RHAN 7YR ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL
Yr adroddiad monitro blynyddol37.
(1)
Rhaid i ACLl gyhoeddi ei adroddiad monitro blynyddol ar ei wefan a'i gyflwyno hefyd i'r Cynulliad Cenedlaethol ar neu cyn y dyddiad a bennwyd mewn canllawiau a wnaed o dan adran 75.
(2)
Pan nad yw polisi a bennwyd mewn CDLl yn cael ei weithredu, rhaid i'r adroddiad monitro blynyddol enwi'r polisi hwnnw.
(3)
Pan fo adroddiad monitro blynyddol yn enwi polisi yn unol â pharagraff (2), rhaid i'r adroddiad hwnnw gynnwys datganiad—
(a)
o'r rhesymau pam nad yw'r polisi hwnnw yn cael ei weithredu;
(b)
y camau (os o gwbl) y mae'r ACLl yn bwriadu eu cymryd i sicrhau y caiff y polisi ei weithredu; ac
(c)
ynghylch a yw'r ACLl yn bwriadu paratoi diwygiad o'r CDLl i ddisodli neu ddiwygio'r polisi.
(4)
Rhaid i'r adroddiad monitro blynyddol bennu—
(a)
y swm, o ran y cyflenwad o dir tai a gymerwyd o'r Astudiaeth gyfredol o'r Tir sydd ar gael ar gyfer Tai; a
(b)
y nifer (os o gwbl) o anheddau fforddiadwy ychwanegol net ac anheddau'r farchnad gyffredinol net a adeiladwyd yn ardal yr ACLl
yn y cyfnod y gwnaed yr adroddiad ar ei gyfer; ac ers i'r CDLl gael ei fabwysiadu neu ei gymeradwyo am y tro cyntaf.