- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Hydref 2005
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
2.—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion Newydd wrth Drosi i Fframwaith Newydd) 1998(1) yn cael eu dirymu mewn perthynas â Chymru.
(2) Mae Rhannau I i V, VII ac VIII o Reoliadau Addysg (Ysgolion Newydd) (Cymru) 1999(2) (“Rheoliadau 1999”) yn cael eu dirymu heblaw fel y darperir ym mharagraffau (3) a (4).
(3) Bydd Rhan I o Reoliadau 1999 yn dal yn effeithiol i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan VI.
(4) Bydd Rhannau I i IV o Reoliadau 1999 yn dal yn effeithiol mewn perthynas ag unrhyw gorff llywodraethu dros dro a sefydlir cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.
3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “athro neu athrawes ysgol” yr ystyr a roddwyd i “school teacher” gan adran 122 o Ddeddf 2002;
ystyr “awdurdod addysg lleol” (“local education authority”) yw'r awdurdod addysg lleol y cynhelir ysgol a gynhelir ganddo neu y bwriedir i ysgol arfaethedig o'r fath gael ei chynnal ganddo;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(3);
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Dysgu a Sgiliau 2000(4);
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;
mae i “disgybl” yr ystyr a roddwyd i “pupil” gan adran 3 o Ddeddf Addysg 1996(5);
mae “pennaeth” (“head teacher”) yn cynnwys person sydd wedi'i benodi'n bennaeth ysgol newydd ond sydd heb ymgymryd â'r swydd eto;
ystyr “y Rheoliadau Llywodraethu” (“the Government Regulations”) yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005(6); ac
mae i “ysgol newydd” yr ystyr a roddwyd i “new school” gan adran 72(3) o Ddeddf 1998.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at ysgol y mae ganddi gyllideb ddirprwyedig i'w dehongli yn unol ag adran 39(2) o Ddeddf 2002.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr yr “addasiadau cyffredinol” yw'r addasiadau canlynol i'r Rheoliadau Llywodraethu—
(a)mae “ysgol newydd” yn disodli “ysgol” ac “ysgol a gynhelir”;
(b)mae “dros dro” yn cael ei fewnosod ar ôl y geiriau “corff llywodraethu”, “llywodraethwr” a “swydd llywodraethwr”;
(c)mae cyfeiriadau at gategori penodol o lywodraethwr i'w darllen fel cyfeiriadau at y categorïau cyfatebol o lywodraethwr dros dro sydd wedi'u nodi yn Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn; ac
(ch)mae cyfeiriadau at bennaeth i gynnwys person sydd wedi'i benodi'n bennaeth ysgol newydd ond sydd heb ymgymryd â'r swydd eto.
(4) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn—
(a)at bwyllgor yn gyfeiriad at bwyllgor sydd wedi'i sefydlu gan y corff llywodraethu dros dro ac y mae'r corff llywodraethu dros dro wedi dirprwyo unrhyw un o'i swyddogaethau statudol iddo;
(b)at gorff llywodraethu dros dro yn gyfeiriad at gorff llywodraethu dros dro unrhyw ysgol neu ysgol arfaethedig y mae'r ddarpariaeth yn gymwys mewn perthynas â hi;
(c)at lywodraethwr dros dro o gategori penodol i'w ddehongli yn unol â Rhan 3.
(5) Onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn—
(a)at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;
(b)at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddynt;
(c)at is-baragraff â rhif yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y paragraff y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddo.
4. Rhaid i unrhyw hysbysiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno o dan y Rheoliadau hyn gael ei gyflwyno yn unol ag adran 572 o Ddeddf 1996.
Diwygiwyd adran 3 gan baragraff 34 o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: