- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
22.—(1) Caiff unrhyw aelod o gorff llywodraethu dros dro ymddiswyddo o'i swydd llywodraethwr drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc corff llywodraethu dros dro yr ysgol.
(2) Caiff llywodraethwr sefydledig dros dro ex officio ymddiswyddo fel llywodraethwr dros dro naill ai'n barhaol neu dros dro ond ni fydd ei ymddiswyddiad yn rhagfarnu swydd llywodraethwr dros dro ei olynydd yn y swydd y mae'r swydd llywodraethwr dros dro ex officio yn deillio ohoni.
(3) Caiff y pennaeth dynnu ei ymddiswyddiad yn ôl unrhyw bryd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu dros dro.
23.—(1) Caniateir i unrhyw lywodraethwr dros dro ysgol newydd gael ei ddiswyddo gan y person neu'r personau a'i penododd
(2) Yn achos diswyddo llywodraethwr dros dro a grybwyllir yn rheoliad 24(1), rhaid i'r corff llywodraethu ddilyn y weithdrefn a nodir yn y rheoliad hwnnw, ac ym mhob achos arall rhaid i'r person sy'n diswyddo'r llywodraethwr dros dro roi hysbysiad ysgrifenedig ynglŷn â hynny i glerc y corff llywodraethu dros dro ac i'r llywodraethwr sy'n cael ei ddiswyddo fel hyn.
24.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â diswyddo:
(a)rhiant-lywodraethwr dros dro sydd wedi'i benodi gan y corff llywodraethu dros dro,
(b)athro-lywodraethwr dros dro sydd wedi'i benodi gan y corff llywodraethu dros dro, neu
(c)noddwr-lywodraethwr dros dro.
(2) Ni fydd penderfyniad i ddiswyddo llywodraethwr dros dro sy'n cael ei basio yn un o gyfarfodydd y corff llywodraethu dros dro yn effeithiol oni bai—
(a)bod y llywodraethwr neu'r llywodraethwyr dros dro sy'n cynnig y dylid ei ddiswyddo yn datgan yn y cyfarfod hwnnw eu rhesymau dros wneud hynny a bod y llywodraethwr y bwriedir ei ddiswyddo'n cael cyfle i wneud datganiad mewn ymateb, a hynny cyn i'r corff llywodraethu dros dro benderfynu diswyddo'r llywodraethwr dros dro;
(b)bod mater diswyddo'r llywodraethwr dros dro wedi'i bennu fel eitem o fusnes ar agenda'r cyfarfod.
(3) Ar ôl i benderfyniad i ddiswyddo llywodraethwr gael ei basio, rhaid i'r corff llywodraethu dros dro roi gwybod mewn ysgrifen i'r person sydd wedi'i ddiswyddo am y rhesymau dros y diswyddo.
25. Mae Atodlen 5 i'r Rheoliadau Llywodraethu yn gymwys, yn ddarostyngedig i'r addasiadau cyffredinol er mwyn nodi o dan ba amgylchiadau y mae person yn gymwys neu'n anghymwys i ddal swydd neu i barhau i'w dal, neu i gael ei benodi neu ei enwebu fel llywodraethwr dros dro ysgol newydd.
26. Os oes corff llywodraethu dros dro wedi'i gyfansoddi ar gyfer ysgol newydd mae'r awdurdod addysg lleol o dan yr un ddyletswydd i dalu'r treuliau sy'n codi mewn perthynas â'r corff llywodraethu dros dro â phe bai'r cynigion perthnasol wedi'u rhoi ar waith a phe bai'r corff llywodraethu dros dro yn gorff llywodraethu yr ysgol(1).
27. Rhaid i'r awdurdod addysg lleol sicrhau bod aelodau corff llywodraethu dros dro ysgol newydd, wrth eu penodi, yn cael (yn ddi-dâl) unrhyw wybodaeth y mae'r awdurdod yn credu bod arnynt ei hangen er mwyn galluogi'r corff llywodraethu dros dro i gyflawni ei swyddogaethau'n effeithiol.
Gweler Rheoliadau Lwfansau Llywodraethwyr (Cymru) 2005, O.S. 2005/2915 (Cy.212).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: