17. Rhaid i'r ACLl—
(a)trefnu bod copïau o'r dogfennau CDLl, a datganiad o'r materion CDLl, ar gael i'w harolygu yn ystod oriau arferol swyddfa yn y mannau lle rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael o dan reoliad 15(a);
(b)cyhoeddi ar ei wefan—
(i)y dogfennau CDLl,
(ii)y materion adneuo, a
(iii)datganiad o'r ffaith bod y dogfennau CDLl ar gael i'w harolygu ac o'r mannau lle gellir eu harolygu a'r amserau y gellir eu harolygu;
(c)anfon at bob un o'r cyrff a nodwyd yn rheoliad 14(a) a (b), gopïau o'r canlynol—
(i)yr CDLl sydd wedi'i adneuo,
(ii)yr adroddiad arfarnu cynaliadwyedd,
(iii)yr adroddiad ymgynghori cychwynnol,
(iv)rhestr o'r dogfennau ategol sy'n berthnasol ym marn yr ACLl i waith paratoi'r CDLl,
(v)hysbysiad o'r materion adneuo, a
(vi)y datganiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (b)(iii); ac
(ch)hysbysu drwy hysbyseb leol—
(i)y materion adneuo, a
(ii)y ffaith bod y dogfennau CDLl ar gael i'w harolygu ac o'r mannau lle gellir eu harolygu a'r amserau y gellir eu harolygu.