- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
53. Nid yw'r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas â phanelau dethol penaethiaid a dirprwy benaethiaid a sefydlwyd o dan Atodlen 16 neu 17 i Ddeddf 1998.
54.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bwyllgorau'r corff llywodraethu yn ddarostyngedig i reoliadau 55, 56 a 57.
(2) Y corff llywodraethu sydd i benderfynu beth fydd cyfansoddiad, aelodaeth a chylch gwaith unrhyw bwyllgor y penderfyna ei sefydlu a'u hadolygu'n flynyddol.
(3) Rhaid i'r corff llywodraethu benodi cadeirydd yn flynyddol ar bob pwyllgor neu raid i'r pwyllgor ei ethol, yn ôl penderfyniad y corff llywodraethu.
(4) Rhaid i bwyllgor ethol aelod o'r pwyllgor hwnnw i weithredu fel cadeirydd yn absenoldeb y cadeirydd a benodwyd o dan baragraff (3).
(5) Ni chaiff unrhyw un a gyflogir i weithio yn yr ysgol, na'r un o ddisgyblion cofrestredig yr ysgol, weithredu fel cadeirydd pwyllgor.
(6) Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo cadeirydd unrhyw bwyllgor ar unrhyw adeg.
(7) Caiff aelodaeth pwyllgor gynnwys personau nad ydynt yn llywodraethwyr a'r corff llywodraethu bydd yn penderfynu i ba raddau y bydd gan aelodau o'r fath hawl i bleidleisio.
(8) Rhaid i fwyafrif yr aelodau ar unrhyw bwyllgor fod yn llywodraethwyr.
55.—(1) Rhaid i swyddogaethau canlynol corff llywodraethu ysgol gael eu dirprwyo i bwyllgor, a elwir yn bwyllgor disgyblu a diswyddo staff—
(i)mewn ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol arbennig gymunedol, y penderfyniad cychwynnol o dan baragraff 25 yn Atodlen 16 i Ddeddf 1998 y dylai unrhyw un a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol i weithio yn yr ysgol orffen gweithio yno;
(ii)mewn ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol arbennig sefydledig, y penderfyniad cychwynnol y dylid terfynu contract cyflogaeth person a gyflogir i weithio yn yr ysgol â'r corff llywodraethu neu na ddylid adnewyddu ei gontract (ac eithrio pan fo'r diswyddo yn unol â chyfarwyddyd yr awdurdod addysg lleol o dan adran 55(5) o Ddeddf 1998); a
(iii)gwrando ar sylwadau mewn perthynas â phenderfyniad y mae'n rhaid ei ddirprwyo o dan y paragraff hwn.
(2) Rhaid dirprwyo gwrandawiad unrhyw apêl mewn perthynas â phenderfyniad y mae'n rhaid ei ddirprwyo o dan baragraff (1) i bwyllgor, a elwir yn bwyllgor apelau disgyblu a diswyddo.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (9), rhaid i'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff gynnwys o leiaf dri llywodraethwr.
(4) Rhaid i'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo gynnwys o leiaf gynifer o lywodraethwyr â'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff y mae ei benderfyniad yn destun apêl.
(5) Mae'r cworwm ar gyfer cyfarfod o'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff a'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo ac unrhyw bleidlais ar unrhyw fater yn y pwyllgorau yr un nifer ag isafswm y gofynion ar gyfer cyfansoddiad y pwyllgorau hynny a bennir yn y rheoliad hwn.
(6) Pan fo'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo yn ystyried apêl yn erbyn penderfyniad pwyllgor disgyblu a diswyddo staff, ni chaiff unrhyw aelod o'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff y mae ei benderfyniad yn destun apêl gymryd rhan yn nhrafodion y pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo.
(7) Ni chaiff pennaeth yr ysgol fod yn aelod o'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff nac o'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo.
(8) Ni fydd gan unrhyw aelod o'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff na'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo nad yw'n llywodraethwr hawl i bleidleisio yn unrhyw drafodion y pwyllgor dan sylw.
(9) Pan nad yw'n rhesymol ymarferol i'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff a'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo gynnwys tri llywodraethwr yr un, caiff y pwyllgor disgyblu a diswyddo staff gynnwys dau lywodraethwr.
56.—(1) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol sefydlu pwyllgor, a elwir yn bwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion, i gyflawni'r swyddogaethau a roddwyd iddo gan neu o dan reoliadau a wnaed o dan adran 52(3) a (4) o Ddeddf 2002 (Gwahardd disgyblion)(1).
(2) Rhaid i'r pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion gynnwys naill ai dri neu bump o lywodraethwyr, ond nid y pennaeth.
(3) Y cworwm ar gyfer cyfarfod o'r pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion ac unrhyw bleidlais ar unrhyw fater gerbron y pwyllgor yw tri aelod o'r pwyllgor.
(4) Caiff cadeirydd y pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion arfer unrhyw swyddogaeth a roddwyd i'r corff llywodraethu gan neu o dan reoliadau a wnaed o dan adran 52(3) a (4) o Ddeddf 2002 (Gwahardd disgyblion) mewn achos—
(a)pan fo disgybl wedi ei wahardd am gyfnod penodol mewn amgylchiadau lle y byddai, o ganlyniad i'r gwaharddiad, yn colli cyfle i sefyll unrhyw arholiad cyhoeddus; a
(b)pan fo'n ymddangos i'r cadeirydd na fyddai'n ymarferol cynnal cyfarfod â chworwm o'r pwyllgor at unrhyw ddiben y cyfeirir ato mewn rheoliadau o'r fath cyn y deuai'r amser i'r disgybl sefyll yr arholiad hwnnw.
57.—(1) Os corff llywodraethu ysgol yw'r awdurdod derbyn ar gyfer yr ysgol honno rhaid iddo sefydlu pwyllgor, a elwir yn bwyllgor derbyniadau, i arfer ei bwerau i benderfynu a ddylid derbyn unrhyw blentyn i'r ysgol.
(2) Rhaid i bwyllgor a sefydlir o dan baragraff (1) gynnwys—
(a)pennaeth yr ysgol (y bydd ganddo hawl i bleidleisio pa un a yw'n llywodraethwr ai peidio); a
(b)o leiaf ddau lywodraethwr arall
(3) Yn achos ysgol sydd â mwy nag un pennaeth, dehongler y cyfeiriad ym mharagraff (2)(a) at y pennaeth fel cyfeiriad at un o'r penaethiaid.
(4) Mae'r cworwm ar gyfer y pwyllgor derbyniadau ac unrhyw bleidlais ar unrhyw fater yn y pwyllgor yr un fath â'r isafswm sy'n ofynnol ar gyfer aelodaeth y pwyllgor a bennir yn y rheoliad hwn.
58.—(1) Rhaid i'r corff llywodraethu benodi clerc i bob pwyllgor a sefydlir yn unol â rheoliadau 55 i 57 a chaiff benodi clerc i unrhyw bwyllgor arall a sefydlir ganddo.
(2) Ni cheir penodi pennaeth yr ysgol yn glerc o dan baragraff (1).
(3) Er gwaethaf paragraff (1) caiff y pwyllgor, os metha'r clerc â mynychu un o'u cyfarfodydd, benodi unrhyw un o'u plith (ond nid y pennaeth) i weithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod hwnnw.
(4) Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo unrhyw glerc a benodir i unrhyw bwyllgor o'i eiddo ar unrhyw adeg.
(5) Rhaid i glerc a benodir i bwyllgor y corff llywodraethu—
(a)cynnull cyfarfodydd y pwyllgor;
(b)mynychu cyfarfodydd y pwyllgor a sicrhau y llunnir cofnodion o'r trafodion; ac
(c)cyflawni pa swyddogaethau eraill bynnag mewn perthynas â'r pwyllgor hwnnw a benderfynir gan y corff llywodraethu o bryd i'w gilydd.
59.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) ac Atodlen 7 i'r Rheoliadau hyn bydd gan y canlynol yr hawl i fynychu unrhyw gyfarfod o bwyllgor—
(a)unrhyw aelod o'r pwyllgor, ar yr amod nad yw'n llywodraethwr a ataliwyd yn unol â rheoliad 49;
(b)pennaeth yr ysgol, pa un a yw'n aelod o'r pwyllgor ai peidio;
(c)clerc y pwyllgor; ac
(ch)personau eraill y bo'r corff llywodraethu neu'r pwyllgor yn penderfynu yn eu cylch.
(2) Caiff pwyllgor wahardd aelod nad yw'n llywodraethwr o unrhyw ran o'i gyfarfod y mae ganddo fel arall hawl i'w fynychu pan fo'r busnes o dan ystyriaeth yn ymwneud ag aelod unigol o'r staff neu â disgybl.
(3) Nid yw paragraff (1)(b) yn gymwys mewn perthynas â'r pwyllgorau y cyfeirir atynt yn rheoliadau 55 a 56 nac mewn perthynas ag unrhyw bwyllgor neu banel dethol sy'n arfer unrhyw swyddogaeth o dan Atodlenni 16 neu 17 i Ddeddf 1998.
60. Yn ddarostyngedig i baragraff (2) rhaid i glerc i bwyllgor gynnull cyfarfodydd y pwyllgor hwnnw a mae'n rhaid iddo, wrth arfer y swyddogaeth hon, gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan—
(a)y corff llywodraethu;
(b)cadeirydd y pwyllgor hwnnw, i'r graddau nad yw unrhyw gyfarwyddyd o'r fath yn anghyson ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan is-baragraff (a).
(2) Oni phenodwyd clerc, rhaid i'r cadeirydd gynnull cyfarfodydd pwyllgorau a mae'n rhaid iddo, wrth arfer y swyddogaeth hon, gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan y corff llywodraethu.
(3) Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd a roddir yn unol â pharagraffau (1) neu (2), rhaid i'r clerc roi, o leiaf bum niwrnod gwaith ymlaen llaw, i bob aelod o'r pwyllgor ac i'r pennaeth (pa un a yw'n aelod o'r pwyllgor ai peidio)—
(a)hysbysiad ysgrifenedig o'r cyfarfod,
(b)copi o agenda'r cyfarfod, ac
(c)unrhyw adroddiadau neu bapurau eraill sydd i'w hystyried yn y cyfarfod;
ond bydd yn ddigon pan fo cadeirydd y pwyllgor yn penderfynu hynny, ar y sail bod materion sy'n galw am sylw brys, i'r hysbysiad ysgrifenedig am y cyfarfod nodi'r ffaith honno ac i'r hysbysiad, yr agenda, a'r adroddiadau neu'r papurau eraill sydd i'w hystyried yn y cyfarfod gael eu rhoi o fewn cyfnod byrrach yn ôl ei gyfarwyddyd neu ei benderfyniad ef (yn ôl fel y digwydd).
(4) Nid annilysir trafodion pwyllgor gan—
(a)unrhyw le gwag ymhlith ei aelodau; na
(b) unrhyw ddiffyg wrth benodi unrhyw aelod o'r pwyllgor.
(5) Yn ddarostyngedig i reoliadau 55(5), 56(3) a 57(4), y cworwm ar gyfer cyfarfod o bwyllgor ac ar gyfer unrhyw bleidlais ar unrhyw fater mewn cyfarfod o'r fath yw hanner (wedi ei dalgrynnu i fyny i rif cyfan) aelodaeth y pwyllgor heb gynnwys unrhyw leoedd gwag.
(6) Ni cheir cymryd pleidlais ar unrhyw fater mewn cyfarfod o bwyllgor oni fo mwyafrif aelodau'r pwyllgor sy'n bresennol yn llywodraethwyr.
(7) Dyfernir ynghylch pob mater sydd i'w benderfynu mewn cyfarfod o bwyllgor gan fwyafrif o bleidleisiau aelodau'r pwyllgor sy'n bresennol ac yn pleidleisio ar y mater.
(8) Pan fo'r pleidleisiau wedi eu rhannu'n gyfartal bydd gan y person sy'n gweithredu fel cadeirydd at ddibenion y cyfarfod ail bleidlais neu bleidlais fwrw, ar yr amod bod y cyfryw berson yn llywodraethwr.
61.—(1) Rhaid i glerc pwyllgor neu'r person sy'n gweithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod lunio cofnodion o drafodion cyfarfod o bwyllgor; a rhaid i gadeirydd cyfarfod nesaf y pwyllgor eu llofnodi (yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y pwyllgor).
(2) Rhaid i unrhyw bwyllgor corff llywodraethu ddarparu copi i'w awdurdod addysg lleol o gofnodion drafft neu gofnodion wedi'u llofnodi unrhyw gyfarfod o'i eiddo o gael cais gan yr awdurdod hwnnw.
62.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r pwyllgor, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, drefnu bod copi ar gael i'w archwilio yn yr ysgol, gan unrhyw un â diddordeb, o—
(a)agenda pob cyfarfod o'r pwyllgor ;
(b)cofnodion wedi'u llofnodi o bob cyfarfod o'r fath; ac
(c)unrhyw adroddiad neu bapur arall a ystyriwyd mewn unrhyw gyfarfod o'r fath.
(2) Caiff y pwyllgor dynnu allan o unrhyw eitem y mae angen trefnu ei fod ar gael yn unol â pharagraff (1) unrhyw ddeunydd yn ymwneud ag—
(a)person a enwir sy'n gweithio, neu y bwriedir y dylai weithio, yn yr ysgol;
(b)disgybl yn yr ysgol sy'n cael ei enwi, neu un sy'n gwneud cais am le yn yr ysgol;
(c)unrhyw fater arall y mae'r pwyllgor yn fodlon y dylai aros yn gyfrinachol oherwydd ei natur.
Gweler y Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003, O.S. 2003/3227 (Cy. 308) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/1805 (Cy. 193).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: