RHAN 5Offeryn Llywodraethu

Y weithdrefn ar gyfer gwneud offeryn

34.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid i'r corff llywodraethu baratoi drafft o'r offeryn llywodraethu a'i gyflwyno i'r awdurdod addysg lleol.

(2Pan fo gan ysgol lywodraethwyr sefydledig, rhaid i'r corff llywodraethu beidio â chyflwyno'r drafft i'r awdurdod addysg lleol hyd nes y bydd wedi ei gymeradwyo gan—

(a)y llywodraethwyr sefydledig;

(b)unrhyw ymddiriedolwyr o unrhyw ymddiriedolaeth sy'n gysylltiedig â'r ysgol;

(c)yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu'r Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol; ac

(ch)yn achos unrhyw ysgol arall a ddynodir o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 fel un sy'n meddu ar gymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

(3Pan geir y drafft rhaid i'r awdurdod addysg lleol ystyried a yw'n cydymffurfio â'r holl ddarpariaethau statudol cymwys, ac—

(a)os yw'n fodlon bod y drafft yn cydymffurfio fel hynny, neu

(b)os oes cytundeb rhyngddo, y corff llywodraethu ac (os oes gan yr ysgol lywodraethwyr sefydledig) y personau a grybwyllir ym mharagraff (2) y dylid diwygio'r drafft i unrhyw raddau a bod y drafft diwygiedig yn cydymffurfio â phob un o'r darpariaethau statudol sy'n gymwys,

rhaid i'r offeryn llywodraethu gael ei wneud ganddo ar ffurf y drafft neu (yn ôl fel y digwydd) ar ffurf y drafft diwygiedig.

(4Os bydd y personau a restrir ym mharagraff (2), yn achos ysgol sydd â llywodraethwyr sefydledig, ar unrhyw adeg yn anghytuno â'r drafft, caiff unrhyw un neu unrhyw rai o'r personau hynny ei gyfeirio at Gynulliad Cenedlaethol Cymru a rhaid i'r Cynulliad roi cyfarwyddyd fel y gwêl yn dda gan ystyried, yn arbennig, y categori o ysgol y perthyn yr ysgol iddo.

(5Os nad yw'r naill na'r llall o is-baragraffau (a) a (b) o baragraff (3) yn gymwys yn achos ysgol nad oes ganddi lywodraethwyr sefydledig, rhaid i'r awdurdod addysg lleol—

(a)roi gwybod i'r corff llywodraethu pam nad yw'n fodlon â'r offeryn llywodraethu drafft, a

(b)rhoi cyfle rhesymol i'r corff llywodraethu ddod i gytundeb ag ef ynghylch diwygio'r drafft;

a rhaid iddo wneud yr offeryn llywodraethu naill ai ar ffurf drafft diwygiedig y bydd ef a'r corff llywodraethu yn cytuno yn ei gylch neu (yn niffyg cytundeb o'r fath) ar ffurf fel y gwêl yn dda gan ystyried, yn arbennig, y categori o ysgol y perthyn yr ysgol iddo.

(6Yn achos ysgol feithrin a gynhelir, rhaid i'r awdurdod addysg lleol baratoi a gwneud yr offeryn llywodraethu cyntaf.