- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Rheoliad 4)
1. Yn yr Atodlen hon ystyr “awdurdod priodol” (“appropriate authority”) yw—
(a)mewn perthynas ag ysgol gymunedol, ysgol arbennig gymunedol, ysgol feithrin a gynhelir neu ysgol wirfoddol a reolir, yr awdurdod addysg lleol; a
(b)yn ddarostyngedig i baragraff 3, mewn perthynas ag ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ysgol sefydledig neu ysgol arbennig sefydledig, y corff llywodraethu.
2. Os yr awdurdod addysg lleol yw'r awdurdod priodol mewn perthynas ag ysgol, caiff yr awdurdod hwnnw ddirprwyo i bennaeth yr ysgol unrhyw rai o'i swyddogaethau o dan yr Atodlen hon.
3. Yr awdurdod addysg lleol fydd yr awdurdod priodol mewn perthynas ag ysgol o fewn paragraff 1(b) os bydd y corff llywodraethu a'r awdurdod addysg lleol yn cytuno ynghylch hynny.
4. Yn ddarostyngedig i baragraffau 5 i 9 rhaid i'r awdurdod priodol wneud yr holl drefniadau angenrheidiol i ethol rhiant-lywodraethwyr.
5. Yr awdurdod priodol sydd i benderfynu, at ddibenion ethol rhiant-lywodraethwyr, unrhyw gwestiwn ynghylch a yw person yn rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol.
6. Yn achos y pŵer a osodir gan baragraff 4—
(a)nid yw'n cynnwys pŵer i osod unrhyw ofynion ynghylch yr isafswm o bleidleisiau y mae angen eu bwrw i ymgeisydd gael ei ethol, ond
(b)mae'n cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth ynghylch dyddiadau cymhwyso.
7. Rhaid cynnal unrhyw etholiad a ymleddir drwy bleidlais gudd.
8.—(1) Rhaid i'r trefniadau a wneir o dan baragraff 4 ddarparu bod pawb sydd â'r hawl i bleidleisio yn cael cyfle i wneud hynny drwy'r post.
(2) At ddibenion is-baragraff (1), mae “post” (“post”) yn cynnwys danfon drwy law.
(3) Caiff y trefniadau a wneir o dan baragraff 4 ddarparu i bawb y mae ganddo neu ganddi hawl i bleidleisio gael cyfle i wneud hynny drwy gyfrwng electronig.
9. Pan ddaw lle'n wag i riant-lywodraethwr, rhaid i'r awdurdod priodol gymryd y camau hynny sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau bod pob un y mae'n gwybod ei fod yn rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol—
(a)yn cael gwybod am y lle gwag a'i bod yn ofynnol ei lenwi drwy etholiad;
(b)yn cael gwybod bod ganddo hawl i sefyll fel ymgeisydd a phleidleisio yn yr etholiad; ac
(c)yn cael cyfle i wneud hynny.
10. Rhaid sicrhau'r nifer o riant-lywodraethwyr sy'n ofynnol drwy ychwanegu rhiant-lywodraethwyr a benodir gan y corff llywodraethu, os daw un neu ragor o lefydd ar gyfer rhiant-lywodraethwyr yn wag a naill ai—
(a)bod y nifer o rieni sy'n sefyll i'w hethol yn llai na nifer y lleoedd gwag;
(b)bod o leiaf 50 y cant o'r disgyblion cofrestredig yn yr ysgol yn lletywyr ac y byddai, ym marn yr awdurdod priodol, yn anymarferol ethol rhiant-lywodraethwyr; neu
(c)yn achos ysgol sy'n ysgol arbennig gymunedol neu'n ysgol arbennig a sefydlwyd mewn ysbyty, y byddai, ym marn yr awdurdod priodol, yn anymarferol ethol rhiant-lywodraethwyr.
11.—(1) Ac eithrio pan fo paragraff 12 yn gymwys, rhaid i'r corff llywodraethu benodi'n rhiant-lywodraethwr—
(a)rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol; neu
(b)pan nad yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, rhiant plentyn sydd o oedran ysgol gorfodol, neu yn achos ysgol feithrin a gynhelir, sydd o oedran neu o dan oedran ysgol gorfodol.
12.—(1) Pan fo'r ysgol yn ysgol arbennig gymunedol neu'n ysgol arbennig sefydledig, rhaid i'r corff llywodraethu benodi—
(a)rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol; neu
(b)rhiant plentyn sydd o oedran ysgol gorfodol ac sydd ag anghenion addysgol arbennig; neu
(c)rhiant person o unrhyw oedran sydd ag anghenion addysgol arbennig; neu
(ch)rhiant plentyn o oedran ysgol gorfodol.
(2) Dim ond os nad yw'n rhesymol ymarferol penodi person y cyfeirir ato yn yr is-baragraff sy'n union o'i flaen y caiff y corff llywodraethu benodi person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) (b), (c) neu (ch).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: