xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
31.—(1) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu gwyro oddi wrth argymhellion y person a benodwyd i gyflawni archwiliad o dan adran 64, rhaid iddo gyhoeddi—
(a)y newidiadau y mae'n bwriadu eu gwneud; a
(b)ei resymau dros wneud hynny.
(2) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol gydymffurfio â pharagraff (1), rhaid i'r ACLl—
(a)trefnu bod copïau o'r newidiadau a'r rhesymau a datganiad o'r materion ym mharagraff (3) ar gael i'w harchwilio yn ystod oriau arferol swyddfa yn y mannau lle rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael o dan reoliad 15;
(b)cyhoeddi ar ei wefan—
(i)y newidiadau a'r rhesymau,
(ii)y materion ym mharagraff (3),
(iii)datganiad o'r ffaith bod y newidiadau a'r rhesymau ar gael i'w harchwilio a'r mannau lle gellir eu harchwilio a'r amserau y gellir eu harchwilio;
(c)anfon copïau o'r newidiadau a'r rhesymau at y cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff (4) a hysbysu'r cyrff hynny o'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (3); a
(ch)hysbysu drwy hysbyseb leol—
(i)y materion ym mharagraff (3),
(ii)y ffaith bod y newidiadau a'r rhesymau ar gael i'w harchwilio; a'r mannau lle gellir eu harchwilio a'r amserau y gellir eu harchwilio.
(3) Dyma'r materion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2) —
(a)o fewn pa gyfnod y mae rhaid cyflwyno sylwadau ar y newidiadau;
(b)y cyfeiriad yn y Cynulliad Cenedlaethol y mae rhaid anfon sylwadau iddo, a phan fo'n briodol, y person y mae rhaid eu hanfon ato (boed ar ffurf cyfathrebiadau electronig neu fel arall); ac
(c)datganiad y caniateir i ddeisyfiad fynd gydag unrhyw sylwadau, a hwnnw'n ddeisyfiad am gael hysbysiad mewn cyfeiriad penodedig o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 65(9)(a).
(4) Y cyrff y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2)(c) yw—
(a)pob un o'r cyrff ymgynghori penodol i'r graddau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu bod y newidiadau yn effeithio ar y cyrff hynny; a
(b)y cyrff ymgynghori cyffredinol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn barnu eu bod yn briodol.