RHAN 1Cyflwyniad

Teitl, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Hydref 2005, ar wahân i baragraff (2) o reoliad 2, a rheoliad 38 ac Atodlen 6, a ddeuant i rym ar 1 Ionawr 2006.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Dirymiadau, arbedion a diwygiadau2

1

Dirymir drwy hyn Reoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Trawsnewid i Fframwaith Newydd) 19982.

2

Dirymir Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Cymru) 19993 yn effeithiol o 1 Ionawr 2006, ac eithrio'r darpariaethau canlynol sy'n parhau mewn grym yn achos pob ysgol a gynhelir hyd nes y gwneir offeryn llywodraethu newydd i'r ysgol yn unol â rheoliad 33—

  • Rheoliad 1 ar wahân i'r geiriau “and new schools” ym mharagraff (3);

  • Rheoliad 2(1) ar wahân i'r diffiniadau o “the First Transitional Regulations”, “new school” “School Organisation Regulations” a “the Second Transitional Regulations”;

  • Rheoliad 2(2) ar wahân i'r diffiniadau o “temporary governing body” a “temporary governors”;

  • Rheoliad 3 ar wahân i'r geiriau “or temporary governing body (however constituted)” ac “or (as the case may be) new school”;

  • Rheoliad 4 ar wahân i'r geiriau mewn cromfachau, ac yn eu lle hwy rhoddir y geiriau “in accordance with the 1998 Act”;

  • Rheoliad 5(1) (a) ar wahân i'r geiriau “or will maintain” ac “or a new school”; ac ar ôl y geiriau “for which an instrument of government has been made” ychwanegir y geiriau “in accordance with the 1998 Act”;

  • Rheoliad 5(2) (i), (iii) a (iv), ar wahân i'r geiriau “and (b)” a'r geiriau “or, in the case of a new school which has not opened, the diocesan authority which will be the appropriate diocesan authority when the school opens”;

  • Rheoliad 6(1) ac Atodlen 1;

  • Rheoliadau 9 i 12 ac Atodlenni 2 i 4;

  • Rheoliad 15 ar wahân i'r geiriau “Subject to Part VIII (transitional provisions), Schedule 6 sets”, ac yn eu lle hwy rhoddir “Paragraphs (12) to (16) of Schedule 6 to these Regulations and Schedule 5 to the Government of Maintained Schools (Wales) Regulations 2005 set”, a pharagraffau (12) i (16) o Atodlen 6;

  • Rheoliadau 16 a Rheoliadau 17;

  • Rheoliad 18 ac eithrio ym mharagraff (1) y geiriau “and to Part VIII (transitional provisions)”; a

  • Rheoliadau 19 ac 20.

3

Diwygir paragraff (1) o reoliad 31 o Reoliadau Addysg (Ysgolion Newydd) (Cymru) 19994, drwy roi'r geiriau “Part 5 of the Government of Maintained Schools (Wales) Regulations 2005” yn lle'r geiriau “Schedule 12 to the 1998 Act”.

Dehongli3

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • dehonglir “athro neu athrawes ysgol” (“school teacher”) yn unol ag adran 122 o Ddeddf 2002;

  • ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 19965;

  • ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19986;

  • ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;

  • ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul neu ddiwrnod sy'n ŵyl banc o fewn ystyr “bank holiday” yn Neddf Bancio a Deliadau Ariannol 19717.

2

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn—

a

at y corff llywodraethu neu at gorff llywodraethu ysgol yn gyfeiriad at gorff llywodraethu unrhyw ysgol a gynhelir y mae'r ddarpariaeth yn berthnasol iddi;

b

at lywodraethwr yn gyfeiriad at aelod o gorff llywodraethu unrhyw ysgol y mae'r ddarpariaeth yn berthnasol iddi;

c

at yr awdurdod addysg lleol yn gyfeiriad at yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol.

3

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn—

a

at reoliad, Rhan neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad, Rhan neu'r Atodlen sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;

b

at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad neu'r Atodlen y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddynt;

c

at is-baragraff â rhif yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y paragraff y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddo.

RHAN 2Categorïau Llywodraethwyr

Rhiant-lywodraethwyr4

1

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “rhiant-lywodraethwr” (“parent governor”) yw—

a

person a etholir yn unol â pharagraffau 4 i 9 o Atodlen 1 yn llywodraethwr gan rieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol ac sydd ei hun yn rhiant o'r fath pan gaiff ei ethol, neu

b

person a benodir yn rhiant-lywodraethwr yn unol â pharagraffau 10 i 12 o Atodlen 1.

2

Anghymhwysir person rhag bod yn rhiant-lywodraethwr yn unol â pharagraffau 10 i 12 o Atodlen 1 os yw—

a

yn aelod etholedig o'r awdurdod addysg lleol;

b

yn cael ei gyflogi gan yr awdurdod addysg lleol mewn cysylltiad â'i swyddogaethau fel awdurdod addysg lleol; neu

c

yn cael ei dalu i weithio yn yr ysgol am fwy na 500 awr mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis yn dechrau ar 1 Awst ac yn gorffen ar 31 Gorffennaf,

os nad yw'n rhiant i ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol.

3

Nid anghymhwysir person rhag parhau i fod yn rhiant-lywodraethwr pan beidia â bod yn rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol neu pan beidia â bodloni unrhyw rai o'r gofynion a nodir ym mharagraffau 11 a 12 o Atodlen 1 (yn ôl fel y digwydd) onis anghymhwysir fel arall o dan y Rheoliadau hyn.

4

Mae Atodlen 1 yn gymwys i ethol a phenodi rhiant-lywodraethwyr.

Athro-lywodraethwyr5

1

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “athro-lywodraethwr” (“teacher governor”) yw person—

a

a etholir yn unol ag Atodlen 2 yn llywodraethwr gan athrawon ysgol yn yr ysgol, a

b

sydd ei hun yn athro neu athrawes ysgol o'r fath pan etholir ef neu hi.

2

Pan fydd yn gorffen gweithio yn yr ysgol anghymhwysir athro-lywodraethwr rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o'r fath.

Staff-lywodraethwyr6

1

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “staff-lywodraethwr” (“staff governor”) yw person—

a

a etholir yn unol ag Atodlen 2 yn llywodraethwr gan bersonau a gyflogir i weithio yn yr ysgol ond nid fel athrawon ysgol, a

b

sydd ei hun yn berson a gyflogir yn y cyfryw fodd pan etholir ef;

ac at y diben hwn, ystyr “a gyflogir” (“employed”) yw a gyflogir o dan gontract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau.

2

Pan fo offeryn llywodraethu ysgol feithrin a gynhelir yn gwneud darpariaeth yn unol â rheoliad 14(3), ystyr “staff-lywodraethwr” (“staff governor”) yw person—

a

a etholir yn unol ag Atodlen 2 yn llywodraethwr gan bersonau a gyflogir i weithio yn yr ysgol, a

b

sydd ei hun yn berson a gyflogir yn y cyfryw fodd pan etholir ef;

ac at y diben hwn, ystyr “a gyflogir” (“employed”) yw a gyflogir o dan gontract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau.

3

Pan fydd yn gorffen gweithio yn yr ysgol anghymhwysir staff-lywodraethwr ysgol rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o'r fath.

Llywodraethwyr AALl7

1

Yn y Rheoliadau hyn ystyr “llywodraethwr AALl” (“LEA governor”) yw person a benodir yn llywodraethwr gan yr awdurdod addysg lleol.

2

Anghymhwysir person rhag cael ei benodi na pharhau i ddal swydd fel llywodraethwr AALl ysgol os yw'n gymwys i fod yn athro- lywodraethwr neu'n staff-lywodraethwr i'r ysgol.

Llywodraethwyr cymunedol8

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “llywodraethwr cymunedol” (“community governor”) yw person a benodir yn llywodraethwr gan y corff llywodraethu ac sydd—

    1. a

      yn berson sy'n byw neu'n gweithio yn y gymuned a wasanaethir gan yr ysgol, neu

    2. b

      yn berson sydd, ym marn y corff llywodraethu, yn ymrwymedig i lywodraeth dda a llwyddiant yr ysgol;.

  • ystyr “llywodraethwr cymunedol ychwanegol” (“additional community governor”) yw llywodraethwr a benodir yn unol â rheoliad 20.

2

Anghymhwysir person rhag cael ei benodi na pharhau i ddal swydd fel llywodraethwr cymunedol ysgol os yw—

a

yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol;

b

yn gymwys i fod yn athro-lywodraethwr neu'n staff-lywodraethwr i'r ysgol.

3

Anghymhwysir person rhag cael ei benodi'n llywodraethwr cymunedol ysgol os yw'n aelod etholedig o'r awdurdod addysg lleol.

4

Nid yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys yn achos llywodraethwr cymunedol ychwanegol.

Llywodraethwyr sefydledig9

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “llywodraethwr sefydledig” (“foundation governor”) yw person a benodir yn llywodraethwr ac eithrio gan yr awdurdod addysg lleol ac—

    1. a

      pan fo gan yr ysgol gymeriad crefyddol arbennig8, a benodir at ddiben sicrhau y diogelir ac y datblygir y cymeriad hwnnw,

    2. b

      pan fo ymddiriedolaeth yn ymwneud â'r ysgol, a benodir at ddiben sicrhau y rhedir yr ysgol yn unol â'r ymddiriedolaeth honno, neu

    3. c

      pan nad oes gan yr ysgol gymeriad crefyddol a phan nad oes ymddiriedolaeth yn ymwneud â hi, a benodir yn llywodraethwr sefydledig i'r ysgol;

  • ystyr “llywodraethwr sefydledig ex officio” (“ex officio foundation governor”) yw llywodraethwr sefydledig sy'n ddeiliad swydd y mae ganddo hawl i fod yn llywodraethwr sefydledig yn rhinwedd y swydd honno;

  • ystyr “dirprwy lywodraethwr” (“substitute governor”) yw llywodraethwr sefydledig a benodir i weithredu yn lle llywodraethwr sefydledig ex officio

    1. a

      sy'n anfodlon neu'n methu â gweithredu fel llywodraethwr,

    2. b

      sydd wedi ei ddiswyddo fel llywodraethwr o dan reoliad 27(2), neu

    3. c

      os yw'r swydd sy'n rhoi bod i swydd llywodraethwr o'r fath yn wag.

2

Anghymhwysir llywodraethwr sefydledig ex officio, pan beidia â dal y swydd y mae ei swydd fel llywodraethwr yn deillio ohoni, rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o'r fath.

Llywodraethwyr partneriaeth10

1

Yn y Rheoliadau hyn ystyr “llywodraethwr partneriaeth” (“partnership governor”) yw person a enwebir yn llywodraethwr partneriaeth ac a benodir yn llywodraethwr o'r fath yn unol ag Atodlen 3.

2

Anghymhwysir person rhag cael ei enwebu na'i benodi'n llywodraethwr partneriaeth ysgol os yw—

a

yn rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol ;

b

yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol;

c

yn gymwys i fod yn athro-lywodraethwr neu staff-lywodraethwr i'r ysgol;

ch

yn aelod etholedig o'r awdurdod addysg lleol; neu

d

yn cael ei gyflogi gan yr awdurdod addysg lleol mewn perthynas â'i swyddogaethau fel awdurdod addysg lleol.

Noddwr-lywodraethwyr11

Yn y Rheoliadau hyn ystyr “noddwr-lywodraethwr” (“sponsor governor”) yw person a enwebir yn noddwr-lywodraethwr ac a benodir yn llywodraethwr o'r fath gan y corff llywodraethu yn unol ag Atodlen 4.

Llywodraethwyr cynrychioliadol12

Yn y Rheoliadau hyn ystyr “llywodraethwr cynrychioliadol” (“representative governor”) yw person a benodir yn llywodraethwr o'r fath yn unol â pharagraffau (4) neu (5) o reoliad 15.

RHAN 3CYFANSODDIAD CYRFF LLYWODRAETHU

Ysgolion Cymunedol13

1

Rhaid i gorff llywodraethu ysgol gymunedol gynnwys y canlynol—

a

y pennaeth, onid yw'n ymddiswyddo yn unol â rheoliad 26(1);

b

llywodraethwyr ym mhob un o'r categorïau a bennir yng ngholofn gyntaf y tabl isod, yn y niferoedd a bennir ym mha un bynnag o'r colofnau eraill sy'n berthnasol i'r ysgol.

TABL

Categori llywodraethwr

Ysgol uwchradd-arferol

Ysgol uwchradd-dewis os oes llai na 600 o ddisgyblion cofrestredig

Ysgol gynradd-arferol

Ysgol gynradd-dewis os oes llai na 100 o ddisgyblion cofrestredig

Rhiant- Lywodraethwyr

6

5

4 neu 5

3

Llywodraethwyr AALl

5

4

3 neu 4

2

Athro- Lywodraethwyr

2

2

1 neu 2

1

Staff- lywodraethwyr

1

1

1

1 neu 0

Llywodraethwyr Cymunedol

5

4

3 neu 4

2

2

Mae'r dewis o fod â chorff llywodraethu llai â chyfansoddiad yn unol â'r trydydd neu'r bumed golofn ar gael—

a

yn achos ysgol uwchradd, pan fo gan yr ysgol lai na 600 o ddisgyblion cofrestredig, a

b

yn achos ysgol gynradd, pan fo gan yr ysgol lai na 100 o ddisgyblion cofrestredig.

3

Yn achos y dewisiadau a bennir ym mhedwaredd golofn y tabl, rhaid i gyfansoddiad corff llywodraethu ysgol gynradd y mae'r golofn honno'n gymwys iddi adlewyrchu un ai pob dewis cyntaf neu bob ail ddewis.

Ysgolion Meithrin a Gynhelir14

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i gorff llywodraethu ysgol feithrin a gynhelir gynnwys y canlynol—

a

y pennaeth, onid yw'n ymddiswyddo yn unol â rheoliad 26(1);

b

llywodraethwyr ym mhob un o'r categorïau a bennir yng ngholofn gyntaf y tabl isod, yn y niferoedd a bennir ym mha un bynnag o golofnau 2 neu 3 sy'n berthnasol i'r ysgol.

TABL

Categori llywodraethwr

Arferol

Dewis os oes llai na 100 o ddisgyblion cofrestredig

Rhiant- Lywodraethwyr

4 neu 5

3

Llywodraethwyr AALl

3 neu 4

2

Athro- Lywodraethwyr

1 neu 2

1

Staff- lywodraethwyr

1

1 neu 0

Llywodraethwyr Cymunedol

3 neu 4

2

2

Mae'r dewis o fod â chorff llywodraethau llai â chyfansoddiad yn unol â'r trydydd golofn ar gael yn achos ysgol feithrin a gynhelir pan fo gan yr ysgol lai na 100 o ddisgyblion cofrestredig.

3

Gall offeryn llywodraethu ysgol feithrin a gynhelir ddarparu ar gyfer un categori o staff-lywodraethwr yn hytrach na'r ddau gategori o athro-lywodraethwr a staff-lywodraethwr, yn y niferoedd hynny, heb fod yn llai nag un, a fo'n cael eu pennu yn yr offeryn llywodraethu.

4

Yn achos y dewisiadau a bennir yn ail golofn y tabl, rhaid i gyfansoddiad corff llywodraethu ysgol feithrin a gynhelir y mae'r golofn honno'n gymwys iddi adlewyrchu un ai pob dewis cyntaf neu bob ail ddewis.

Ysgolion arbennig cymunedol15

1

Rhaid i gorff llywodraethu ysgol arbennig gymunedol gynnwys y canlynol—

a

y pennaeth, onid yw'n ymddiswyddo yn unol â rheoliad 26(1),

b

yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), llywodraethwyr ym mhob un o'r categorïau a bennir yng ngholofn gyntaf y tabl isod, yn y niferoedd a bennir un ai yn yr ail neu'r trydydd golofn.

TABL

Categori llywodraethwr

Arferol

Dewis os oes llai na 100 o ddisgyblion cofrestredig

Rhiant- Lywodraethwyr

4 neu 5

3

Llywodraethwyr AALl

3 neu 4

2

Athro- Lywodraethwyr

1 neu 2

1

Staff- lywodraethwyr

1

1 neu 0

Llywodraethwyr Cymunedol

3 neu 4

2

2

Mae'r dewis o fod â chorff llywodraethu llai â chyfansoddiad yn unol â thrydydd golofn y tabl felly ar gael pa un a oes gan yr ysgol lai na 100 o ddisgyblion cofrestredig ai peidio.

3

Yn achos y dewisiadau a bennir yn ail golofn y tabl, rhaid i gyfansoddiad corff llywodraethu ysgol arbennig gymunedol y mae'r golofn honno'n gymwys iddi adlewyrchu un ai pob dewis cyntaf neu bob ail ddewis.

4

Pan fo ysgol arbennig gymunedol wedi'i sefydlu mewn ysbyty rhaid i'r awdurdod addysg lleol ddynodi'n gorff priodol—

a

un bwrdd iechyd lleol neu fwy nag un bwrdd i weithredu ar y cyd, neu

b

Ymddiriedolaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol,

y mae gan yr ysgol y cysylltiad agosaf ag ef a rhaid i'r corff priodol benodi llywodraethwr cynrychioliadol i gymryd lle un o'r nifer o lywodraethwyr cymunedol a bennir ym mha un bynnag o'r ail neu'r trydydd golofn o'r tabl sy'n gymwys i'r ysgol.

5

Pan nad yw ysgol arbennig gymunedol wedi'i lleoli mewn ysbyty—

a

caiff yr awdurdod addysg lleol ddynodi un sefydliad gwirfoddol neu fwy nag un sefydliad o'r fath i weithredu ar y cyd, yn sefydliad gwirfoddol priodol sy'n ymwneud â materion y trefnir yr ysgol yn arbennig ar eu cyfer, a

b

pan fydd sefydliad gwirfoddol priodol wedi ei ddynodi felly, rhaid iddo benodi llywodraethwr cynrychioliadol i gymryd lle un o'r nifer o lywodraethwyr cymunedol a bennir ym mha un bynnag o'r ail neu'r trydydd golofn o'r tabl sy'n gymwys i'r ysgol.

Ysgolion sefydledig16

1

Rhaid i gorff llywodraethu ysgol sefydledig gynnwys y canlynol—

a

y pennaeth, onid yw'n ymddiswyddo yn unol â rheoliad 26(1);

b

llywodraethwyr ym mhob un o'r categorïau a bennir yng ngholofn gyntaf y tabl isod, yn y niferoedd a bennir ym mha un bynnag o'r colofnau eraill sy'n berthnasol i'r ysgol.

TABL

Categori llywodraethwr

Ysgol uwchradd-arferol

Ysgol uwchradd-dewis os oes llai na 600 o ddisgyblion cofrestredig

Ysgol gynradd-arferol

Ysgol gynradd-dewis os oes llai na 100 o ddisgyblion cofrestredig

Rhiant- Lywodraethwyr

7

6

5 neu 6

4

Llywodraethwyr AALl

2

2

2

2

Athro- Lywodraethwyr

2

2

1

1

Staff- lywodraethwyr

1

1

1

1 neu 0

Llywodraethwyr Sefydledig

5

4

3 neu 4

2

Llywodraethwyr Cymunedol

3

2

1

1

2

Pan nad oes gan yr ysgol sefydliad, mae'r cyfeiriad at lywodraethwyr sefydledig yn y golofn gyntaf i'w ddarllen fel cyfeiriad at lywodraethwyr partneriaeth.

3

Mae'r dewis o fod â chorff llywodraethu llai â chyfansoddiad yn unol â'r trydydd neu'r bumed golofn ar gael—

a

yn achos ysgol uwchradd, pan fo gan yr ysgol lai na 600 o ddisgyblion cofrestredig, a

b

yn achos ysgol gynradd, pan fo gan yr ysgol lai na 100 o ddisgyblion cofrestredig.

4

Yn achos y dewisiadau a bennir ym mhedwaredd golofn y tabl, rhaid i gyfansoddiad corff llywodraethu ysgol gynradd y mae'r golofn honno'n gymwys iddi adlewyrchu un ai'r ddau ddewis cyntaf neu'r ddau ail ddewis.

Ysgolion arbennig sefydledig17

1

Rhaid i gorff llywodraethu ysgol arbennig sefydledig gynnwys y canlynol—

a

y pennaeth, onid yw'n ymddiswyddo yn unol â rheoliad 26(1),

b

llywodraethwyr ym mhob un o'r categorïau a bennir yng ngholofn gyntaf y tabl isod, yn y niferoedd a bennir un ai yn yr ail neu yn y trydydd golofn.

TABL

Categori llywodraethwr

Arferol

Dewis os oes llai na 100 o ddisgyblion cofrestredig

Rhiant- Lywodraethwyr

5 neu 6

4

Llywodraethwyr AALl

2

2

Athro- Lywodraethwyr

1

1

Staff- lywodraethwyr

1

1 neu 0

Lywodraethwyr Sefydledig

3 neu 4

2

Llywodraethwyr Cymunedol

1

1

2

Pan nad oes gan yr ysgol sefydliad, mae'r cyfeiriad at lywodraethwyr sefydledig yn y golofn gyntaf i'w ddarllen fel cyfeiriad at lywodraethwyr partneriaeth.

3

Mae'r dewis o fod â chorff llywodraethu llai â chyfansoddiad yn unol â thrydydd golofn y tabl felly ar gael pa un a oes gan yr ysgol lai na 100 o ddisgyblion cofrestredig ai peidio.

4

Yn achos y dewisiadau a bennir yn ail golofn y tabl, rhaid i gyfansoddiad corff llywodraethu ysgol arbennig sefydledig y mae'r golofn honno'n gymwys iddi adlewyrchu un ai'r ddau ddewis cyntaf neu'r ddau ail ddewis.

Ysgolion gwirfoddol a reolir18

1

Rhaid i gorff llywodraethu ysgol wirfoddol a reolir gynnwys y canlynol—

a

y pennaeth, onid yw'n ymddiswyddo yn unol â rheoliad 26(1),

b

llywodraethwyr ym mhob un o'r categorïau a bennir yng ngholofn gyntaf y tabl isod, yn y niferoedd a bennir ym mha un bynnag o'r colofnau eraill sy'n berthnasol i'r ysgol.

TABL

Categori llywodraethwr

Ysgol uwchradd-arferol

Ysgol uwchradd-dewis os oes llai na 600 o ddisgyblion cofrestredig

Ysgol gynradd-arferol

Ysgol gynradd-dewis os oes llai na 100 o ddisgyblion cofrestredig

Rhiant- Lywodraethwyr

6

5

4 neu 5

3

Llywodraethwyr AALl

4

3

3

2

Athro- Lywodraethwyr

2

2

1

1

Staff- lywodraethwyr

1

1

1

1 neu 0

Llywodraethwyr Sefydledig

5

4

3 neu 4

2

Llywodraethwyr Cymunedol

2

2

1

1

2

Mae'r dewis o fod â chorff llywodraethu llai â chyfansoddiad yn unol â'r drydedd neu'r bumed golofn ar gael—

a

yn achos ysgol uwchradd, pan fo gan yr ysgol lai na 600 o ddisgyblion cofrestredig, a

b

yn achos ysgol gynradd, pan fo gan yr ysgol lai na 100 o ddisgyblion cofrestredig.

3

Yn achos y dewisiadau a bennir yn y bedwaredd golofn, rhaid i gyfansoddiad corff llywodraethu ysgol gynradd y mae'r golofn honno'n gymwys iddi adlewyrchu un ai'r ddau ddewis cyntaf neu'r ddau ail ddewis.

Ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir19

1

Rhaid i gorff llywodraethu ysgol wirfoddol a gynorthwyir gynnwys y canlynol—

a

y pennaeth, onid yw'n ymddiswyddo yn unol â rheoliad 26(1),

b

llywodraethwyr ym mhob un o'r categorïau a bennir yng ngholofn gyntaf y tabl isod, niferoedd a bennir ym mha un bynnag o'r colofnau eraill sy'n berthnasol i'r ysgol, ac

c

cynifer o lywodraethwyr sefydledig fel y bydd mwy ohonynt nag o'r llywodraethwyr eraill a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (b)—

i

tri yn fwy, yn achos ysgol y mae'r ail golofn yn gymwys iddi, neu

ii

dau yn fwy, yn achos unrhyw ysgol arall.

TABL

Categori llywodraethwr

Ysgol uwchradd-arferol

Ysgol uwchradd-dewis os oes llai na 600 o ddisgyblion cofrestredig

Ysgol gynradd-arferol

Ysgol gynradd-dewis os oes llai na 100 o ddisgyblion cofrestredig

Rhiant- Lywodraethwyr

3

2

1 neu 2

1

Llywodraethwyr AALl

2

1

1 neu 2

1

Athro- Lywodraethwyr

2

2

1

1

Staff- lywodraethwyr

1

1

1

1 neu 0

2

Mae'r dewis o fod â chorff llywodraethu llai â chyfansoddiad yn unol â'r drydedd neu'r bumed golofn ar gael—

a

yn achos ysgol uwchradd, pan fo gan yr ysgol lai na 600 o ddisgyblion cofrestredig, a

b

yn achos ysgol gynradd, pan fo gan yr ysgol lai na 100 o ddisgyblion cofrestredig.

3

Yn achos y dewisiadau a bennir yn y bedwaredd golofn, rhaid i gyfansoddiad corff llywodraethu ysgol gynradd y mae'r golofn honno'n gymwys iddi adlewyrchu un ai'r ddau ddewis cyntaf neu'r ddau ail ddewis.

4

Rhaid i'r llywodraethwyr sefydledig sy'n ofynnol o dan is-baragraff (1)(c) gynnwys—

a

o leiaf dri llywodraethwr sydd, pan benodir hwy, yn rhieni i ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol, yn achos ysgol y mae'r ail golofn yn gymwys iddi, neu

b

o leiaf ddau lywodraethwr o'r fath yn achos unrhyw ysgol arall.

Ysgolion cynradd a gynhelir20

1

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i—

a

unrhyw ysgol gymunedol, wirfoddol neu sefydledig sy'n ysgol gynradd, a

b

unrhyw ysgol feithrin a gynhelir,

sy'n gwasanaethu ardal sydd ag un neu fwy o gynghorau cymuned.

2

Mae rhaid i offeryn llywodraethu ysgol ddarparu ar gyfer cynnwys yn y corff llywodraethu (yn ychwanegol at y llywodraethwyr sy'n ofynnol yn rhinwedd rheoliadau 13, 14, 16, 18 a 19, yn ôl fel y digwydd) un llywodraethwr cymunedol a enwebir gan y cyngor cymuned.

3

Os yw ysgol yn gwasanaethu ardal sydd â dau neu ragor o gynghorau cymuned, caiff y corff llywodraethu geisio enwebiadau gan un neu ragor o'r cynghorau hynny.

Hysbysu swyddi gwag a phenodiadau21

1

Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), pan fo swydd aelod penodedig o'r corff llywodraethu yn mynd yn wag, rhaid i glerc y corff llywodraethu cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol roi gwybod yn ysgrifenedig am y ffaith honno i'r person sydd â'r hawl i benodi neu enwebu person i'r swydd honno.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i glerc y corff llywodraethu, o leiaf ddeufis cyn y dyddiad y daw tymor swydd aelod penodedig i ben, roi gwybod yn ysgrifenedig am y ffaith honno i'r person sydd â'r hawl i benodi neu enwebu person i'r swydd honno.

3

Nid fydd paragraffau (1) a (2) uchod yn gymwys pan fo'r person sydd â'r hawl i benodi person i'r swydd dan sylw eisoes wedi rhoi gwybod yn ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu pwy yw'r person a benodwyd neu a enwebwyd.

4

Pan fo unrhyw berson ar wahân i gorff llywodraethu yn penodi neu'n enwebu person i'w benodi i'r corff llywodraethu, rhaid iddo roi gwybod yn ysgrifenedig am y penodiad neu'r enwebiad i glerc y corff llywodraethu gan nodi enw'r person a benodir neu a enwebir felly ynghyd â'i breswylfa arferol.

5

At ddiben y rheoliad hwn, ystyr “aelod penodedig” (“appointed member”) yw—

a

llywodraethwr sefydledig;

b

llywodraethwr AALl;

c

llywodraethwr cymunedol (gan gynnwys llywodraethwr cymunedol ychwanegol);

ch

llywodraethwr cynrychioliadol;

d

noddwr-lywodraethwr; ac

dd

llywodraethwr partneriaeth.

Cyd-benodiadau22

Os—

a

yw offeryn llywodraethu ysgol yn darparu ar gyfer penodi un neu ragor o'r llywodraethwyr gan bersonau sy'n gweithredu ar y cyd, a

b

os yw'r personau hynny'n methu â chytuno ar benodiad,

bydd y penodiad yn cael ei wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'n unol â chyfarwyddyd a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol hwnnw.

Gormod o lywodraethwyr23

1

Pan fo gan ysgol a gynhelir fwy o lywodraethwyr o gategori arbennig na'r nifer y mae offeryn llywodraethu'r ysgol yn darparu ar eu cyfer, rhaid i gynifer o lywodraethwyr o'r categori hwnnw ag sy'n ofynnol i ddileu'r gormodedd beidio â dal swydd yn unol â pharagraffau (2) a (3) oni fydd nifer digonol yn ymddiswyddo.

2

Penderfynir pa lywodraethwyr a fydd yn peidio â dal swydd ar sail hynafedd, a'r llywodraethwyr sydd â'r cyfnod cyfredol byrraf fel llywodraethwr o unrhyw gategori yn yr ysgol fydd y cyntaf i beidio â dal swydd.

3

Pan fo angen dewis at ddiben paragraff (2) un neu ragor o lywodraethwyr o blith nifer sydd â'r un hynafedd, rhaid gwneud hynny drwy fwrw coelbren.

4

At ddibenion y rheoliad hwn, caiff llywodraethwyr cymunedol ychwanegol eu trin fel categori o lywodraethwyr ar wahân.

RHAN 4Cymwysterau a deiliadaeth swyddi

Cymwysterau ac anghymwysiadau24

Mae Atodlen 5 yn nodi'r amgylchiadau pan fo person yn gymwys neu'n anghymwys i ddal swydd neu i barhau mewn swydd fel llywodraethwr.

Cyfnod swydd25

1

Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (7) bydd llywodraethwr yn dal swydd am gyfnod penodol o bedair blynedd o ddyddiad ei ethol neu ei benodi.

2

Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw lywodraethwr sy'n bennaeth yr ysgol, nac i unrhyw lywodraethwr sefydledig ex officio, a gaiff ddal swydd cyhyd ag y mae'n dal y swydd y mae ei swydd fel llywodraethwr yn deillio ohoni.

3

Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw lywodraethwr sefydledig y pennir cyfnod ei swydd gan y person a'i penododd, hyd at uchafswm o 4 blynedd.

4

Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw lywodraethwr ychwanegol, llywodraethwr sefydledig ychwanegol nac aelod gweithredol interim a benodir o dan adrannau 169, 16A10, 1811 neu 18A12 o Ddeddf 1998 y pennir cyfnod ei swydd gan y person a'i penododd, hyd at uchafswm o 4 blynedd.

5

Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw riant-lywodraethwr ysgol feithrin a gynhelir a fydd yn dal swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd o ddyddiad ei ethol neu ei benodi.

6

Caiff dirprwy lywodraethwr ddal swydd hyd y cynharaf o'r canlynol—

a

diwedd pedair blynedd o'r dyddiad y daw ei benodiad i rym;

b

y dyddiad y bydd y llywodraethwr gwreiddiol (ond yw wedi ei ddiswyddo o dan reoliad 27 (2)) yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu yn nodi y gall weithredu fel llywodraethwr sefydledig a'i fod yn fodlon gwneud hynny; neu

c

y dyddiad y bydd person ar wahân i'r llywodraethwr gwreiddiol yn cymryd y swydd y mae swydd y llywodraethwr sefydledig ex officio yn bodoli o'i herwydd.

7

Nid yw'r rheoliad hwn yn rhwystro llywodraethwr rhag—

a

cael ei ethol neu ei benodi am gyfnod pellach, ac eithrio fel y darperir fel arall yn y Rheoliadau hyn;

b

ymddiswyddo yn unol â rheoliad 26(1);

c

cael ei ddiswyddo o dan reoliadau 27 i 29; neu

ch

cael ei anghymhwyso, yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, rhag dal neu barhau i ddal swydd.

8

Yn y rheoliad hwn ystyr “y llywodraethwr gwreiddiol” (“the original governor”) yw'r llywodraethwr sefydledig ex officio y penodir y dirprwy lywodraethwr i weithredu yn ei le.

Ymddiswyddo26

1

Caiff llywodraethwr ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu.

2

Caiff y pennaeth dynnu ei ymddiswyddiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu.

3

Caiff llywodraethwr sefydledig ex officio ymddiswyddo fel llywodraethwr naill ai'n barhaol neu dros dro, ond ni fydd ei ymddiswyddiad yn niweidio swydd llywodraethwr ex officio ei olynydd yn y swydd y mae ei swydd fel llywodraethwr ex officio yn deillio ohoni.

Diswyddo llywodraethwyr AALl, llywodraethwyr sefydledig, llywodraethwyr cynrychioliadol llywodraethwyr cymunedol ychwanegol a noddwr-lywodraethwyr27

1

Caiff y person a'i penododd ddiswyddo unrhyw lywodraethwr AALl, llywodraethwr sefydledig neu lywodraethwr cynrychioliadol, a rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig o hynny i glerc y corff llywodraethu ac i'r llywodraethwr a ddiswyddir.

2

Caiff y person a enwir yn yr offeryn llywodraethu fel y person sydd â'r hawl i'w ddiswyddo, ddiswyddo unrhyw lywodraethwr sefydledig ex officio, a rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig o hynny i glerc y corff llywodraethu ac i'r llywodraethwr a ddiswyddir.

3

Caiff y person a'i henwebodd ddiswyddo unrhyw lywodraethwr cymunedol ychwanegol neu noddwr-lywodraethwr, a rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu ac i'r llywodraethwr a ddiswyddir.

Diswyddo llywodraethwyr cymunedol28

Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo unrhyw lywodraethwr cymunedol (ac eithrio llywodraethwr cymunedol ychwanegol) yn unol â'r weithdrefn a nodir yn rheoliad 30.

Diswyddo rhiant-lywodraethwyr penodedig a llywodraethwyr partneriaeth29

Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo unrhyw riant-lywodraethwr a benodwyd gan y corff llywodraethu o dan baragraffau 10 i 12 o Atodlen 1 neu unrhyw lywodraethwr partneriaeth yn unol â'r weithdrefn a nodir yn rheoliad 30.

Y weithdrefn ar gyfer diswyddo llywodraethwyr gan y corff llywodraethu30

1

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â diswyddo llywodraethwr yn unol â rheoliad 28 neu 29.

2

Ni fydd penderfyniad a gaiff ei basio mewn cyfarfod o'r corff llywodraethu i ddiswyddo llywodraethwr yn effeithiol oni bai—

a

fod y llywodraethwr neu'r llywodraethwyr sy'n cynnig ei ddiswyddo, cyn i'r corff llywodraethu benderfynu diswyddo'r llywodraethwr, yn nodi yn y cyfarfod hwnnw eu rhesymau dros wneud hynny ac y rhoddir cyfle i'r llywodraethwr y cynigir ei ddiswyddo wneud datganiad i ymateb; ac

b

y pennir mater diswyddo'r llywodraethwr fel eitem benodol o fusnes ar agenda'r cyfarfod.

3

Ar ôl pasio penderfyniad i ddiswyddo llywodraethwr rhaid i'r corff llywodraethu roi gwybod yn ysgrifenedig i'r person a ddiswyddir y rhesymau dros y diswyddo.

RHAN 5Offeryn Llywodraethu

Dehongli “awdurdod esgobaethol priodol” a “corff crefyddol priodol”31

Yn y Rhan hon,

  • mae i “awdurdod esgobaethol priodol” yr ystyr a roddir i “appropriate diocesan authority” gan adran 142(1) a (4) o Ddeddf 1998;

  • ystyr “corff crefyddol priodol” (“appropriate religious body”), mewn perthynas ag ysgol a ddynodir o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 yn un sydd o gymeriad crefyddol nad yw'n un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru na'r Eglwys Gatholig Rufeinig, yw'r corff y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ei ystyried yn briodol mewn perthynas â'r grefydd neu'r enwad crefyddol y perthyn yr ysgol iddi neu iddo.

Y ddyletswydd i ystyried canllawiau32

Mewn perthynas â gwneud offerynnau llywodraethu, y materion i ymdrin â hwy mewn offerynnau o'r fath, ffurf offerynnau o'r fath, ac adolygu ac amrywio offerynnau o'r fath, rhaid i gyrff llywodraethu ac awdurdodau addysg lleol ystyried unrhyw ganllawiau a roddir o bryd i'w gilydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynnwys a ffurf yr offeryn llywodraethu33

1

Rhaid i offeryn llywodraethu ysgol a gynhelir nodi—

a

enw'r ysgol;

b

y categori o ysgol y perthyn yr ysgol iddo;

c

enw corff llywodraethu'r ysgol;

ch

y cyfansoddiad a fydd i'r corff llywodraethu yn unol â Rhan 3, gan bennu—

i

nifer y llywodraethwyr ym mhob categori o lywodraethwr,

ii

y categorïau o bersonau, o'u plith neu o blith eu haelodau, yr awdurdodir enwebu unrhyw lywodraethwr cymunedol ychwanegol neu noddwr-lywodraethwr ar gyfer ei benodi gan y Rheoliadau hyn; a

iii

cyfanswm nifer aelodau'r corff llywodraethu;

d

pan fo cyfnod swydd categori o lywodraethwr i fod yn llai na phedair blynedd, cyfnod y swydd honno;

dd

pan fo gan ysgol lywodraethwyr sefydledig—

i

enw unrhyw un sydd â'r hawl i benodi llywodraethwyr o'r fath ac, os oes mwy nag un person o'r fath â'r hawl i benodi, y sail ar gyfer gwneud penodiadau o'r fath,

ii

manylion unrhyw swydd llywodraethwr sefydledig sydd i'w dal ex officio gan ddeiliad swydd a enwir, a

iii

enw unrhyw un sydd â'r hawl i ddiswyddo unrhyw lywodraethwr sefydledig ex officio a phenodi unrhyw ddirprwy lywodraethwr;

e

pan fo'r ysgol yn ysgol arbennig gymunedol, enw unrhyw gorff priodol neu sefydliad gwirfoddol priodol sydd â'r hawl i enwebu person i'w benodi'n llywodraethwr cynrychioladol o dan reoliad 15(4) neu (5);

f

pan fo ymddiriedolaeth yn gysylltiedig â'r ysgol, y ffaith honno;

ff

pan fo ysgol yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol a ddynodir o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 fel un sy'n meddu ar gymeriad crefyddol, disgrifiad o ethos crefyddol yr ysgol; ac

g

y dyddiad y daw'r offeryn llywodraethu i rym, na chaiff fod cyn 1 Ionawr 2006.

2

Rhaid i'r ffordd y cyfansoddir y corff llywodraethu, fel y nodir yn unol ag is-baragraff (1) (ch), gydymffurfio â darpariaethau'r Rheoliadau hyn fel y maent yn gymwys i ysgol yn y categori y perthyn yr ysgol iddo.

3

Pan fo'n berthnasol, at ddibenion Rhan 3, penderfynu faint o ddisgyblion cofrestredig sydd yn yr ysgol, penderfynir y nifer honno fel pe ar y dyddiad y gwneir yr offeryn.

4

Rhaid i'r offeryn llywodraethu (yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth statudol) gydymffurfio ag unrhyw ymddiriedolaeth sy'n gysylltiedig â'r ysgol.

Y weithdrefn ar gyfer gwneud offeryn34

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid i'r corff llywodraethu baratoi drafft o'r offeryn llywodraethu a'i gyflwyno i'r awdurdod addysg lleol.

2

Pan fo gan ysgol lywodraethwyr sefydledig, rhaid i'r corff llywodraethu beidio â chyflwyno'r drafft i'r awdurdod addysg lleol hyd nes y bydd wedi ei gymeradwyo gan—

a

y llywodraethwyr sefydledig;

b

unrhyw ymddiriedolwyr o unrhyw ymddiriedolaeth sy'n gysylltiedig â'r ysgol;

c

yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu'r Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol; ac

ch

yn achos unrhyw ysgol arall a ddynodir o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 fel un sy'n meddu ar gymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

3

Pan geir y drafft rhaid i'r awdurdod addysg lleol ystyried a yw'n cydymffurfio â'r holl ddarpariaethau statudol cymwys, ac—

a

os yw'n fodlon bod y drafft yn cydymffurfio fel hynny, neu

b

os oes cytundeb rhyngddo, y corff llywodraethu ac (os oes gan yr ysgol lywodraethwyr sefydledig) y personau a grybwyllir ym mharagraff (2) y dylid diwygio'r drafft i unrhyw raddau a bod y drafft diwygiedig yn cydymffurfio â phob un o'r darpariaethau statudol sy'n gymwys,

rhaid i'r offeryn llywodraethu gael ei wneud ganddo ar ffurf y drafft neu (yn ôl fel y digwydd) ar ffurf y drafft diwygiedig.

4

Os bydd y personau a restrir ym mharagraff (2), yn achos ysgol sydd â llywodraethwyr sefydledig, ar unrhyw adeg yn anghytuno â'r drafft, caiff unrhyw un neu unrhyw rai o'r personau hynny ei gyfeirio at Gynulliad Cenedlaethol Cymru a rhaid i'r Cynulliad roi cyfarwyddyd fel y gwêl yn dda gan ystyried, yn arbennig, y categori o ysgol y perthyn yr ysgol iddo.

5

Os nad yw'r naill na'r llall o is-baragraffau (a) a (b) o baragraff (3) yn gymwys yn achos ysgol nad oes ganddi lywodraethwyr sefydledig, rhaid i'r awdurdod addysg lleol—

a

roi gwybod i'r corff llywodraethu pam nad yw'n fodlon â'r offeryn llywodraethu drafft, a

b

rhoi cyfle rhesymol i'r corff llywodraethu ddod i gytundeb ag ef ynghylch diwygio'r drafft;

a rhaid iddo wneud yr offeryn llywodraethu naill ai ar ffurf drafft diwygiedig y bydd ef a'r corff llywodraethu yn cytuno yn ei gylch neu (yn niffyg cytundeb o'r fath) ar ffurf fel y gwêl yn dda gan ystyried, yn arbennig, y categori o ysgol y perthyn yr ysgol iddo.

6

Yn achos ysgol feithrin a gynhelir, rhaid i'r awdurdod addysg lleol baratoi a gwneud yr offeryn llywodraethu cyntaf.

Adolygu offerynnau llywodraethu35

1

Caiff y corff llywodraethu neu'r awdurdod addysg lleol adolygu'r offeryn llywodraethu ar unrhyw adeg wedi iddo gael ei wneud.

2

Os bydd y corff llywodraethu neu'r awdurdod addysg lleol yn penderfynu wedi unrhyw adolygiad y dylid amrywio'r offeryn llywodraethu, rhaid i'r corff llywodraethu neu (yn ôl fel y digwydd) yr awdurdod addysg lleol roi gwybod i'r llall am yr amrywiad a gynigir ganddo ynghyd â'i resymau dros gynnig amrywiad o'r fath.

3

Pan fo'r corff llywodraethu wedi derbyn hysbysiad o dan baragraff (2), rhaid iddo hysbysu'r awdurdod addysg lleol a yw'n fodlon â'r amrywiad a gynigir ai peidio ac, os nad yw'n fodlon, am ba resymau.

4

Pan fo gan ysgol lywodraethwyr sefydledig, rhaid i'r corff llywodraethu beidio â rhoi i'r awdurdod addysg lleol—

a

unrhyw hysbysiad o dan baragraff (2), na

b

hysbysu'r awdurdod o dan baragraff (3) ei fod yn fodlon â'r amrywiad a gynigir gan yr awdurdod,

oni fo'r personau a restrir yn rheoliad 34(2) wedi cymeradwyo'r amrywiad a gynigir.

5

Os—

a

yw y corff llywodraethu neu'r awdurdod addysg lleol, pa un bynnag sy'n cael hysbysiad o dan baragraff (2), yn cytuno â'r amrywiad a gynigir, neu

b

oes cytundeb rhwng yr awdurdod addysg lleol, y corff llywodraethu ac (os oes gan yr ysgol lywodraethwyr sefydledig) y personau eraill a restrir yn rheoliad 34(2) y dylid gwneud rhyw amrywiad arall yn hytrach,

rhaid i'r awdurdod addysg lleol amrywio'r offeryn llywodraethu yn unol â hynny.

6

Os bydd, yn achos ysgol sydd â llywodraethwyr sefydledig, y personau a restrir yn rheoliad 34(2) ar unrhyw adeg yn anghytuno â'r amrywiad a gynigir, caiff unrhyw un neu unrhyw rai o'r personau hynny ei gyfeirio at Gynulliad Cenedlaethol Cymru; ac o gyfeirio felly, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru roi cyfarwyddyd fel y gwêl yn dda gan ystyried, yn arbennig, y categori o ysgol y perthyn yr ysgol iddo.

7

Os nad yw is-baragraffau (a) na (b) o baragraff (5) yn gymwys yn achos ysgol nad oes ganddi lywodraethwyr sefydledig, rhaid i'r awdurdod addysg lleol—

a

rhoi gwybod i'r corff llywodraethu y rhesymau—

i

pam nad yw'n fodlon â'r amrywiad a gynigir gan y corff llywodraethu, neu yn ôl fel y digwydd,

ii

pam y mae'n dymuno mynd ymlaen â'i amrywiad ei hun, a

b

rhoi cyfle rhesymol i'r corff llywodraethu ddod i gytundeb ag ef mewn perthynas â'r amrywiad;

a rhaid i'r offeryn llywodraethu gael ei amrywio ganddo naill ai yn y modd y cytunwyd arno rhyngddo a'r corff llywodraethu neu (yn niffyg cytundeb o'r fath) mewn modd fel y gwêl yn dda gan ystyried, yn arbennig, y categori o ysgol y perthyn yr ysgol iddo.

8

Ni ddylid ystyried bod dim yn y rheoliad hwn yn golygu ei bod yn ofynnol i'r awdurdod addysg lleol amrywio'r offeryn llywodraethu os na chred ei bod yn briodol gwneud hynny.

9

Pan amrywir offeryn llywodraethu o dan y rheoliad hwn—

a

rhaid i'r offeryn nodi'r dyddiad y daw'r amrywiad i rym; a

b

mae rheoliad 33(3) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw amrywiad sy'n ymwneud â'r ffordd y mae'r corff llywodraethu i'w gyfansoddi fel petai'n cyfeirio at y dyddiad y gwneir yr amrywiad yn hytrach na'r dyddiad y gwneir yr offeryn.

Gofynion eraill yn ymwneud ag offerynnau llywodraethu36

1

Rhaid i'r awdurdod addysg lleol sicrhau y darperir yn rhad ac am ddim i'r personau a nodir ym mharagraff (2)—

a

copi o offeryn llywodraethu'r ysgol, a

b

os gwneir unrhyw amrywiad i offeryn llywodraethu ysgol, fersiwn gyfunol o'r offeryn llywodraethu yn ymgorffori pob amrywiad a wnaed gan yr awdurdod addysg lleol (ac eithrio unrhyw amrywiadau nad ydynt bellach mewn grym).

2

I'r personau canlynol y dylid darparu'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1)—

a

pob aelod o gorff llywodraethu'r ysgol;

b

y pennaeth, pa un a yw'r pennaeth yn aelod o'r corff llywodraethu ai peidio;

c

ymddiriedolwyr unrhyw ymddiriedolaeth sy'n gysylltiedig â'r ysgol;

ch

yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu'r Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol; a

d

yn achos unrhyw ysgol arall a ddynodir o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 fel un sy'n meddu ar gymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

Y ddyletswydd i sicrhau bod offerynnau llywodraethu yn cael eu gwneud37

Rhaid i awdurdod addysg lleol wneud offeryn llywodraethu yn unol â'r Rheoliadau hyn—

a

ar gyfer pob ysgol feithrin a gynhelir ganddo, erbyn 31 Mawrth 2006 fan bellaf, a

b

ar gyfer pob ysgol arall a gynhelir ganddo, erbyn 31 Awst 2008 fan bellaf.

RHAN 6Darpariaeth Drosiannol

Darpariaeth drosiannol38

Mae Atodlen 6 i gael effaith at ddiben parhau cyfnod swydd llywodraethwyr pan newidir i offeryn llywodraethu a wneir yn unol â'r Rheoliadau hyn.

RHAN 7Penodi swyddogion, eu swyddogaethau, a'u diswyddo

Ethol y cadeirydd a'r is-gadeirydd39

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i adran 18 o Ddeddf 199813 (Pŵer Cynulliad Cenedlaethol Cymru i benodi llywodraethwyr ychwanegol), rhaid i'r corff llywodraethu ethol cadeirydd ac is-gadeirydd o blith ei aelodau yn flynyddol.

2

Nid yw llywodraethwr y telir iddo am weithio yn yr ysgol neu sy'n ddisgybl yn yr ysgol yn gymwys i fod yn gadeirydd neu'n is-gadeirydd corff llywodraethu'r ysgol honno.

3

Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), bydd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd yn dal swydd hyd nes y bydd ei olynydd wedi ei ethol yn unol â pharagraff (1).

4

Caiff y cadeirydd neu'r is-gadeirydd ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu.

5

Daw swydd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd i ben—

a

pan fydd yn peidio â bod yn aelod o'r corff llywodraethu;

b

os telir iddo am weithio yn yr ysgol dan sylw;

c

os diswyddir ef yn unol â rheoliad 41 neu os cymerir ei le gan gadeirydd a enwebwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 18 o Ddeddf 1998; neu

ch

yn achos yr is-gadeirydd, os etholir ef yn unol â pharagraff (6) i lenwi swydd wag y cadeirydd.

6

Pan ddaw swydd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd yn wag, rhaid i'r corff llywodraethu yn ei gyfarfod nesaf ethol un o'u plith i lenwi'r swydd honno, yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i adran 18 o Ddeddf 1998.

7

Rhaid cynnal unrhyw etholiad a ymleddir i fod yn gadeirydd neu is-gadeirydd drwy bleidlais gudd.

8

Pan fydd y cadeirydd yn absennol o unrhyw gyfarfod neu os bydd swydd y cadeirydd yn wag ar y pryd, bydd yr is-gadeirydd yn gweithredu fel cadeirydd ym mhob diben.

9

Os bydd yr is-gadeirydd yn yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (8) yn absennol o'r cyfarfod neu os bydd swydd yr is-gadeirydd yn wag ar y pryd, rhaid i'r corff llywodraethu ethol un o'u plith i weithredu fel cadeirydd at ddibenion y cyfarfod hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraff (2).

10

Bydd clerc y corff llywodraethu yn gweithredu fel cadeirydd yn ystod y rhan honno o unrhyw gyfarfod yr etholir y cadeirydd ynddi.

Dirprwyo swyddogaethau i'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd mewn achosion brys40

1

Bydd gan y cadeirydd bŵer, pan fo'r amgylchiadau ym mharagraff (2) yn gymwys yn ei farn ef, i arfer unrhyw swyddogaethau o eiddo'r corff llywodraethu y gellir eu dirprwyo o dan reoliad 50(1).

2

Yr amgylchiadau hynny yw y byddai oedi cyn arfer y swyddogaeth yn debygol o fod yn ddifrifol niweidiol i fuddiannau—

a

yr ysgol;

b

unrhyw ddisgybl yn yr ysgol, neu ei riant; neu

c

person sy'n gweithio yn yr ysgol.

3

Ym mharagraff (2), ystyr “oedi” (“delay”) yw oedi am gyfnod sy'n ymestyn y tu hwnt i'r dyddiad cynharaf y byddai'n rhesymol ymarferol cynnal cyfarfod o'r corff llywodraethu, neu o bwyllgor y dirprwywyd y swyddogaeth dan sylw iddo.

4

Pan ymddengys i'r is-gadeirydd—

a

fod yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (2) yn gymwys, a

b

na fyddai'r cadeirydd (oherwydd bod y swydd yn wag neu am reswm arall) yn gallu arfer y swyddogaeth dan sylw cyn i'r niwed y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw ddigwydd,

darllenir y cyfeiriad at y cadeirydd ym mharagraff (1) fel pe bai'n gyfeiriad at yr is-gadeirydd.

Diswyddo'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd41

1

Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), caiff y corff llywodraethu drwy benderfyniad ddiswyddo'r cadeirydd, onis enwebwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 18 o Ddeddf 1998.

2

Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), caiff y corff llywodraethu drwy benderfyniad ddiswyddo'r is-gadeirydd.

3

Ni fydd penderfyniad i ddiswyddo'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd yn effeithiol oni fo'r mater wedi ei bennu fel eitem o fusnes ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod, y rhoddwyd hysbysiad ohono yn unol â rheoliad 45(7).

4

Cyn i'r corff llywodraethu benderfynu diswyddo'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd, rhaid i'r llywodraethwr sy'n cynnig ei ddiswyddo ddatgan yn y cyfarfod hwnnw ei resymau dros wneud hynny a rhaid rhoi cyfle i'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd (yn ôl fel y digwydd) ymateb drwy wneud datganiad, cyn mynd allan o'r cyfarfod.

Penodi a diswyddo clerc y corff llywodraethu42

1

Ni fydd y rheoliad hwn yn amharu ar unrhyw hawliau a chyfrifoldebau a all fod gan y clerc o dan unrhyw gontract â'r corff llywodraethu neu â'r awdurdod addysg lleol.

2

Rhaid i'r corff llywodraethu benodi clerc i'r corff llywodraethu.

3

Ni chaiff clerc y corff llywodraethu fod—

a

yn llywodraethwr;

b

yn aelod nad yw'n llywodraethwr o unrhyw un o bwyllgorau'r corff llywodraethu;

nac

c

yn bennaeth yr ysgol.

4

Er gwaethaf paragraff (2) caiff y corff llywodraethu, os metha'r clerc â mynychu un o'u cyfarfodydd, benodi unrhyw un o'u plith (ond nid y pennaeth) i weithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod hwnnw.

5

Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo clerc y corff llywodraethu.

6

Os nad oes gan yr ysgol ar unrhyw adeg gyllideb ddirprwyedig14, caiff yr awdurdod addysg lleol ddiswyddo clerc y corff llywodraethu a phenodi dirprwy, ar yr amod bod yr awdurdod addysg lleol yn ymgynghori â'r corff llywodraethu cyn gweithredu fel hynny.

Swyddogaethau clerc y corff llywodraethu43

1

Rhaid i glerc y corff llywodraethu—

a

gynnull cyfarfodydd y corff llywodraethu yn unol â rheoliad 45;

b

mynychu cyfarfodydd y corff llywodraethu a sicrhau bod cofnodion y trafodion yn cael eu cynhyrchu yn unol â rheoliad 47(1);

c

cadw cofrestr o aelodau'r corff llywodraethu ac adrodd am unrhyw leoedd gwag wrth y corff llywodraethu;

ch

cadw cofrestr o bresenoldeb llywodraethwyr mewn cyfarfodydd ac adrodd ar unrhyw ddiffyg presenoldeb wrth y corff llywodraethu;

d

rhoi a derbyn hysbysiadau yn unol â

rheoliadau 21 (Hysbysu swyddi gwag a phenodiadau), 26 (Ymddiswyddo), 27 (Diswyddo llywodraethwyr), 39(4) (Ymddiswyddiad y cadeirydd neu'r is-gadeirydd) a 45(4) (cynnull cyfarfodydd) o, a pharagraff 13 o Atodlen 5 (Hysbysiad o anghymhwyso) i, y Rheoliadau hyn.

dd

adrodd wrth y corff llywodraethu fel sy'n ofynnol ar gyflawni ei swyddogaethau; ac

e

cyflawni pa swyddogaethau eraill bynnag a benderfynir gan y corff llywodraethu o bryd i'w gilydd.

2

Caiff clerc y corff llywodraethu ddarparu cyngor iddo ar ei swyddogaethau a gweithdrefnau.

RHAN 8Cyfarfodydd a thrafodion cyrff llywodraethu

Hawl personau i fynychu cyfarfodydd y corff llywodraethu44

—Yn ddarostyngedig i reoliad 63 o, ac Atodlen 7 i, y Rheoliadau hyn mae gan y personau canlynol yr hawl i fynychu unrhyw un o gyfarfodydd y corff llywodraethu—

a

yn ddarostyngedig i reoliad 49, llywodraethwr;

b

pennaeth yr ysgol, boed yn llywodraethwr neu beidio;

c

clerc y corff llywodraethu; ac

ch

personau eraill y bo'r corff llywodraethu yn penderfynu yn eu cylch.

Cynnull cyfarfodydd y corff llywodraethu45

1

Rhaid i'r corff llywodraethu gynnal un cyfarfod o leiaf yn ystod pob tymor ysgol.

2

Rhaid i gyfarfodydd y corff llywodraethu gael eu cynnull gan y clerc ac, heb amharu ar baragraff (3), wrth arfer y swyddogaeth hon rhaid i'r clerc gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan—

a

y corff llywodraethu; neu

b

y cadeirydd, i'r graddau nad yw unrhyw gyfarwyddyd o'r fath yn anghyson ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan is-baragraff (a).

3

Caiff unrhyw dri aelod o'r corff llywodraethu ofyn am gyfarfod drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r clerc sy'n cynnwys crynodeb o'r busnes sydd i'w drafod; a rhaid i'r clerc gynnull cyfarfod cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

4

Yn ddarostyngedig i baragraffau (5), (6) a (7), rhaid i'r clerc roi hysbysiad ysgrifenedig o'r cyfarfod, copi o'r agenda, ac unrhyw adroddiadau neu bapurau eraill sydd i'w hystyried yn y cyfarfod o leiaf bum niwrnod gwaith clir ymlaen llaw i—

a

pob llywodraethwr;

b

y pennaeth (boed yn llywodraethwr neu beidio); ac

c

yr awdurdod addysg lleol.

5

Pan fo'r cadeirydd yn penderfynu hynny, ar y sail bod materion sy'n galw am sylw brys, bydd yn ddigon i'r hysbysiad ysgrifenedig am y cyfarfod nodi'r ffaith honno ac i'r hysbysiad, y copi o'r agenda, yr adroddiadau a'r papurau eraill sydd i'w hystyried gael eu rhoi o fewn cyfnod byrrach yn ôl ei gyfarwyddyd.

6

Mae'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyfarfod lle bo—

a

diswyddo'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd,

b

atal unrhyw lywodraethwr,

c

diswyddo llywodraethwr cymunedol neu noddwr-lywodraethwr, neu

ch

penderfyniad i gyflwyno hysbysiad i ddirwyn yr ysgol i ben o dan adran 30 o Ddeddf 1998

i gael ei ystyried.

7

Pan fo paragraff (6) yn gymwys—

a

rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'r cyfarfod, copi o'r agenda ac unrhyw adroddiadau neu bapurau eraill i'w hystyried yn y cyfarfod o leiaf saith niwrnod gwaith clir ymlaen llaw; a

b

nid yw pŵer y cadeirydd i roi cyfarwyddyd i gynnal cyfarfod o fewn cyfnod byrrach yn gymwys.

8

Caiff yr is-gadeirydd arfer swyddogaethau'r cadeirydd yn y rheoliad hwn yn absenoldeb y cadeirydd neu os bydd swydd y cadeirydd yn wag.

9

Ni chaiff cyfarfod o'r corff llywodraethu ei annilysu oherwydd nad yw unrhyw berson wedi cael hysbysiad ysgrifenedig o'r cyfarfod neu gopi o'r agenda.

Cworwm a thrafodion y corff llywodraethu46

1

Y cworwm ar gyfer cyfarfod o'r corff llywodraethu ac ar gyfer unrhyw bleidlais ar unrhyw fater mewn cyfarfod o'r fath yw hanner (wedi ei dalgrynnu i fyny i rif cyfan) aelodaeth y corff llywodraethu heb gynnwys unrhyw leoedd gwag nac unrhyw lywodraethwyr sydd wedi eu hatal o'r cyfarfod hwnnw yn unol â rheoliad 49.

2

Rhaid i bob cwestiwn sydd i'w benderfynu mewn cyfarfod o'r corff llywodraethu gael ei ddyfarnu drwy fwyafrif o bleidleisiau'r llywodraethwyr sy'n bresennol ac yn pleidleisio ar y mater.

3

Pan fo'r pleidleisiau wedi eu rhannu'n gyfartal bydd gan y cadeirydd neu, yn ôl fel y digwydd, y person sy'n gweithredu fel cadeirydd at ddibenion y cyfarfod (ar yr amod bod person o'r fath yn llywodraethwr) ail bleidlais neu bleidlais fwrw.

4

Ni fydd unrhyw benderfyniad i gyflwyno hysbysiad i gau'r ysgol o dan adran 30 o Ddeddf 1998 yn effeithiol, pa un a gymerir ef gan y corff llywodraethu ynteu gan bwyllgor, oni chaiff ei gadarnhau gan y corff llywodraethu mewn cyfarfod a gynhelir heb fod yn llai na 28 diwrnod wedi'r cyfarfod y gwnaed y penderfyniad ynddo ac—

a

oni bennir y mater yn eitem o fusnes ar agenda'r ddau gyfarfod; a

b

oni roddir hysbysiad o'r ail gyfarfod yn unol â rheoliad 45(7).

5

Ni chaiff trafodion corff llywodraethu ysgol eu hannilysu gan—

a

unrhyw le gwag ymhlith ei aelodau;

b

unrhyw ddiffyg wrth ethol, penodi nac enwebu unrhyw lywodraethwr;

c

unrhyw ddiffyg wrth benodi'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd; neu

ch

y ffaith bod gan yr ysgol fwy o lywodraethwyr o gategori arbennig nag y darperir ar eu cyfer gan yr offeryn llywodraethu15.

Cofnodion a phapurau47

1

Rhaid i'r clerc (neu'r person a benodir i weithredu fel clerc at ddiben y cyfarfod yn unol â rheoliad 42(4)) sicrhau bod cofnodion trafodion cyfarfod o'r corff llywodraethu'n cael eu llunio a'u llofnodi (yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y corff llywodraethu) gan y cadeirydd (neu gan y person sy'n gweithredu fel cadeirydd) yn y cyfarfod nesaf.

2

Rhaid i gofnodion y trafodion gael eu rhoi mewn llyfr a gedwir at y diben gan y clerc a gellir eu rhoi ar dudalennau rhyddion wedi eu rhifo'n olynol; ond os gwneir hynny rhaid i'r person sy'n llofnodi'r cofnodion dorri llythrennau'i enw ar bob tudalen.

3

Rhaid i'r person sy'n gweithredu fel clerc y corff llywodraethu at ddibenion unrhyw gyfarfod ysgrifennu'n union cyn y nodyn sy'n cofnodi'r cyfarfod hwnnw yn y llyfr neu ar y tudalennau a ddefnyddir at y diben hwnnw enwau'r aelodau hynny o'r corff llywodraethu ac unrhyw berson arall a oedd yn bresennol yn y cyfarfod dan sylw.

4

Rhaid i'r corff llywodraethu ddarparu copi o gofnodion drafft neu wedi'u llofnodi o gyfarfod penodol i'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol dan sylw os caiff gais gan yr awdurdod dan sylw.

Cyhoeddi cofnodion a phapurau48

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r corff llywodraethu, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, drefnu bod copi ar gael i'w archwilio yn yr ysgol, gan unrhyw berson â diddordeb, o—

a

agenda pob cyfarfod;

b

cofnodion wedi'u llofnodi o bob cyfarfod o'r fath;

c

unrhyw adroddiad neu bapur arall a ystyriwyd mewn unrhyw gyfarfod o'r fath; ac

ch

cofnodion drafft unrhyw gyfarfod, os cymeradwywyd hwy gan y person sy'n gweithredu fel cadeirydd y cyfarfod hwnnw.

2

Caiff y corff llywodraethu dynnu allan o unrhyw eitem y mae angen trefnu iddi fod ar gael yn unol â pharagraff (1) unrhyw ddeunydd yn ymwneud ag—

a

person a enwir sy'n gweithio, neu y bwriedir y dylai weithio, yn yr ysgol; neu

b

disgybl yn yr ysgol sy'n cael ei enwi, neu un sy'n gwneud cais am le yn yr ysgol; neu

c

unrhyw fater arall y mae'r corff llywodraethu yn fodlon y dylai aros yn gyfrinachol oherwydd ei natur.

3

Rhaid i bob tudalen o gopïau a gyhoeddir o unrhyw gofnodion drafft o drafodion cyfarfodydd a gymeradwywyd gan y cadeirydd nodi eu bod yn gofnodion drafft.

Atal llywodraethwyr49

1

Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3) a (4), caiff y corff llywodraethu drwy benderfyniad atal llywodraethwr o'r cyfan neu o rai o gyfarfodydd y corff llywodraethu, neu o bwyllgor, am gyfnod penodol o hyd at 6 mis am un neu ragor o'r rhesymau canlynol—

a

bod y llywodraethwr, ac yntau'n berson y telir iddo am weithio yn yr ysgol, yn destun achos disgyblu mewn perthynas â'i gyflogaeth;

b

bod y llywodraethwr yn destun achos mewn unrhyw lys neu dribiwnlys, y gallai ei ganlyniad olygu y caiff ei anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o dan Atodlen 5;

c

bod y llywodraethwr wedi gweithredu mewn modd sy'n anghyson ag ethos neu gymeriad crefyddol yr ysgol ac wedi dwyn neu'n debygol o ddwyn anfri ar yr ysgol neu ar y corff llywodraethu neu ar ei swydd; neu

ch

bod y llywodraethwr wedi torri ei ddyletswydd o gyfrinachedd i'r ysgol neu i unrhyw aelod o'r staff neu i unrhyw ddisgybl yn yr ysgol.

2

Ni fydd penderfyniad i atal llywodraethwr o'i swydd yn effeithiol oni fo'r mater wedi ei bennu fel eitem o fusnes ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod, y rhoddwyd hysbysiad ohono yn unol â rheoliad 45(7).

3

Cyn y cymerir pleidlais ar benderfyniad i atal llywodraethwr, rhaid i'r llywodraethwr sy'n cynnig y penderfyniad ddatgan yn y cyfarfod ei resymau dros wneud hynny, a rhaid rhoi cyfle i'r llywodraethwr sy'n destun y penderfyniad wneud datganiad yn ymateb cyn mynd allan o'r cyfarfod yn unol â pharagraff 2(2) o Atodlen 7.

4

Ni ddylid darllen dim yn y rheoliad hwn fel petai'n effeithio ar hawl llywodraethwr a ataliwyd—

a

i gael hysbysiad o gyfarfodydd y corff llywodraethu, ac agendâu ac adroddiadau neu bapurau eraill ar eu cyfer, na

b

i fynychu cyfarfod o'r corff llywodraethu a gynullir yn unol â rheoliad 30 i ystyried ei ddiswyddo

yn ystod cyfnod ei ataliad.

5

Ni ddylid darllen dim yn y rheoliad hwn fel petai'n rhwystro corff llywodraethu rhag atal llywodraethwr a ataliwyd o dan baragraff (1) am gyfnod neu gyfnodau pellach, pa un a yw am yr un rheswm â'r atal gwreiddiol ai peidio, a bydd paragraffau (1) i (4) yn gymwys i bob ataliad.

6

Ni chaiff llywodraethwr ei anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd o dan baragraff 5 o Atodlen 5 am beidio â mynychu unrhyw gyfarfod o'r corff llywodraethu tra bydd wedi ei atal o dan y rheoliad hwn.

Dirprwyo swyddogaethau50

1

Yn ddarostyngedig i reoliad 51 o'r Rheoliadau hyn, rheoliad 3(2) o Reoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Gweithdrefn Ddynodi) 199816 a rheoliad 7 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 200017, caiff y corff llywodraethu ddirprwyo unrhyw rai o'i swyddogaethau i—

a

pwyllgor;

b

unrhyw lywodraethwr; neu

c

y pennaeth (boed lywodraethwr neu beidio).

2

Pan fo corff llywodraethu wedi dirprwyo swyddogaethau ni fydd hyn yn rhwystro'r corff llywodraethu rhag arfer y swyddogaethau hynny.

3

Rhaid i'r corff llywodraethu adolygu'n flynyddol y modd yr arferir swyddogaethau a ddirprwywyd ganddo.

Cyfyngiadau ar ddirprwyo a phwyllgorau penodedig51

1

Ni chaiff y corff llywodraethu ddirprwyo o dan reoliad 50(1) ei swyddogaethau o dan y rheoliadau canlynol—

a

y rhai hynny yn Rhan 2 (categorïau o lywodraethwyr);

b

y rhai hynny yn Rhan 3 (cyfansoddiad cyrff llywodraethu);

c

y rhai hynny yn Rhan 4 (diswyddo llywodraethwyr);

ch

y rhai hynny yn Rhan 5 (offerynnau llywodraethu);

d

rheoliadau 39 a 41 (ethol a diswyddo cadeirydd ac is-gadeirydd);

dd

rheoliad 42 (penodi a diswyddo clerc y corff llywodraethu);

e

rheoliad 49 (atal llywodraethwyr);

f

rheoliad 50 (dirprwyo swyddogaethau);

ff

rheoliad 54 (sefydlu pwyllgorau)

ac ni chaiff ychwaith ddirprwyo ei swyddogaethau mewn perthynas â phanelau dethol pennaeth a dirprwy pennaeth o dan baragraff 6 o Atodlen 16 a pharagraffau 7 a 30 o Atodlen 17 i Ddeddf 1998.

2

Ni chaiff y corff llywodraethu ddirprwyo i unigolyn o dan reoliad 50(1)—

a

y swyddogaethau yn:

i

adrannau 28, 29, 30 a 31 o Ddeddf 1998, a pharagraff 10(4) yn Atodlen 6 iddi (Newid neu cau ysgolion a gynhelir);

ii

adrannau 2818 a 31 o Ddeddf 1998 fel y maent yn effeithiol yn rhinwedd Rheoliadau a wnaed o dan Atodlen 8 i Ddeddf 1998 mewn perthynas â chynigion o dan yr Atodlen honno (Newid categori ysgolion a gynhelir);

iii

cynllun a wnaed gan yr awdurdod lleol o dan adran 48(1) o Ddeddf 1998, i'r graddau y mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r corff llywodraethu gymeradwyo cynllun cyllideb ffurfiol cyntaf y flwyddyn ariannol;

iv

adran 61(1) i (3) o Ddeddf 1998 (polisïau disgyblaeth ysgolion);

v

adrannau 88, 8919, 89A20 90(8) a 91 o Ddeddf 1998 (sy'n ymwneud â phenderfynu ar drefniadau derbyn i ysgolion), adran 90(1) o Ddeddf 1998 (sy'n ymwneud â chyfeirio gwrthwynebiadau ynghylch trefniadau derbyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru), adran 93 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 23 iddi (sy'n ymwneud â phennu niferoedd derbyn ac amrywio niferoedd safonol), neu adran 9421 o Ddeddf 1998 i'r graddau y mae'n ymwneud â phenderfynu ynghylch trefniadau apêl gan y corff llywodraethu;

vi

adran 63 o Ddeddf 1998 (targedau mynychu ysgol);

vii

adran 439(7) o Ddeddf 1996 (gorchmynion mynychu ysgol);

viii

adran 95(2) a 97(3) o Ddeddf 1998 (apêl yn erbyn penderfyniad awdurdod addysg lleol i dderbyn plentyn a chyfeiriad i'r Cynulliad mewn cysylltiad â chyfarwyddyd a wneir gan awdurdod addysg lleol i dderbyn plentyn); na'r

b

swyddogaethau y mae'n rhaid eu dirprwyo i'r pwyllgorau a enwir yn rheoliadau 55 i 57.

Adrodd wrth y corff llywodraethu yn dilyn arfer swyddogaethau dirprwyedig52

1

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo unrhyw swyddogaeth o eiddo'r corff llywodraethu wedi ei dirprwyo i'r canlynol neu'n arferadwy fel arall gan y canlynol—

a

llywodraethwr (gan gynnwys y cadeirydd neu'r is-gadeirydd);

b

y pennaeth (boed yn llywodraethwr neu beidio); neu

c

pwyllgor.

2

Rhaid i unrhyw unigolyn neu bwyllgor y dirprwywyd swyddogaeth corff llywodraethu iddo neu sydd fel arall wedi arfer swyddogaeth corff llywodraethu, adrodd wrth y corff llywodraethu ynghylch unrhyw gam a gymerwyd neu benderfyniad a wnaed mewn perthynas ag arfer y swyddogaeth honno.

RHAN 9Pwyllgorau cyrff llywodraethu

Cymhwyso'r Rhan hon53

Nid yw'r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas â phanelau dethol penaethiaid a dirprwy benaethiaid a sefydlwyd o dan Atodlen 16 neu 17 i Ddeddf 1998.

Sefydlu pwyllgorau'r corff llywodraethu54

1

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bwyllgorau'r corff llywodraethu yn ddarostyngedig i reoliadau 55, 56 a 57.

2

Y corff llywodraethu sydd i benderfynu beth fydd cyfansoddiad, aelodaeth a chylch gwaith unrhyw bwyllgor y penderfyna ei sefydlu a'u hadolygu'n flynyddol.

3

Rhaid i'r corff llywodraethu benodi cadeirydd yn flynyddol ar bob pwyllgor neu raid i'r pwyllgor ei ethol, yn ôl penderfyniad y corff llywodraethu.

4

Rhaid i bwyllgor ethol aelod o'r pwyllgor hwnnw i weithredu fel cadeirydd yn absenoldeb y cadeirydd a benodwyd o dan baragraff (3).

5

Ni chaiff unrhyw un a gyflogir i weithio yn yr ysgol, na'r un o ddisgyblion cofrestredig yr ysgol, weithredu fel cadeirydd pwyllgor.

6

Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo cadeirydd unrhyw bwyllgor ar unrhyw adeg.

7

Caiff aelodaeth pwyllgor gynnwys personau nad ydynt yn llywodraethwyr a'r corff llywodraethu bydd yn penderfynu i ba raddau y bydd gan aelodau o'r fath hawl i bleidleisio.

8

Rhaid i fwyafrif yr aelodau ar unrhyw bwyllgor fod yn llywodraethwyr.

Y pwyllgor disgyblu a diswyddo staff a'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo55

1

Rhaid i swyddogaethau canlynol corff llywodraethu ysgol gael eu dirprwyo i bwyllgor, a elwir yn bwyllgor disgyblu a diswyddo staff—

i

mewn ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol arbennig gymunedol, y penderfyniad cychwynnol o dan baragraff 25 yn Atodlen 16 i Ddeddf 1998 y dylai unrhyw un a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol i weithio yn yr ysgol orffen gweithio yno;

ii

mewn ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol arbennig sefydledig, y penderfyniad cychwynnol y dylid terfynu contract cyflogaeth person a gyflogir i weithio yn yr ysgol â'r corff llywodraethu neu na ddylid adnewyddu ei gontract (ac eithrio pan fo'r diswyddo yn unol â chyfarwyddyd yr awdurdod addysg lleol o dan adran 55(5) o Ddeddf 1998); a

iii

gwrando ar sylwadau mewn perthynas â phenderfyniad y mae'n rhaid ei ddirprwyo o dan y paragraff hwn.

2

Rhaid dirprwyo gwrandawiad unrhyw apêl mewn perthynas â phenderfyniad y mae'n rhaid ei ddirprwyo o dan baragraff (1) i bwyllgor, a elwir yn bwyllgor apelau disgyblu a diswyddo.

3

Yn ddarostyngedig i baragraff (9), rhaid i'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff gynnwys o leiaf dri llywodraethwr.

4

Rhaid i'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo gynnwys o leiaf gynifer o lywodraethwyr â'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff y mae ei benderfyniad yn destun apêl.

5

Mae'r cworwm ar gyfer cyfarfod o'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff a'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo ac unrhyw bleidlais ar unrhyw fater yn y pwyllgorau yr un nifer ag isafswm y gofynion ar gyfer cyfansoddiad y pwyllgorau hynny a bennir yn y rheoliad hwn.

6

Pan fo'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo yn ystyried apêl yn erbyn penderfyniad pwyllgor disgyblu a diswyddo staff, ni chaiff unrhyw aelod o'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff y mae ei benderfyniad yn destun apêl gymryd rhan yn nhrafodion y pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo.

7

Ni chaiff pennaeth yr ysgol fod yn aelod o'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff nac o'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo.

8

Ni fydd gan unrhyw aelod o'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff na'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo nad yw'n llywodraethwr hawl i bleidleisio yn unrhyw drafodion y pwyllgor dan sylw.

9

Pan nad yw'n rhesymol ymarferol i'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff a'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo gynnwys tri llywodraethwr yr un, caiff y pwyllgor disgyblu a diswyddo staff gynnwys dau lywodraethwr.

Pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion56

1

Rhaid i gorff llywodraethu ysgol sefydlu pwyllgor, a elwir yn bwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion, i gyflawni'r swyddogaethau a roddwyd iddo gan neu o dan reoliadau a wnaed o dan adran 52(3) a (4) o Ddeddf 2002 (Gwahardd disgyblion)22.

2

Rhaid i'r pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion gynnwys naill ai dri neu bump o lywodraethwyr, ond nid y pennaeth.

3

Y cworwm ar gyfer cyfarfod o'r pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion ac unrhyw bleidlais ar unrhyw fater gerbron y pwyllgor yw tri aelod o'r pwyllgor.

4

Caiff cadeirydd y pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion arfer unrhyw swyddogaeth a roddwyd i'r corff llywodraethu gan neu o dan reoliadau a wnaed o dan adran 52(3) a (4) o Ddeddf 2002 (Gwahardd disgyblion) mewn achos—

a

pan fo disgybl wedi ei wahardd am gyfnod penodol mewn amgylchiadau lle y byddai, o ganlyniad i'r gwaharddiad, yn colli cyfle i sefyll unrhyw arholiad cyhoeddus; a

b

pan fo'n ymddangos i'r cadeirydd na fyddai'n ymarferol cynnal cyfarfod â chworwm o'r pwyllgor at unrhyw ddiben y cyfeirir ato mewn rheoliadau o'r fath cyn y deuai'r amser i'r disgybl sefyll yr arholiad hwnnw.

Pwyllgor derbyniadau57

1

Os corff llywodraethu ysgol yw'r awdurdod derbyn ar gyfer yr ysgol honno rhaid iddo sefydlu pwyllgor, a elwir yn bwyllgor derbyniadau, i arfer ei bwerau i benderfynu a ddylid derbyn unrhyw blentyn i'r ysgol.

2

Rhaid i bwyllgor a sefydlir o dan baragraff (1) gynnwys—

a

pennaeth yr ysgol (y bydd ganddo hawl i bleidleisio pa un a yw'n llywodraethwr ai peidio); a

b

o leiaf ddau lywodraethwr arall

3

Yn achos ysgol sydd â mwy nag un pennaeth, dehongler y cyfeiriad ym mharagraff (2)(a) at y pennaeth fel cyfeiriad at un o'r penaethiaid.

4

Mae'r cworwm ar gyfer y pwyllgor derbyniadau ac unrhyw bleidlais ar unrhyw fater yn y pwyllgor yr un fath â'r isafswm sy'n ofynnol ar gyfer aelodaeth y pwyllgor a bennir yn y rheoliad hwn.

Clercod pwyllgorau58

1

Rhaid i'r corff llywodraethu benodi clerc i bob pwyllgor a sefydlir yn unol â rheoliadau 55 i 57 a chaiff benodi clerc i unrhyw bwyllgor arall a sefydlir ganddo.

2

Ni cheir penodi pennaeth yr ysgol yn glerc o dan baragraff (1).

3

Er gwaethaf paragraff (1) caiff y pwyllgor, os metha'r clerc â mynychu un o'u cyfarfodydd, benodi unrhyw un o'u plith (ond nid y pennaeth) i weithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod hwnnw.

4

Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo unrhyw glerc a benodir i unrhyw bwyllgor o'i eiddo ar unrhyw adeg.

5

Rhaid i glerc a benodir i bwyllgor y corff llywodraethu—

a

cynnull cyfarfodydd y pwyllgor;

b

mynychu cyfarfodydd y pwyllgor a sicrhau y llunnir cofnodion o'r trafodion; ac

c

cyflawni pa swyddogaethau eraill bynnag mewn perthynas â'r pwyllgor hwnnw a benderfynir gan y corff llywodraethu o bryd i'w gilydd.

Hawl personau i fynychu cyfarfodydd pwyllgorau59

1

Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) ac Atodlen 7 i'r Rheoliadau hyn bydd gan y canlynol yr hawl i fynychu unrhyw gyfarfod o bwyllgor—

a

unrhyw aelod o'r pwyllgor, ar yr amod nad yw'n llywodraethwr a ataliwyd yn unol â rheoliad 49;

b

pennaeth yr ysgol, pa un a yw'n aelod o'r pwyllgor ai peidio;

c

clerc y pwyllgor; ac

ch

personau eraill y bo'r corff llywodraethu neu'r pwyllgor yn penderfynu yn eu cylch.

2

Caiff pwyllgor wahardd aelod nad yw'n llywodraethwr o unrhyw ran o'i gyfarfod y mae ganddo fel arall hawl i'w fynychu pan fo'r busnes o dan ystyriaeth yn ymwneud ag aelod unigol o'r staff neu â disgybl.

3

Nid yw paragraff (1)(b) yn gymwys mewn perthynas â'r pwyllgorau y cyfeirir atynt yn rheoliadau 55 a 56 nac mewn perthynas ag unrhyw bwyllgor neu banel dethol sy'n arfer unrhyw swyddogaeth o dan Atodlenni 16 neu 17 i Ddeddf 1998.

Cyfarfodydd pwyllgorau60

Yn ddarostyngedig i baragraff (2) rhaid i glerc i bwyllgor gynnull cyfarfodydd y pwyllgor hwnnw a mae'n rhaid iddo, wrth arfer y swyddogaeth hon, gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan—

a

y corff llywodraethu;

b

cadeirydd y pwyllgor hwnnw, i'r graddau nad yw unrhyw gyfarwyddyd o'r fath yn anghyson ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan is-baragraff (a).

2

Oni phenodwyd clerc, rhaid i'r cadeirydd gynnull cyfarfodydd pwyllgorau a mae'n rhaid iddo, wrth arfer y swyddogaeth hon, gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan y corff llywodraethu.

3

Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd a roddir yn unol â pharagraffau (1) neu (2), rhaid i'r clerc roi, o leiaf bum niwrnod gwaith ymlaen llaw, i bob aelod o'r pwyllgor ac i'r pennaeth (pa un a yw'n aelod o'r pwyllgor ai peidio)—

a

hysbysiad ysgrifenedig o'r cyfarfod,

b

copi o agenda'r cyfarfod, ac

c

unrhyw adroddiadau neu bapurau eraill sydd i'w hystyried yn y cyfarfod;

ond bydd yn ddigon pan fo cadeirydd y pwyllgor yn penderfynu hynny, ar y sail bod materion sy'n galw am sylw brys, i'r hysbysiad ysgrifenedig am y cyfarfod nodi'r ffaith honno ac i'r hysbysiad, yr agenda, a'r adroddiadau neu'r papurau eraill sydd i'w hystyried yn y cyfarfod gael eu rhoi o fewn cyfnod byrrach yn ôl ei gyfarwyddyd neu ei benderfyniad ef (yn ôl fel y digwydd).

4

Nid annilysir trafodion pwyllgor gan—

a

unrhyw le gwag ymhlith ei aelodau; na

b

unrhyw ddiffyg wrth benodi unrhyw aelod o'r pwyllgor.

5

Yn ddarostyngedig i reoliadau 55(5), 56(3) a 57(4), y cworwm ar gyfer cyfarfod o bwyllgor ac ar gyfer unrhyw bleidlais ar unrhyw fater mewn cyfarfod o'r fath yw hanner (wedi ei dalgrynnu i fyny i rif cyfan) aelodaeth y pwyllgor heb gynnwys unrhyw leoedd gwag.

6

Ni cheir cymryd pleidlais ar unrhyw fater mewn cyfarfod o bwyllgor oni fo mwyafrif aelodau'r pwyllgor sy'n bresennol yn llywodraethwyr.

7

Dyfernir ynghylch pob mater sydd i'w benderfynu mewn cyfarfod o bwyllgor gan fwyafrif o bleidleisiau aelodau'r pwyllgor sy'n bresennol ac yn pleidleisio ar y mater.

8

Pan fo'r pleidleisiau wedi eu rhannu'n gyfartal bydd gan y person sy'n gweithredu fel cadeirydd at ddibenion y cyfarfod ail bleidlais neu bleidlais fwrw, ar yr amod bod y cyfryw berson yn llywodraethwr.

Cofnodion cyfarfodydd pwyllgorau61

1

Rhaid i glerc pwyllgor neu'r person sy'n gweithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod lunio cofnodion o drafodion cyfarfod o bwyllgor; a rhaid i gadeirydd cyfarfod nesaf y pwyllgor eu llofnodi (yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y pwyllgor).

2

Rhaid i unrhyw bwyllgor corff llywodraethu ddarparu copi i'w awdurdod addysg lleol o gofnodion drafft neu gofnodion wedi'u llofnodi unrhyw gyfarfod o'i eiddo o gael cais gan yr awdurdod hwnnw.

Cyhoeddi cofnodion a phapurau62

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r pwyllgor, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, drefnu bod copi ar gael i'w archwilio yn yr ysgol, gan unrhyw un â diddordeb, o—

a

agenda pob cyfarfod o'r pwyllgor ;

b

cofnodion wedi'u llofnodi o bob cyfarfod o'r fath; ac

c

unrhyw adroddiad neu bapur arall a ystyriwyd mewn unrhyw gyfarfod o'r fath.

2

Caiff y pwyllgor dynnu allan o unrhyw eitem y mae angen trefnu ei fod ar gael yn unol â pharagraff (1) unrhyw ddeunydd yn ymwneud ag—

a

person a enwir sy'n gweithio, neu y bwriedir y dylai weithio, yn yr ysgol;

b

disgybl yn yr ysgol sy'n cael ei enwi, neu un sy'n gwneud cais am le yn yr ysgol;

c

unrhyw fater arall y mae'r pwyllgor yn fodlon y dylai aros yn gyfrinachol oherwydd ei natur.

RHAN 10

Cyfyngiadau ar bersonau rhag cymryd rhan mewn trafodion63

1

Yn y rheoliad hwn ac yn Atodlen 7—

a

ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw llywodraethwr, aelod o bwyllgor nad yw'n llywodraethwr, y pennaeth (boed yn llywodraethwr neu beidio) neu unrhyw berson a benodir yn glerc y corff llywodraethu neu bwyllgor; a

b

mae unrhyw gyfeiriad at “gyfarfod o'r ysgol” (“meeting of the school”) yn gyfeiriad at gyfarfod o'r corff llywodraethu neu o bwyllgor, gan gynnwys panel dethol a sefydlwyd o dan Atodlenni 16 neu 17 i Ddeddf 1998.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (4)—

a

pan fo gwrthdaro posibl mewn perthynas ag unrhyw fater rhwng buddiannau person perthnasol a buddiannau'r corff llywodraethu;

b

pan fo angen gwrandawiad teg a phan fo unrhyw amheuaeth resymol am allu person perthnasol i weithredu'n ddiduedd mewn perthynas ag unrhyw fater; neu

c

pan fo i berson perthnasol fuddiant ariannol mewn unrhyw fater;

rhaid i'r person hwnnw, os yw'n bresennol mewn cyfarfod o'r ysgol lle mae'r mater yn cael ei ystyried, ddatgelu'r buddiant sydd iddo, mynd allan o'r cyfarfod a pheidio â phleidleisio ar y mater dan sylw.

3

Ni ddylid dehongli dim yn y rheoliad hwn nac yn Atodlen 7 fel pe'n atal—

a

y corff llywodraethu, neu bwyllgor, rhag—

i

caniatáu i berson sydd yn eu tyb hwy yn gallu rhoi tystiolaeth fynychu unrhyw wrandawiad a gynhelir ganddynt ar unrhyw fater a chyflwyno ei dystiolaeth; neu

ii

clywed sylwadau gan berson perthnasol sy'n gweithredu mewn swyddogaeth ar wahân i swyddogaeth person perthnasol; neu

b

person perthnasol rhag ymrwymo i gontract â'r corff llywodraethu y mae ganddo hawl i elwa oddi wrtho.

4

Ni fydd yn ofynnol i berson sy'n gweithredu fel clerc i gyfarfod o'r ysgol fynd allan o gyfarfod yn rhinwedd y rheoliad hwn nac Atodlen 7 oni fo ei benodiad i swydd, ei dâl neu achos disgyblu yn ei erbyn o dan ystyriaeth, ond pe bai'r rheoliad hwn neu Atodlen 7 fel arall wedi ei gwneud yn ofynnol iddo fynd allan, ni chaiff weithredu mewn unrhyw swyddogaeth ac eithrio swyddogaeth clerc.

5

Os oes unrhyw anghydfod ynghylch a yw'n ofynnol i berson perthnasol yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu Atodlen 7, fynd allan o gyfarfod o'r ysgol a pheidio â phleidleisio, bydd y llywodraethwyr eraill sy'n bresennol yn y cyfarfod yn penderfynu ynghylch y mater hwnnw.

6

Mae Atodlen 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch buddiannau ariannol a mathau eraill penodedig o wrthdaro rhwng buddiannau.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199823

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol