xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5YMYRIAD GAN Y CYNULLIAD CENEDLAETHOL

Cyfarwyddyd i beidio â mabwysiadu cynllun datblygu lleol

28.—(1Os, mewn perthynas ag CDLl, y mae'r person a benodwyd i gyflawni archwiliad o dan adran 64 wedi cydymffurfio ag is-adran (7) o'r adran honno, caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo'r ACLl ar unrhyw adeg i beidio â mabwysiadu'r CDLl hwnnw nes bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu a ddylid rhoi cyfarwyddyd o dan adran 65(1) neu (4).

(2Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi cyfarwyddyd o'r fath, rhaid i'r ACLl—

(a)trefnu bod y cyfarwyddyd ar gael i'w archwilio yn ystod oriau arferol swyddfa yn y mannau lle rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael o dan reoliad 15;

(b)cyhoeddi'r cyfarwyddyd ar ei wefan;

(c)peidio â mabwysiadu'r CDLl nes bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi hysbysu'r ACLl o'i benderfyniad o dan baragraff (1).