—
(a)cyhoeddi ar ei wefan ddatganiad o'r ffaith honno;
(b)hysbysu'r ffaith honno drwy hysbyseb leol;
(c)hysbysu unrhyw gorff y rhoddwyd hysbysiad iddo o'r ffaith honno o dan reoliad 15(c);
(ch)dileu unrhyw gopïau, dogfennau, materion a datganiadau y trefnwyd iddynt fod ar gael neu a gyhoeddwyd o dan reoliadau 15(a) a (b), 17(a) a (b), 19(2)(a) a (b), ac 20(2)(a) a (b); a
(d)hysbysu unrhyw berson sydd wedi cyflwyno sylw (a heb ei dynnu'n ôl) yn unol â rheoliad 18 neu 21 o'r ffaith honno.
27. Rhaid i ACLl ddarparu i'r Cynulliad Cenedlaethol gopi o bob hysbysiad a gyhoeddwyd gan yr ACLl yn unol â'r Rheoliadau hyn pan gaiff yr hysbysiad ei gyhoeddi gyntaf, ynghyd â chopi o bob dogfen y trefnwyd iddi fod ar gael i'w harolygu yn unol â'r Rheoliadau hyn.
28.—(1) Os, mewn perthynas ag CDLl, y mae'r person a benodwyd i gyflawni archwiliad o dan adran 64 wedi cydymffurfio ag is-adran (7) o'r adran honno, caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo'r ACLl ar unrhyw adeg i beidio â mabwysiadu'r CDLl hwnnw nes bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu a ddylid rhoi cyfarwyddyd o dan adran 65(1) neu (4).
(2) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi cyfarwyddyd o'r fath, rhaid i'r ACLl—
(a)trefnu bod y cyfarwyddyd ar gael i'w archwilio yn ystod oriau arferol swyddfa yn y mannau lle rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael o dan reoliad 15;
(b)cyhoeddi'r cyfarwyddyd ar ei wefan;
(c)peidio â mabwysiadu'r CDLl nes bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi hysbysu'r ACLl o'i benderfyniad o dan baragraff (1).
29. Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 65(1) ynglŷn ag CDLl, rhaid i'r ACLl—
(a)trefnu bod y cyfarwyddyd ar gael i'w archwilio yn ystod oriau arferol swyddfa yn y mannau lle rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael o dan reoliad 15;
(b)cyhoeddi'r cyfarwyddyd ar ei wefan; ac
(c)ar yr adeg y mae'n cydymffurfio â rheoliad 25, cyhoeddi a rhoi ar gael i'w archwilio yn unol â'r rheoliad hwnnw—
(i)datganiad bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi tynnu'r cyfarwyddyd yn ôl, neu
(ii)hysbysiad y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 65(2)(b).
30.—(1) Mae'r rheoliad hwn, a rheoliadau 31 i 35, yn gymwys pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 65(4).
(2) Os rhoddir y cyfarwyddyd cyn bod yr ACLl yn cydymffurfio â rheoliad 17—
(a)rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gyflawni arfarniad o gynaliadwyedd y cynigion yn yr CDLl a pharatoi adroddiad ar gasgliadau'r arfarniad; a
(b)rhaid i'r ACLl—
(i)trefnu bod y cyfarwyddyd ar gael i'w archwilio yn ystod oriau arferol swyddfa yn y mannau lle rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael o dan reoliad 15; a
(ii)cyhoeddi'r cyfarwyddyd ar ei wefan; a
(iii)yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau angenrheidiol, a pharagraff 4, cydymffurfio â'r rheoliadau a enwir ym mharagraff (3) fel petai'n paratoi'r CDLl.
(3) Y rheoliadau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2)(b)(iii) yw rheoliadau 15 i 21 a rheoliad 24 ac eithrio paragraff (1) o'r rheoliad hwnnw.
(4) Nid oes dim ym mharagraff (2)(b)(iii) yn ei gwneud yn ofynnol i ACLl ailgyflawni unrhyw gam a gymerwyd cyn iddo gael y cyfarwyddyd.
31.—(1) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu gwyro oddi wrth argymhellion y person a benodwyd i gyflawni archwiliad o dan adran 64, rhaid iddo gyhoeddi—
(a)y newidiadau y mae'n bwriadu eu gwneud; a
(b)ei resymau dros wneud hynny.
(2) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol gydymffurfio â pharagraff (1), rhaid i'r ACLl—
(a)trefnu bod copïau o'r newidiadau a'r rhesymau a datganiad o'r materion ym mharagraff (3) ar gael i'w harchwilio yn ystod oriau arferol swyddfa yn y mannau lle rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael o dan reoliad 15;
(b)cyhoeddi ar ei wefan—
(i)y newidiadau a'r rhesymau,
(ii)y materion ym mharagraff (3),
(iii)datganiad o'r ffaith bod y newidiadau a'r rhesymau ar gael i'w harchwilio a'r mannau lle gellir eu harchwilio a'r amserau y gellir eu harchwilio;
(c)anfon copïau o'r newidiadau a'r rhesymau at y cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff (4) a hysbysu'r cyrff hynny o'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (3); a
(ch)hysbysu drwy hysbyseb leol—
(i)y materion ym mharagraff (3),
(ii)y ffaith bod y newidiadau a'r rhesymau ar gael i'w harchwilio; a'r mannau lle gellir eu harchwilio a'r amserau y gellir eu harchwilio.
(3) Dyma'r materion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2) —
(a)o fewn pa gyfnod y mae rhaid cyflwyno sylwadau ar y newidiadau;
(b)y cyfeiriad yn y Cynulliad Cenedlaethol y mae rhaid anfon sylwadau iddo, a phan fo'n briodol, y person y mae rhaid eu hanfon ato (boed ar ffurf cyfathrebiadau electronig neu fel arall); ac
(c)datganiad y caniateir i ddeisyfiad fynd gydag unrhyw sylwadau, a hwnnw'n ddeisyfiad am gael hysbysiad mewn cyfeiriad penodedig o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 65(9)(a).
(4) Y cyrff y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2)(c) yw—
(a)pob un o'r cyrff ymgynghori penodol i'r graddau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu bod y newidiadau yn effeithio ar y cyrff hynny; a
(b)y cyrff ymgynghori cyffredinol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn barnu eu bod yn briodol.
32.—(1) Caiff unrhyw berson gyflwyno sylwadau ar y newidiadau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu eu gwneud drwy eu hanfon i'r cyfeiriad ac, os yw'n gymwys, at y person a bennir yn unol â rheoliad 31(3) o fewn y cyfnod o chwe wythnos, gan ddechrau ar ddiwrnod y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cydymffurfio â rheoliad 31(1).
(2) Cyn bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cydymffurfio ag adran 65(9)(a), rhaid iddo ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd yn unol â pharagraff (1).
33. Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol gydymffurfio â pharagraff 65 (6), rhaid i'r ACLl—
(a)trefnu bod argymhellion y person a benodwyd i gyflawni'r archwiliad, a'i resymau dros yr argymhellion hynny, ar gael i'w harchwilio yn ystod oriau arferol swyddfa yn y mannau lle rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael o dan reoliad 15; a
(b)cyhoeddi ar ei wefan yr argymhellion a'r rhesymau.
34. Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo CDLl, ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i addasiadau, neu ei wrthod yn unol ag adran 65(9)(a) (yn ôl y digwydd), rhaid i'r ACLl—
(a)trefnu bod y dogfennau canlynol ar gael i'w harchwilio yn ystod oriau arferol swyddfa yn y mannau lle rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael o dan reoliad 15(a)—
(i)yr CDLl a'r rhesymau a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag adran 65(9)(b), a
(ii)datganiad penderfynu;
(b)cyhoeddi ar ei wefan y datganiad penderfynu;
(c)hysbysu drwy hysbyseb leol—
(i)y datganiad penderfynu,
(ii)y ffaith bod yr CDLl a rhesymau'r Cynulliad Cenedlaethol ar gael i'w harolygu a'r mannau lle gellir arolygu'r ddogfen a'r rhesymau a'r amserau pryd y gellir eu harolygu; ac
(ch)anfon y datganiad penderfynu at unrhyw berson sydd wedi gofyn am gael ei hysbysu o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 65(9)(a).
35. Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn paratoi neu'n diwygio CDLl o dan adran 71—
(a)rhaid iddo gydymffurfio ag unrhyw ddarpariaethau yn Rhan 6 o'r Ddeddf ac unrhyw ddarpariaethau yn y Rheoliadau hyn—
(i)sy'n berthnasol i waith paratoi'r CDLl neu ei ddiwygio, a
(ii)fel petai'r cyfeiriadau yn y darpariaethau hynny yn y CDLl yn gyfeiriadau at y Cynulliad Cenedlaethol; a
(b)mae rheoliadau 31 i 35 yn gymwys, yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau angenrheidiol ac fel petai cyfeiriadau at ACLl yn gyfeiriadau at y Cynulliad Cenedlaethol.
36.—(1) O ran cytundeb a grybwyllwyd yn adran 72(1), tri mis yw'r cyfnod a ragnodir at ddibenion adran 72(7), gan ddechrau ar y diwrnod y mae unrhyw ACLl sy'n barti i'r cytundeb yn tynnu'n ôl o'r cytundeb hwnnw.
(2) Mae CDLl cyfatebol at ddibenion adran 72(5) yn CDLl—
(a)nad yw'n ymwneud ag unrhyw ran o ardal yr ACLl sydd wedi tynnu'n ôl o'r cytundeb; a
(b)y mae ei effaith, o ran ardaloedd yr ACLl a'i baratôdd, yn sylweddol yr un fath ag effaith y cydgynllun gwreiddiol.
(3) Ym mharagraff (2)(b), ystyr “cydgynllun gwreiddiol” yw cydgynllun datblygu lleol a baratowyd yn unol â chytundeb a grybwyllwyd ym mharagraff (1).
37.—(1) Rhaid i ACLl gyhoeddi ei adroddiad monitro blynyddol ar ei wefan a'i gyflwyno hefyd i'r Cynulliad Cenedlaethol ar neu cyn y dyddiad a bennwyd mewn canllawiau a wnaed o dan adran 75.
(2) Pan nad yw polisi a bennwyd mewn CDLl yn cael ei weithredu, rhaid i'r adroddiad monitro blynyddol enwi'r polisi hwnnw.
(3) Pan fo adroddiad monitro blynyddol yn enwi polisi yn unol â pharagraff (2), rhaid i'r adroddiad hwnnw gynnwys datganiad—
(a)o'r rhesymau pam nad yw'r polisi hwnnw yn cael ei weithredu;
(b)y camau (os o gwbl) y mae'r ACLl yn bwriadu eu cymryd i sicrhau y caiff y polisi ei weithredu; ac
(c)ynghylch a yw'r ACLl yn bwriadu paratoi diwygiad o'r CDLl i ddisodli neu ddiwygio'r polisi.
(4) Rhaid i'r adroddiad monitro blynyddol bennu—
(a)y swm, o ran y cyflenwad o dir tai a gymerwyd o'r Astudiaeth gyfredol o'r Tir sydd ar gael ar gyfer Tai; a
(b)y nifer (os o gwbl) o anheddau fforddiadwy ychwanegol net ac anheddau'r farchnad gyffredinol net a adeiladwyd yn ardal yr ACLl
yn y cyfnod y gwnaed yr adroddiad ar ei gyfer; ac ers i'r CDLl gael ei fabwysiadu neu ei gymeradwyo am y tro cyntaf.
38.—(1) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i CDLl na diwygiad y trefnwyd iddo fod ar gael neu a gyhoeddwyd o dan reoliad 39.
(2) Caniateir i ddogfennau, sylwadau, cyfarwyddiadau, materion, hysbysiadau neu ddatganiadau—
(a)a roddwyd ar gael i'w harchwilio; neu
(b)a gyhoeddwyd ar wefan ACLl,
o dan y Rheoliadau hyn gael eu dileu ar yr adeg a bennir ym mharagraff (3).
(3) Yr amser a grybwyllwyd ym mharagraff (2) yw diwedd y cyfnod o chwe wythnos y cyfeirir ato yn adran 113(4) (y cyfnod ar gyfer herio dilysrwydd cynllun perthnasol) ac sy'n gymwys o ran yr CDLl o dan sylw.
39.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo ACLl yn mabwysiadu, neu'r Cynulliad Cenedlaethol yn cymeradwyo, CDLl.
(2) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r ddogfen gael ei mabwysiadu neu ei chymeradwyo, rhaid i'r ACLl—
(a)trefnu bod copi o'r CDLl ar gael i'w archwilio yn ei brif swyddfa yn ystod oriau arferol swyddfa;
(b)cyhoeddi'r CDLl ar ei wefan.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo ACLl yn mabwysiadu, neu'r Cynulliad Cenedlaethol yn cymeradwyo, diwygiad o CDLl.
(4) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r diwygiad gael ei fabwysiadu neu ei gymeradwyo, rhaid i'r ACLl ymgorffori'r diwygiad yn yr CDLl y trefnwyd iddo fod ar gael i'w archwilio ac a gyhoeddwyd o dan baragraff (2).
(5) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn dirymu CDLl, rhaid i'r ACLl, o fewn dwy wythnos i'r dyddiad y dirymwyd yr CDLl—
(a)cyhoeddi ar ei wefan ddatganiad o'r ffaith honno;
(b)dileu'r copi o'r CDLl y trefnwyd iddo fod ar gael i'w archwilio ac a gyhoeddwyd o dan baragraff (2);
(c)cymryd unrhyw gamau eraill y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol i dynnu dirymiad yr CDLl at sylw personau sy'n byw neu'n gweithio yn ei ardal; ac
(ch)hysbysu dirymiad yr CDLl drwy hysbyseb leol.
40.—(1) Os—
(a)y bydd person yn trefnu bod unrhyw ddogfen ar gael i'w harolygu o dan y Rheoliadau hyn;
(b)nad yw'r ddogfen honno wedi'i chyhoeddi yn unol ag un o ofynion Rhan 6 o'r Ddeddf; ac
(c)y gofynnir i'r person hwnnw gan berson arall am gopi o'r ddogfen honno,
rhaid i'r person a grybwyllwyd yn gyntaf ddarparu copi o'r ddogfen i'r person arall hwnnw cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl iddo gael deisyfiad y person arall hwnnw.
(2) Caiff unrhyw berson sy'n darparu copi—
(a)o dan baragraff (1); neu
(b)o unrhyw ddogfen yn unol â gofyniad o dan Rhan 6 o'r Ddeddf,
godi tâl rhesymol am y copi.
41. Rhaid i ACLl gychwyn adolygiad llawn o'i CDLl bob pedair blynedd o ddyddiad ei fabwysiadu'n gyntaf, yn unol â rheoliad 3(1).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(19).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
11 Hydref 2005
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (“y Ddeddf”) yn sefydlu system newydd o gynlluniau datblygu lleol (“CDLl”) yng Nghymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweithredu'r system honno.
Mae'r Rheoliadau yn rhagnodi ffurf a chynnwys CDLl (sydd i'w paratoi gan yr awdurdodau cynllunio lleol (“ACLl”)) (Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn) ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer y weithdrefn sydd i'w dilyn wrth eu paratoi (Rhan 4 o'r Rheoliadau hyn).
Y prif gamau yn y weithdrefn o wneud CDLl yw—
(a)y cytundeb cyflawni sy'n cynnwys y cynllun cynnwys cymunedau a'r amserlen ar gyfer paratoi CDLl (Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn);
(b)cyfranogi cyn adneuo (rheoliad 14);
(c)ymgynghori â'r cyhoedd cyn adneuo (rheoliad 15);
(ch)cyflwyno sylwadau a'u hystyried (rheoliad 16);
(d)adneuo'r cynigion (rheoliad 17);
(dd)cyflwyno ac ystyried sylwadau ar y cynigion (rheoliadau 18 i 20);
(e)sylwadau am sylwadau ar ddyraniad safle (rheoliad 21);
(f)cyflwyno CDLl sydd wedi'i adneuo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) ei archwilio (rheoliadau 22 a 23);
(ff)cyhoeddi argymhellion y person a benodwyd i gyflawni'r archwiliad (rheoliad 24); ac
(g)mabwysiadu'r CDLl gan yr ACLl (rheoliad25).
Mae darpariaethau hefyd ynglŷn â sut y dylid ymdrin â gwahanol ffurfiau o sylwadau ar CDLl (rheoliadau 19 ac 20), ynghylch tynnu CDLl yn ôl (rheoliad 26) ac ynglŷn ag ymyriad y Cynulliad Cenedlaethol yn y broses o baratoi CDLl (gan gynnwys darpariaethau ynghylch CDLl y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cyfarwyddo bod rhaid eu cyflwyno iddo ef eu pwyso a'u mesur) (Rhan 5 o'r Rheoliadau hyn).
Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer paratoi Cydgynlluniau Datblygu Lleol (rheoliad 36), yn ei gwneud yn ofynnol i ADLl adolygu ei CDLl bob pedair blynedd (Rhan 9), yn caniatáu cyfathrebiadau electronig (rheoliad 4) ac yn gwneud darpariaeth ynglŷn ag argaeledd dogfennau (Rhan 8).
2004 p.5. O ran pwerau i ragnodi, gweler adran 122(1).
1990 p.8. Mewnosodwyd Atodlen 4A gan Atodlen 1 i Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004.
Gweler adran 1(1) o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 (p.97), fel y'i hamnewidiwyd gan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43), adran 130 ac Atodlen 8, paragraff 1 ac fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1999/416.
Gweler adran 1(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25).
Gweler adran 16BA o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49).
1989 (p.29); amnewidiwyd adran 6 gan Ddeddf Cyfleustodau 2000 (p.27), adran 30.
1986 (p.44); amnewidiwyd adran 7 gan Ddeddf Nwy 1995 (p.45) a diwygiwyd adran 7(2) gan Ddeddf Cyfleustodau 2000 (p.27), adrannau 3(2), 76(1) a (3) ac Atodlen 6, paragraffau 1 a 4.
Mae'r diffiniad o “electronic communications apparatus” wedi'i fewnosod ym mharagraff 1(1) o'r cod cyfathrebu electronig gan baragraff 2(2) o Atodlen 3 i Ddeddf Cyfathrebu 2003 (p.21).
Yn Gall Gyda Gwastraff: Strategaeth Wastraff Genedlaethol Cymru, Mehefin 2002 .
Deddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 (p.80), adran 1(1) ac atodlen 1, paragraff 1.
O.J. Rhif L10, 14.1.1997, t.13.
O.J. Rhif L345, 31.12.2003, t.0097-0105.