- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
43.—(1) Rhaid i'r awdurdod addysg lleol sicrhau bod offeryn llywodraethu wedi'i wneud ar gyfer pob ysgol newydd yn unol â rheoliadau 32 i 34 o'r Rheoliadau Llywodraethu cyn dyddiad agor yr ysgol.
(2) Bydd yr offeryn llywodraethu yn effeithiol o'r dyddiad y mae'n cael ei wneud er mwyn cyfansoddi'r corff llywodraethu ond nid yw'n effeithio ar gyfansoddiad neu enw'r corff llywodraethu dros dro sy'n rhedeg yr ysgol newydd.
(3) At ddibenion y Rhan hon, mewn perthynas ag unrhyw ysgol newydd, y dyddiad ymgorffori yw'r dyddiad y mae'r awdurdod lleol yn hysbysu'r corff llywodraethu'n ysgrifenedig, a rhaid iddo fod yn ddyddiad cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl dyddiad agor yr ysgol ond pa fodd bynnag heb fod yn hwyrach na diwrnod olaf y tymor y mae'r ysgol yn derbyn disgyblion am y tro cyntaf ynddo.
(4) Rhaid i'r awdurdod addysg lleol sicrhau bod penodiadau neu etholiadau llywodraethwyr sy'n ofynnol o dan offeryn llywodraethu ysgol newydd yn cael eu cynnal yn unol â'r offeryn hwnnw cyn y dyddiad ymgorffori a'u bod yn effeithiol o'r dyddiad hwnnw ymlaen.
(5) At bob diben arall, bydd yr offeryn llywodraethu yn effeithiol o'r dyddiad ymgorffori.
(6) Ar y dyddiad ymgorffori, rhaid i gorff llywodraethu ysgol newydd fod wedi'i gyfansoddi o dan yr offeryn llywodraethu.
(7) Rhaid i'r corff llywodraethu dros dro arfer ei swyddogaethau o dan Ddeddf 1998, Deddf 2002 a'r Rheoliadau hyn mewn modd y bwriedir iddo alluogi'r awdurdod addysg lleol i gyflawni ei ddyletswyddau o dan y rheoliad hwn.
44.—(1) Yn achos penodiad unrhyw lywodraethwr y cyfeirir ato yn rheoliad 43(4), rhaid i'r awdurdod addysg lleol roi hysbysiad ysgrifenedig i'r person sydd i wneud y penodiad o dan yr offeryn llywodraethu, oni bai bod y person hwnnw eisoes wedi hysbysu'r awdurdod addysg lleol ynglyn â phenodiad i lenwi'r swydd wag.
(2) Os bydd unrhyw berson yn gwneud penodiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig ynglŷn â'r penodiad i'r awdurdod addysg lleol ac i glerc y corff llywodraethu dros dro, gan bennu enw a phreswylfa arferol y person sydd wedi'i benodi.
45.—(1) Mae'r paragraffau canlynol yn gymwys mewn perthynas â phenodi neu ethol y llywodraethwyr y mae eu hangen i gyfansoddi'r corff llywodraethu yn unol â rheoliad 43(4).
(2) Rhaid i unrhyw riant-lywodraethwr gael naill ai—
(a)ei ethol (ar ôl dyddiad agor yr ysgol) gan rieni'r disgyblion cofrestredig yn yr ysgol newydd a rhaid iddo yntau fod yn rhiant o'r fath ar yr adeg y caiff ei ethol; neu
(b)ei benodi (ar ôl dyddiad agor yr ysgol) yn unol ag Atodlen 1 i'r Rheoliadau Llywodraethu.
(3) Ar ôl dyddiad agor yr ysgol—
(a)rhaid i unrhyw staff-lywodraethwr neu athro-lywodraethwr gael ei ethol yn unol â rheoliadau 5 a 6 o'r Rheoliadau Llywodraethu ac Atodlen 2 iddynt;
(b)rhaid i unrhyw lywodraethwr partneriaeth fod yn berson sydd wedi'i enwebu ac wedi'i benodi yn unol â rheoliad 10 o'r Rheoliadau Llywodraethu ac Atodlen 3 iddynt
(c)rhaid i unrhyw lywodraethwr cymunedol neu lywodraethwr cymunedol ychwanegol gael ei ethol yn unol â rheoliadau 8 a 20 o'r Rheoliadau Llywodraethu.
(4) Os—
(a)yw offeryn llywodraethu ysgol newydd yn darparu ar gyfer penodi un neu ragor o'r llywodraethwyr gan bersonau sy'n gweithredu ar y cyd, a
(b)os yw'r personau hynny'n methu â chytuno ar benodiad,
rhaid i'r penodiad gael ei wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'n unol â chyfarwyddyd a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol hwnnw.
46. Ar y dyddiad ymgorffori, yn rhinwedd y rheoliad hwn, trosglwyddir—
(a)yr holl dir ac eiddo arall a oedd, yn union cyn y dyddiad ymgorffori, wedi'i freinio yn y corff llywodraethu dros dro, a
(b)holl hawliau a rhwymedigaethau'r corff llywodraethu dros dro a oedd yn bodoli yn union cyn y dyddiad hwnnw,
i'r corff llywodraethu sydd wedi'i gyfansoddi o dan yr offeryn llywodraethu, a'u breinio ynddo.
47. Heb ragfarnu cyffredinolrwydd rheoliad 46, os yw'r rheoliad hwnnw'n peri bod hawliau a rhwymedigaethau yn cael eu trosglwyddo o dan gontract cyflogaeth—
(a)bydd y contract yn effeithiol o'r dyddiad ymgorffori fel pe bai wedi'i wneud yn wreiddiol rhwng y cyflogai a'r corff llywodraethu sydd wedi'i gyfansoddi o dan yr offeryn llywodraethu, a
(b)heb ragfarnu paragraff (a), bernir o'r dyddiad hwnnw ymlaen fod unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan neu mewn perthynas â'r corff llywodraethu dros dro mewn perthynas â'r contract hwnnw neu'r cyflogai wedi'i wneud gan neu mewn perthynas â'r corff llywodraethu sydd wedi'i gyfansoddi o dan yr offeryn llywodraethu,
ond ni fydd unrhyw hawl i'r cyflogai derfynu ei gontract cyflogaeth os caiff newid sylweddol ei wneud ar ei draul yn ei amodau gwaith yn codi dim ond oherwydd y newid cyflogwr sydd wedi'i beri gan y rheoliad hwnnw.
48.—(1) Yn union cyn y dyddiad ymgorffori, rhaid i'r corff llywodraethu dros dro baratoi, at ddiben cynorthwyo'r corff llywodraethu a fydd yn ei ddilyn, adroddiad byr ynglŷn â'r camau y mae wedi eu cymryd wrth gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â'r ysgol newydd.
(2) Rhaid i holl gofnodion a phapurau corff llywodraethu dros dro mewn perthynas â'r ysgol newydd, gan gynnwys yr adroddiad a baratowyd o dan baragraff (1), fod ar gael i'w olynwyr.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: