xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
39.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i adran 18 o Ddeddf 1998(1) (Pŵer Cynulliad Cenedlaethol Cymru i benodi llywodraethwyr ychwanegol), rhaid i'r corff llywodraethu ethol cadeirydd ac is-gadeirydd o blith ei aelodau yn flynyddol.
(2) Nid yw llywodraethwr y telir iddo am weithio yn yr ysgol neu sy'n ddisgybl yn yr ysgol yn gymwys i fod yn gadeirydd neu'n is-gadeirydd corff llywodraethu'r ysgol honno.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), bydd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd yn dal swydd hyd nes y bydd ei olynydd wedi ei ethol yn unol â pharagraff (1).
(4) Caiff y cadeirydd neu'r is-gadeirydd ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu.
(5) Daw swydd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd i ben—
(a)pan fydd yn peidio â bod yn aelod o'r corff llywodraethu;
(b)os telir iddo am weithio yn yr ysgol dan sylw;
(c)os diswyddir ef yn unol â rheoliad 41 neu os cymerir ei le gan gadeirydd a enwebwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 18 o Ddeddf 1998; neu
(ch)yn achos yr is-gadeirydd, os etholir ef yn unol â pharagraff (6) i lenwi swydd wag y cadeirydd.
(6) Pan ddaw swydd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd yn wag, rhaid i'r corff llywodraethu yn ei gyfarfod nesaf ethol un o'u plith i lenwi'r swydd honno, yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i adran 18 o Ddeddf 1998.
(7) Rhaid cynnal unrhyw etholiad a ymleddir i fod yn gadeirydd neu is-gadeirydd drwy bleidlais gudd.
(8) Pan fydd y cadeirydd yn absennol o unrhyw gyfarfod neu os bydd swydd y cadeirydd yn wag ar y pryd, bydd yr is-gadeirydd yn gweithredu fel cadeirydd ym mhob diben.
(9) Os bydd yr is-gadeirydd yn yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (8) yn absennol o'r cyfarfod neu os bydd swydd yr is-gadeirydd yn wag ar y pryd, rhaid i'r corff llywodraethu ethol un o'u plith i weithredu fel cadeirydd at ddibenion y cyfarfod hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraff (2).
(10) Bydd clerc y corff llywodraethu yn gweithredu fel cadeirydd yn ystod y rhan honno o unrhyw gyfarfod yr etholir y cadeirydd ynddi.
40.—(1) Bydd gan y cadeirydd bŵer, pan fo'r amgylchiadau ym mharagraff (2) yn gymwys yn ei farn ef, i arfer unrhyw swyddogaethau o eiddo'r corff llywodraethu y gellir eu dirprwyo o dan reoliad 50(1).
(2) Yr amgylchiadau hynny yw y byddai oedi cyn arfer y swyddogaeth yn debygol o fod yn ddifrifol niweidiol i fuddiannau—
(a)yr ysgol;
(b)unrhyw ddisgybl yn yr ysgol, neu ei riant; neu
(c)person sy'n gweithio yn yr ysgol.
(3) Ym mharagraff (2), ystyr “oedi” (“delay”) yw oedi am gyfnod sy'n ymestyn y tu hwnt i'r dyddiad cynharaf y byddai'n rhesymol ymarferol cynnal cyfarfod o'r corff llywodraethu, neu o bwyllgor y dirprwywyd y swyddogaeth dan sylw iddo.
(4) Pan ymddengys i'r is-gadeirydd—
(a)fod yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (2) yn gymwys, a
(b)na fyddai'r cadeirydd (oherwydd bod y swydd yn wag neu am reswm arall) yn gallu arfer y swyddogaeth dan sylw cyn i'r niwed y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw ddigwydd,
darllenir y cyfeiriad at y cadeirydd ym mharagraff (1) fel pe bai'n gyfeiriad at yr is-gadeirydd.
41.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), caiff y corff llywodraethu drwy benderfyniad ddiswyddo'r cadeirydd, onis enwebwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 18 o Ddeddf 1998.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), caiff y corff llywodraethu drwy benderfyniad ddiswyddo'r is-gadeirydd.
(3) Ni fydd penderfyniad i ddiswyddo'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd yn effeithiol oni fo'r mater wedi ei bennu fel eitem o fusnes ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod, y rhoddwyd hysbysiad ohono yn unol â rheoliad 45(7).
(4) Cyn i'r corff llywodraethu benderfynu diswyddo'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd, rhaid i'r llywodraethwr sy'n cynnig ei ddiswyddo ddatgan yn y cyfarfod hwnnw ei resymau dros wneud hynny a rhaid rhoi cyfle i'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd (yn ôl fel y digwydd) ymateb drwy wneud datganiad, cyn mynd allan o'r cyfarfod.
42.—(1) Ni fydd y rheoliad hwn yn amharu ar unrhyw hawliau a chyfrifoldebau a all fod gan y clerc o dan unrhyw gontract â'r corff llywodraethu neu â'r awdurdod addysg lleol.
(2) Rhaid i'r corff llywodraethu benodi clerc i'r corff llywodraethu.
(3) Ni chaiff clerc y corff llywodraethu fod—
(a)yn llywodraethwr;
(b)yn aelod nad yw'n llywodraethwr o unrhyw un o bwyllgorau'r corff llywodraethu;
nac
(c)yn bennaeth yr ysgol.
(4) Er gwaethaf paragraff (2) caiff y corff llywodraethu, os metha'r clerc â mynychu un o'u cyfarfodydd, benodi unrhyw un o'u plith (ond nid y pennaeth) i weithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod hwnnw.
(5) Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo clerc y corff llywodraethu.
(6) Os nad oes gan yr ysgol ar unrhyw adeg gyllideb ddirprwyedig(2), caiff yr awdurdod addysg lleol ddiswyddo clerc y corff llywodraethu a phenodi dirprwy, ar yr amod bod yr awdurdod addysg lleol yn ymgynghori â'r corff llywodraethu cyn gweithredu fel hynny.
43.—(1) Rhaid i glerc y corff llywodraethu—
(a)gynnull cyfarfodydd y corff llywodraethu yn unol â rheoliad 45;
(b)mynychu cyfarfodydd y corff llywodraethu a sicrhau bod cofnodion y trafodion yn cael eu cynhyrchu yn unol â rheoliad 47(1);
(c)cadw cofrestr o aelodau'r corff llywodraethu ac adrodd am unrhyw leoedd gwag wrth y corff llywodraethu;
(ch)cadw cofrestr o bresenoldeb llywodraethwyr mewn cyfarfodydd ac adrodd ar unrhyw ddiffyg presenoldeb wrth y corff llywodraethu;
(d)rhoi a derbyn hysbysiadau yn unol â
rheoliadau 21 (Hysbysu swyddi gwag a phenodiadau), 26 (Ymddiswyddo), 27 (Diswyddo llywodraethwyr), 39(4) (Ymddiswyddiad y cadeirydd neu'r is-gadeirydd) a 45(4) (cynnull cyfarfodydd) o, a pharagraff 13 o Atodlen 5 (Hysbysiad o anghymhwyso) i, y Rheoliadau hyn.
(dd)adrodd wrth y corff llywodraethu fel sy'n ofynnol ar gyflawni ei swyddogaethau; ac
(e)cyflawni pa swyddogaethau eraill bynnag a benderfynir gan y corff llywodraethu o bryd i'w gilydd.
(2) Caiff clerc y corff llywodraethu ddarparu cyngor iddo ar ei swyddogaethau a gweithdrefnau.
Diwygiwyd gan adran 56 o Ddeddf 2002.
Gweler adran 39(2) o Ddeddf 2002.