xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 9Pwyllgorau cyrff llywodraethu

Pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion

56.—(1Rhaid i gorff llywodraethu ysgol sefydlu pwyllgor, a elwir yn bwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion, i gyflawni'r swyddogaethau a roddwyd iddo gan neu o dan reoliadau a wnaed o dan adran 52(3) a (4) o Ddeddf 2002 (Gwahardd disgyblion)(1).

(2Rhaid i'r pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion gynnwys naill ai dri neu bump o lywodraethwyr, ond nid y pennaeth.

(3Y cworwm ar gyfer cyfarfod o'r pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion ac unrhyw bleidlais ar unrhyw fater gerbron y pwyllgor yw tri aelod o'r pwyllgor.

(4Caiff cadeirydd y pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion arfer unrhyw swyddogaeth a roddwyd i'r corff llywodraethu gan neu o dan reoliadau a wnaed o dan adran 52(3) a (4) o Ddeddf 2002 (Gwahardd disgyblion) mewn achos—

(a)pan fo disgybl wedi ei wahardd am gyfnod penodol mewn amgylchiadau lle y byddai, o ganlyniad i'r gwaharddiad, yn colli cyfle i sefyll unrhyw arholiad cyhoeddus; a

(b)pan fo'n ymddangos i'r cadeirydd na fyddai'n ymarferol cynnal cyfarfod â chworwm o'r pwyllgor at unrhyw ddiben y cyfeirir ato mewn rheoliadau o'r fath cyn y deuai'r amser i'r disgybl sefyll yr arholiad hwnnw.

(1)

Gweler y Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003, O.S. 2003/3227 (Cy. 308) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/1805 (Cy. 193).