Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 15 Hydref 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “ACLl” (“LPA”) yw'r awdurdod cynllunio lleol;

ystyr “adroddiad arfarnu cynaliadwyedd” (“sustainability appraisal report”) yw'r adroddiad a baratowyd yn unol ag adran 62(6)(b); ac mae'n cynnwys unrhyw adroddiad amgylcheddol sy'n ofynnol o dan ddarpariaethau Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004(1) neu unrhyw ailddeddfiad ohonynt;

ystyr “adroddiad ymgynghori cychwynnol” (“initial consultation report”) yw adroddiad yr ACLl a baratowyd yn unol â rheoliadau 14 i 16;

ystyr “arolygu” (“inspection”) yw arolygu gan y cyhoedd;

ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw—

(a)

CDLl;

(b)

cyngor cymuned;

ystyr “CDLl” (“LDP”) yw cynllun datblygu lleol;

mae i “cod cyfathrebu electronig” yr un ystyr ag “electronic communications code” yn adran 106(1) o Ddeddf Cyfathrebu 2003(2);

mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” gan adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000(3);

ystyr “cyfeiriad” (“address”), o ran cyfathrebiadau electronig, yw unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion cyfathrebiadau o'r fath;

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “cyrff ymgynghori cyffredinol” (“general consultation bodies”) yw—

(a)

cyrff gwirfoddol, y mae gweithgareddau'r rhai neu'r cyfan ohonynt yn fuddiol i unrhyw ran o ardal yr ACLl;

(b)

cyrff sy'n cynrychioli buddiannau gwahanol grwpiau hiliol, ethnig neu genedlaethol yn ardal yr ACLl;

(c)

cyrff sy'n cynrychioli buddiannau gwahanol grwpiau crefyddol yn ardal yr ACLl;

(ch)

cyrff sy'n cynrychioli buddiannau personau anabl yn ardal yr ACLl;

(d)

cyrff sy'n cynrychioli buddiannau personau sy'n rhedeg busnes yn ardal yr ACLl; ac

(dd)

cyrff sy'n cynrychioli buddiannau'r diwylliant Cymreig yn ardal yr ACLl;

ystyr “cyrff ymgynghori penodol” (“specific consultation bodies”) yw'r cyrff a bennir neu a ddisgrifir ym mharagraffau (i) i (viii) o'r diffiniad hwn:

(a)

Cyngor Cefn Gwlad Cymru(4),

(b)

Asiantaeth yr Amgylchedd(5),

(c)

i'r graddau y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn arfer swyddogaethau a oedd yn arferadwy gynt gan yr Awdurdod Rheilffordd Strategol, yr Ysgrifennydd Gwladol.

(ch)

y Cynulliad Cenedlaethol,

(d)

awdurdod perthnasol y mae unrhyw ran o'i ardal yn ardal yr ACLl neu'n cyffinio â'r ardal honno,

(dd)

unrhyw berson—

(i)

y mae'r cod cyfathrebu electronig yn gymwys iddo yn rhinwedd cyfarwyddyd a roddir o dan adran 106(3)(a) o Ddeddf Cyfathrebu 2003, a

(ii)

sy'n meddu ar offer cyfathrebu electronig sydd wedi'u lleoli mewn unrhyw ran o ardal yr ACLl neu'n rheoli offer o'r fath (lle mae'n wybyddus),

(e)

os yw'n arfer swyddogaethau mewn unrhyw ran o ardal yr ACLl—

(i)

Bwrdd Iechyd Lleol(6),

(ii)

person y mae trwydded wedi'i rhoi iddo o dan adran 6(1)(b) neu (c) o Ddeddf Trydan 1989(7),

(iii)

person y mae trwydded wedi'i rhoi iddo o dan adran 7(2) o Ddeddf Nwy 1986(8),

(iv)

ymgymerwr carthffosiaeth,

(v)

ymgymerwr dŵr;

ystyr “cytundeb cyflawni” (“delivery agreement”) yw'r cynllun cynnwys cymunedau y cytunwyd arno ynghyd â'r amserlen y cytunwyd arni ac y cyfeirir at y ddau ohonynt yn adran 63(1);

ystyr “datganiad mabwysiadu” (“adoption statement”) yw datganiad—

(a)

o ddyddiad mabwysiadu CDLl;

(b)

y caiff person a dramgwyddir gan yr CDLl wneud cais i'r Uchel Lys o dan adran 113; ac

(c)

o'r seiliau y caniateir eu defnyddio i wneud y cais hwnnw, ac o fewn pa amser y caniateir iddo gael ei wneud;

ystyr “datganiad penderfynu” (“decision statement”)—

(a)

yw datganiad bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu cymeradwyo, cymeradwyo yn ddarostyngedig i addasiadau, neu wrthod CDLl (yn ôl y digwydd);

(b)

pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu cymeradwyo CDLl, neu gymeradwyo CDLl yn ddarostyngedig i addasiadau, yw datganiad—

(i)

o ddyddiad mabwysiadu'r CDLl,

(ii)

y caiff person a dramgwyddir gan yr CDLl wneud cais i'r Uchel Lys o dan adran 113, a

(iii)

o'r seiliau y caniateir eu defnyddio i wneud y cais hwnnw, ac o fewn pa amser y caniateir iddo gael ei wneud;

ystyr “dogfennau CDLl” (“LDP documents”) yw—

(a)

yr CDLl sydd wedi'i adneuo;

(b)

yr adroddiad arfarnu cynaliadwyedd;

(c)

yr adroddiad ymgynghori cychwynnol;

(ch)

y dogfennau ategol sy'n berthnasol ym marn yr ACLl i waith paratoi'r CDLl;

ystyr “dogfennau cynigion cyn-adneuo” (“pre-deposit proposals documents”) yw'r strategaeth, yr opsiynau a'r cynigion ar gyfer yr CDLl sydd orau gan yr ACLl a goblygiadau'r rhain, a'r dewisiadau cynharach a'u goblygiadau wedi'u hegluro, ynghyd â'r dogfennau ategol sy'n berthnasol i'r dogfennau hynny ym marn yr ACLl;

ystyr “drwy hysbyseb leol” (“by local advertisement”) yw drwy gyhoeddi o leiaf un tro mewn papur lleol sy'n cylchredeg yn ardal gyfan yr ACLl;

ystyr “map yr Arolwg Ordnans” (“Ordnance Survey map”) yw map a gynhyrchwyd gan yr Arolwg Ordnans neu fap ar sylfaen debyg yn ôl graddfa gofrestredig;

ystyr “materion adneuo” (“deposit matters”) yw—

(a)

teitl yr CDLl;

(b)

y cyfnod y mae rhaid cyflwyno sylwadau ynddo am yr CDLl yn unol â rheoliad 16(2)(a);

(c)

y cyfeiriad y mae rhaid anfon sylwadau iddo, a phan fo'n briodol, y person y mae rhaid eu hanfon ato (boed ar ffurf cyfathrebiadau electronig neu fel arall) yn unol â rheoliad 18;

(ch)

datganiad y caniateir i ddeisyfiad fynd gyda'r sylwadau, a hwnnw'n ddeisyfiad am gael hysbysiad mewn cyfeiriad penodedig fod argymhellion y person a benodwyd i gyflawni archwiliad o dan adran 64 wedi'u cyhoeddi neu gael hysbysiad bod yr CDLl wedi'i fabwysiadu neu gael hysbysiad o'r ddau;

ystyr “materion cyn-adneuo” (“pre-deposit matters”) yw—

(a)

teitl yr CDLl;

(b)

y cyfnod y caniateir i sylwadau gael eu cyflwyno ynddo yn unol â rheoliad 16(2)(a);

(c)

y cyfeiriad, a phan fo'n briodol y person, y mae rhaid i sylwadau gael eu hanfon ato (boed ar ffurf cyfathrebiadau electronig neu fel arall) yn unol â rheoliad 16(2)(b);

(ch)

datganiad y caniateir i ddeisyfiad fynd gydag unrhyw sylwadau, a hwnnw'n ddeisyfiad yn gofyn am gael hysbysiad mewn cyfeiriad penodedig bod yr CDLl wedi'i gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer archwiliad annibynnol o dan adran 64 a bod yr CDLl wedi'i fabwysiadu;

mae i “offer cyfathrebu electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communications apparatus” gan baragraff 1(1) o'r cod cyfathrebu electronig(9);

ystyr “person a benodwyd” (“person appointed”) yw person a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 64(4) i gyflawni archwiliad annibynnol;

mae i “person anabl” yr ystyr a roddir i “disabled person” gan adran 1(2) o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995(10);

ystyr “polisi dyrannu safle” (“site allocation policy”) yw polisi sy'n golygu dyrannu safle ar gyfer defnydd neu ddatblygiad penodol;

ystyr “sylw ar ddyraniad safle” (“site allocation representation”) yw unrhyw sylw sy'n ceisio newid CDLl drwy—

(a)

ychwanegu polisi dyrannu safle at yr CDLl; neu

(b)

newid neu ddileu unrhyw bolisi dyrannu safle yn yr CDLl;

ystyr “Strategaeth Wastraff Cymru” (“Waste Strategy Wales”) yw unrhyw ddatganiad sy'n cynnwys polisïau'r Cynulliad Cenedlaethol o ran adfer a gwaredu gwastraff yng Nghymru(11) ac sy'n cael ei wneud o dan adran 44A o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(12).

(2Yn y Rheoliadau hyn, oni ddywedir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at adran yn gyfeiriad at yr adran honno o'r Ddeddf ac mae unrhyw gyfeiriad at reoliad yn gyfeiriad at y rheoliad hwnnw yn y Rheoliadau hyn.

Cwmpas y Rheoliadau

3.—(1Mae'r Rheoliadau hyn yn effeithiol mewn perthynas â diwygio CDLl yn yr un modd ag y maent yn gymwys i baratoi CDLl.

  • Pan fo —

    (a)

    ACLl; neu

    (b)

    y Cynulliad Cenedlaethol

    o ran paratoi cynllun datblygu lleol, wedi cymryd unrhyw gam mewn perthynas ag unrhyw reoliad a wnaed o dan ddarpariaethau Rhan 6 o'r Ddeddf, mae'r cam hwnnw i'w ystyried yn gam sydd wedi'i gymryd yn unol â'r dyletswyddau sydd wedi'u gosod ar yr awdurdod cynllunio lleol neu'r Cynulliad Cenedlaethol o dan y rheoliad hwnnw, p'un a oedd y cam hwnnw wedi'i gymryd cyn, neu ar ôl y diwrnod a bennwyd i'r rheoliad hwnnw ddod i rym.

Cyfathrebiadau electronig

4.—(1Os, yn y Rheoliadau hyn—

(a)y mae'n ofynnol i berson—

(i)anfon dogfen, copi o ddogfen neu unrhyw hysbysiad at berson arall,

(ii)hysbysu person arall o unrhyw fater; a

(b)y mae gan y person arall hwnnw gyfeiriad at ddibenion cyfathrebu electronig;

caniateir anfon neu wneud y ddogfen, y copi, neu'r hysbysiad ar ffurf cyfathrebiad electronig.

(2Os, yn y Rheoliadau hyn, y caiff person gyflwyno sylwadau ar unrhyw fater neu ddogfen, caniateir i'r sylwadau hynny gael eu cyflwyno—

(a)yn ysgrifenedig; neu

(b)ar ffurf cyfathrebiadau electronig.

(3Os bydd—

(a)cyfathrebiad electronig yn cael ei ddefnyddio fel a grybwyllwyd ym mharagraffau (1) a (2); a

(b)y cyfathrebiad yn dod i law'r derbynnydd y tu allan i oriau swyddfa arferol y person hwnnw, cymerir ei fod wedi dod i law ar y diwrnod gwaith nesaf; ac, yn y rheoliad hwn, ystyr “diwrnod gwaith” yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, nac yn ddydd Sul, Gŵyl y Banc(13) nac yn unrhyw ŵyl gyhoeddus arall.

(4)

Gweler adran 1(1) o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 (p.97), fel y'i hamnewidiwyd gan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43), adran 130 ac Atodlen 8, paragraff 1 ac fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1999/416.

(5)

Gweler adran 1(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25).

(6)

Gweler adran 16BA o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49).

(7)

1989 (p.29); amnewidiwyd adran 6 gan Ddeddf Cyfleustodau 2000 (p.27), adran 30.

(8)

1986 (p.44); amnewidiwyd adran 7 gan Ddeddf Nwy 1995 (p.45) a diwygiwyd adran 7(2) gan Ddeddf Cyfleustodau 2000 (p.27), adrannau 3(2), 76(1) a (3) ac Atodlen 6, paragraffau 1 a 4.

(9)

Mae'r diffiniad o “electronic communications apparatus” wedi'i fewnosod ym mharagraff 1(1) o'r cod cyfathrebu electronig gan baragraff 2(2) o Atodlen 3 i Ddeddf Cyfathrebu 2003 (p.21).

(10)

1995 p.50.

(11)

Yn Gall Gyda Gwastraff: Strategaeth Wastraff Genedlaethol Cymru, Mehefin 2002 .

(12)

1990 p.43.

(13)

Deddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 (p.80), adran 1(1) ac atodlen 1, paragraff 1.