Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005

RHAN 7YR ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL

Yr adroddiad monitro blynyddol

37.—(1Rhaid i ACLl gyhoeddi ei adroddiad monitro blynyddol ar ei wefan a'i gyflwyno hefyd i'r Cynulliad Cenedlaethol ar neu cyn y dyddiad a bennwyd mewn canllawiau a wnaed o dan adran 75.

(2Pan nad yw polisi a bennwyd mewn CDLl yn cael ei weithredu, rhaid i'r adroddiad monitro blynyddol enwi'r polisi hwnnw.

(3Pan fo adroddiad monitro blynyddol yn enwi polisi yn unol â pharagraff (2), rhaid i'r adroddiad hwnnw gynnwys datganiad—

(a)o'r rhesymau pam nad yw'r polisi hwnnw yn cael ei weithredu;

(b)y camau (os o gwbl) y mae'r ACLl yn bwriadu eu cymryd i sicrhau y caiff y polisi ei weithredu; ac

(c)ynghylch a yw'r ACLl yn bwriadu paratoi diwygiad o'r CDLl i ddisodli neu ddiwygio'r polisi.

(4Rhaid i'r adroddiad monitro blynyddol bennu—

(a)y swm, o ran y cyflenwad o dir tai a gymerwyd o'r Astudiaeth gyfredol o'r Tir sydd ar gael ar gyfer Tai; a

(b)y nifer (os o gwbl) o anheddau fforddiadwy ychwanegol net ac anheddau'r farchnad gyffredinol net a adeiladwyd yn ardal yr ACLl

yn y cyfnod y gwnaed yr adroddiad ar ei gyfer; ac ers i'r CDLl gael ei fabwysiadu neu ei gymeradwyo am y tro cyntaf.