42.—(1) Ni fydd y rheoliad hwn yn amharu ar unrhyw hawliau a chyfrifoldebau a all fod gan y clerc o dan unrhyw gontract â'r corff llywodraethu neu â'r awdurdod addysg lleol.
(2) Rhaid i'r corff llywodraethu benodi clerc i'r corff llywodraethu.
(3) Ni chaiff clerc y corff llywodraethu fod—
(a)yn llywodraethwr;
(b)yn aelod nad yw'n llywodraethwr o unrhyw un o bwyllgorau'r corff llywodraethu;
nac
(c)yn bennaeth yr ysgol.
(4) Er gwaethaf paragraff (2) caiff y corff llywodraethu, os metha'r clerc â mynychu un o'u cyfarfodydd, benodi unrhyw un o'u plith (ond nid y pennaeth) i weithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod hwnnw.
(5) Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo clerc y corff llywodraethu.
(6) Os nad oes gan yr ysgol ar unrhyw adeg gyllideb ddirprwyedig(1), caiff yr awdurdod addysg lleol ddiswyddo clerc y corff llywodraethu a phenodi dirprwy, ar yr amod bod yr awdurdod addysg lleol yn ymgynghori â'r corff llywodraethu cyn gweithredu fel hynny.
Gweler adran 39(2) o Ddeddf 2002.