Rhedeg yr ysgol ar neu ar ôl dyddiad agor yr ysgol
31.—(1) Yn ystod y cyfnod—
(a)sy'n dechrau ar ddyddiad agor yr ysgol; a
(b)sy'n dod i ben gyda'r amser y caiff y corff llywodraethu ei gyfansoddi ar gyfer yr ysgol o dan offeryn llywodraethu,
mae Atodlen 1 i Ddeddf 2002 yn gymwys(1) gyda'r addasiadau sydd wedi'u nodi ym mharagraff (2).
(2) Mae'r addasiadau fel a ganlyn—
(a)yn lle cyfeiriadau at “governing body” rhodder cyfeiriadau at “temporary governing body”;
(b)ym mharagraff 2(1) o Atodlen 1 i Ddeddf 2002, hepgorer y geiriau “as for the time being set out in the school’s instrument of government”; ac
(c)nid yw paragraff 2(2) a (3) o Atodlen 1 i Ddeddf 2002 yn gymwys.
O dan adran 34(7) o Ddeddf 2002, mae corff llywodraethu dros dro ysgol i'w drin at ddibenion y Deddfau Addysg fel pe baent yn gorff llywodraethu yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar ddyddiad agor yr ysgol ac sy'n dod i ben gyda'r amser y caiff y corff llywodraethu ei gyfansoddi o dan offeryn llywodraethu; yn ddarostyngedig i adran 34(8), nad yw Atodlen 1 yn gymwys odani i gyrff llywodraethu dros dro oni bai y darperir hynny mewn rheoliadau sydd wedi'u gwneud o dan adran 34(5).